Caiff cyfres fideos #CenedlFachSyniadauMawr ei lansio ar dydd Llun, 22 Tachwedd 2021 fel rhan o COP Cymru ac Wythnos Hinsawdd Cymru, i arddangos ymchwil ac arloesedd o bob cwr o Gymru sy'n rhoi sylw i’r newid yn yr hinsawdd.
“Mi wyddwn i fod yna bethau gwych yn digwydd ym mhrifysgolion Cymru ond roedd gweithio ar y gyfres hon yn agoriad llygad go iawn.” meddai Yr Athro Julia Jones, Athro Gwyddorau Cadwraeth Prifysgol Bangor a Chyfarwyddwr yr Uned Carbon Isel Ynni a’r Amgylchedd
“Un o’r enghreifftiau gorau yw fideo Charlie Dunnill sef defnyddio beic ymarfer i ddangos sut y gall hydrogen - sy’n danwydd gwyrdd allweddol at y dyfodol - storio ynni glân. Os hoffech chi gyflwyniad cyflym i amrywiaeth a newydd-deb y wyddoniaeth sy'n digwydd yng Nghymru (a'r personoliaethau y tu ôl iddi), gwyliwch rai o'r fideos."
Mae cyfres fideos #CenedlFachSyniadauMawr, yn cynnwys nifer o fideos byr sy’n dangos sut mae ymchwilwyr yng Nghymru yn helpu mynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang neu addasu iddynt. Mae'r gyfres yn cynnwys bron i 40 o fideos gan gynnwys:
- Dr Prysor Williams (Prifysgol Bangor) sy’n defnyddio tyrbinau i wella effeithlonrwydd y sector dŵr.
- Dr Emily Preedy (Prifysgol Abertawe) yn esbonio sut mae hi'n defnyddio algâu i droi gwastraff o ddiwydiant yn fwyd anifeiliaid.
- Dr Kerrie Farrar (Prifysgol Aberystwyth) sy’n ceisio bridio cnydau fydd yn tyfu’n well dan amodau newid hinsawdd y dyfodol.
- Kathryn Whittey (Prifysgol Caerdydd) yn defnyddio strwythurau ffug i hybu bioamrywiaeth lle mae cwrel wedi ei golli o ganlyniad newid hinsawdd.
- Dr Morwenna Spear (Prifysgol Bangor) yn esbonio sut all deunyddiau coed fod o les i ôl troed carbon y sector adeiladu.
- Dr Hywel Griffiths (Prifysgol Aberystwyth) yn defnyddio dogfennau hanesyddol i gynllunio ar gyfer llifogydd.
Mae’r Athro Mary Gagen, Prifysgol Abertawe, trwy Gynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe wedi cynhyrchu nifer o fidoes Cenhedloedd Bach Syniadau Mawr. Dywedodd:
“Caiff Cymru ei disgrifio’n aml fel cenedl sy’n ddigon bach i gyflawni pethau ac sy’n ddigon mawr i wneud gwahaniaeth ac rwy’n credu mai felly mae ein hymchwil hefyd mewn arloesedd amgylcheddol a gwyddorau’r hinsawdd. O ddatblygu dur gwyrdd i ffermio adferol, mae pob sector yng Nghymru yn chwarae ei ran i'n helpu ni gyflawni Sero Net, ac yna mynd â’r allyriadau i’r negyddol. Mae'r fideos yn cyflwyno rhai o'r gwyddonwyr a’r peirianwyr o Gymru sy'n gweithio i gyflawni hynny.”
Cenedl fach yw Cymru sy’n rhagori mewn ymchwil ar hinsawdd ac ynni. Canfu adolygiad diweddar fod bron traean o holl ymchwil Cymru yn ymwneud â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r ymchwil o safon uchel iawn hefyd, o’i gloriannu yn ôl pa mor aml y caiff ei ddefnyddio gan wyddonwyr eraill. Mae i ymchwil Cymru gryfder neilltuol o ran y Nodau Datblygu Cynaliadwy sy'n ymwneud â'r amgylchedd megis gweithredu ar yr hinsawdd, gwarchod bywyd ar dir, a bywyd o dan y dŵr.
Dangoswyd rhagflas o rai o'r fideos eisoes fel rhan o Sioeau Teithiol Rhanbarthol COP26. Bydd y fideos yn fodd i roi gwyddoniaeth wrth galon Wythnos Hinsawdd Cymru o 22 hyd at 26 Tachwedd. Cewch gofrestru ar gyfer cyfres gyffrous o ddigwyddiadau ar wefan COP Cymru.