Mae dwy effaith newid hinsawdd byd-eang yn cyfuno i fygwth ardal sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth byd-eang yn ôl tystiolaeth newydd a gyhoeddwyd yn Ecography (30/5/22 ar gael i’w ddarllen yma).
Mae cynhesu byd-eang yn cynyddu dwyster corwyntoedd cryfaf yr Iwerydd. Ar yr un pryd, mae'n symud yn araf yr ystod o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid i barthau a oedd gynt yn oerach: tuag at begwn y gogledd a'r de ac i fyny llethrau mynyddoedd i uchderau uwch. Mae ymchwil hirdymor ym Mynyddoedd Gleision Jamaica gan dîm o Brifysgol Caergrawnt, y Deyrnas Unedig, Manaaki Whenua/Landcare Research, Seland Newydd, Prifysgol Miami, Unol Daleithiau America a’r Athro John Healey ym Mhrifysgol Bangor bellach wedi dangos bod y mudo hwn wedi’i gyflymu gan effaith ddifrifol Corwynt Gilbert yn 1988.
Achosodd Gilbert ddifrod difrifol i goedwigoedd y Mynyddoedd Gleision, gan dorri canghennau a boncyffion llawer o'r coed mwyaf. Fe wnaeth y rhan fwyaf ailflaguro a goroesi, ond roedd y gyfradd marwolaethau yn arbennig o uchel ar gyfer y rhywogaethau sydd wedi'u cyfyngu i'r coedwigoedd uchder uchaf. Roedd y bylchau yng nghanopi’r goedwig a grëwyd gan farwolaeth y coed hyn yn rhoi’r cyfle i goed newydd adfywio, ond tueddai’r rhain i fod yn rywogaethau o fannau is i lawr llethrau’r mynyddoedd. Y canlyniad yn y pen draw yw bod y goedwig yn cael ei dominyddu fwyfwy gan rywogaethau uchder is, gan gyflymu'r broses a oedd eisoes wedi dechrau’n araf oherwydd cynhesu byd-eang.
Eglura John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor,
“Mae Mynyddoedd Gleision Jamaica yn codi i uchder o 2256m felly, ar hyn o bryd, mae tir coediog yn dal i fod yn uwch i fyny’r llethrau i’r rhywogaethau mynyddig prin fudo iddo. Fodd bynnag, gyda’r broses hon yn parhau wrth i’r atmosffer gynhesu fwy fyth, unwaith y byddant wedi’u cyfyngu i gribau’r mynyddoedd uchaf ni fydd unman arall i’r rhywogaethau hyn fynd. Bydd effaith corwyntoedd cynyddol ddifrifol, fel Gilbert, yn dod â’r bygythiad hwnnw o ddifodiant yn gynt byth.”
“Mae gan hyn y potensial i gyfrannu’n fawr at yr argyfwng bioamrywiaeth byd-eang, gan ddangos unwaith eto sut mae ganddo gysylltiad anorfod â’r argyfwng hinsawdd. Gilbert oedd un o'r corwyntoedd mwyaf dinistriol i daro Jamaica yn y ganrif ddiwethaf, ond mae tystiolaeth fodelu gref y byddwn yn gweld nifer cynyddol o’r fath seiclonau dwys ar draws y Caribî o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae ynysoedd y Caribî yn fannau cyfoethog o ran bioamrywiaeth byd-eang ac mae eu coedwigoedd mynyddig yn gynefin arbennig o bwysig i lawer o rywogaethau sydd mewn perygl. Nid yw cyfran uchel o'r rhywogaethau sy'n frodorol i lethrau uchaf y Mynyddoedd Gleision i'w canfod yn unman arall ar y ddaear. Mae rhai eraill hefyd yn bodoli ar ychydig o fynyddoedd eraill y Caribî, ond bydd y broses hon yn eu bygwth yr un fath yno.”
Mae'r bygythiad pwysig hwn i fioamrywiaeth fyd-eang yn cael ei wneud hyd yn oed yn fwy difrifol gan effaith ddynol arall; goresgyniad coedwigoedd gan rywogaethau a gyflwynwyd o rannau eraill o'r byd. Cyflwynwyd y goeden o Awstralia Pittosporum undulatum (a elwir yn lleol yn “oren ffug” oherwydd ei ffrwythau lliw llachar) i Ardd Fotaneg yn y Mynyddoedd Gleision fwy na 130 o flynyddoedd yn ôl. Mae wedi dod yn un o rywogaethau mwyaf ymledol y byd. Mae ei hadau yn cael eu gwasgaru ymhell ac agos gan adar brodorol Jamaica. Roedd y bylchau yng nghanopi'r coedwigoedd naturiol ar draws y Mynyddoedd Gleision a achoswyd gan Gorwynt Gilbert yn caniatáu i'w goresgyniad ehangu'n aruthrol. Mae Pittosporum yn taflu cysgod trwchus ac mae ymchwil flaenorol yr un grŵp ymchwil wedi dangos ei fod yn trechu llawer o’r rhywogaethau coed brodorol, gan fygwth yn arbennig y rhywogaethau uchder uchel endemig y gwyddom bellach sydd hefyd yn fwyaf bregus o ran cynhesu byd-eang.
Dywed John Healey i gloi,
“O’i gymryd gyda’i gilydd mae’r dystiolaeth hon yn dangos rheswm cryf arall dros gydnabod newid yn yr hinsawdd fel bygythiad i fioamrywiaeth fyd-eang, ond mae mynd i’r afael â hynny yn amlwg yn her hir ac anodd. Fodd bynnag, mae camau mwy uniongyrchol y gallwn eu cymryd i leihau’r risg o ddifodiant rhywogaethau yn yr ardal hon sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth drwy reoleiddio’n well y symudiad rhwng gwledydd o rywogaethau sydd ag unrhyw botensial i ddod yn ymledol, a thrwy weithredu ar y cyd i reoli poblogaethau rhywogaethau ymledol lle maent eisoes wedi dechrau bygwth cynefinoedd naturiol bioamrywiol. Bydd amddiffyn y coedwigoedd uchder uchel sy'n weddill rhag datgoedwigo a diraddio hefyd yn prynu mwy o amser i ni, ond oni bai y gallwn ddatrys y cyfuniad hwn o fygythiadau yn effeithiol, bydd cadwraeth rhywogaethau mewn perygl yn y coedwigoedd mynydd hyn yn methu, a byddwn yn cael ein gorfodi i geisio eu cadw y tu allan i'w cynefinoedd brodorol mewn gerddi botaneg neu fanciau hadau.”