Mae Prifysgol Bangor wedi cynnig rhagor o wybodaeth am ei chynllun i ddod â’r diweddaraf mewn technoleg ddigidol a gwasanaethau 5G i’r rhanbarth fel rhan o gynllun i ddatblygu Gogledd Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer prosesu signalau digidol.
Cafodd y cynllun ei drafod pan ddaeth Jack Sargeant AS, Aelod Alyn a Glannau Dyfrdwy a Carolyn Thomas AS, Aelod Rhanbarthol Gogledd Cymru i ymweld â Chanolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor.
Siaradodd Askar Sheibani, Rheolwr-Gyfarwyddwr Comtek Network Systems, y cwmni cyflenwi offer telegyfathrebu o Lannau Dyfrdwy, sy’n gweithio ynghyd â’r Brifysgol ar brojectau isadeiledd a chysylltedd, am y modd y mae’r ganolfan yn ymgysylltu â byd busnes.
Mae prosesu signalau digidol, sef trosi gwybodaeth glywedol, fideo, tymheredd neu leoliad i mewn i fformat digidol y gellir ei newid, wedi cynyddu mewn pwysigrwydd yn ddiweddar, a chaiff ei ddefnyddio’n gynyddol o ddydd-i-ddydd.
Mae meysydd o awtomatiaeth a cherbydau sy’n gyrru eu hunain i gymwysiadau amgylcheddol a meddygol yn defnyddio prosesu signalau digidol, a gallai hefyd fod yn allweddol o ran gwella dibynadwyedd a diogelwch systemau sy’n cael eu defnyddio’n ddyddiol.
Meddai’r Athro Jianming Tang, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yng Nghanolfan Prosesu Signalau Digidol Bangor, “Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yn rhyw fath o ‘lud’ sydd nid yn unig yn datblygu systemau digidol sy’n cael effaith yn genedlaethol ac yn fyd-eang, ond hefyd yn dod a busnesau sy’n arwain yn y maes at ei gilydd i weithio ar y cynlluniau yma.
“Roedd yn bleser medru arddangos ein gwaith i bartneriaid busnes ac aelodau’r Senedd, ac rydym yn edrych ymlaen at ymestyn yr isadeiledd sydd gennym yn y ganolfan a pharhau i ddatblygu Gogledd Cymru yn ganolbwynt gwirioneddol ar gyfer y math yma o dechnoleg.”
Mae Canolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor wedi gwneud ceisiadau i sawl corff llywodraethol ac awdurdodau yn 2021 gyda’r bwriad o fanteisio ar wahanol dechnolegau a meysydd ymchwil y ganolfan, yn ogystal ag adnabod ble mae’n bosib mynd â’r dechnoleg yn y dyfodol.
Byddai un cais yn gweld y ganolfan a’i phartneriaid yn gweithio gyda chwmnïau megis Vodafone, Fibrespeed a Comtek i gyflwyno project £4.1m i ddod a chysylltiad band llydan i 1,300 o anheddau mewn lleoliadau anodd-i’w-cyrraedd yng Ngogledd Cymru.
Byddai un arall yn defnyddio cydrannau wedi eu cynllunio a’u cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig i wneud cyfarpar sy’n galluogi defnyddwyr i neidio rhwng darparwyr ar rwydweithiau 5G.
Canolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor yw’r unig safle ymchwil yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phrosesu signalau digidol ar gyfer 5G a thu hwnt, gan weithio hyd yma gyda 28 o bartneriaid masnachol ar brojectau.
Meddai’r Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor sy’n arwain ar gyflogadwyedd, ymgysylltu â busnesau a phartneriaethau ym Mhrifysgol Bangor, “Mae’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan y ganolfan ynghyd â phartneriaid o fyd busnes yn helpu i ddatblygu technoleg a gwasanaethau newydd fydd yn diogelu llawer o’r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd.
“Mae’r safle yma ym Mangor yn esiampl wych o sut mae’r Brifysgol hon ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol modern, ac yn helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i drawsnewid Gogledd Cymru yn rhanbarth blaengar sy’n edrych tua’r dyfodol.”
Cefais fy nghyfareddu gan yr arloesi a wneir yma ym Mhrifysgol Bangor, sy’n arwain y maes o ran y dechnoleg yma ac mae hynny’n wych i Ogledd Cymru.
Roeddwn hefyd wrth fy modd yn clywed am y project i ddod a band llydan i anheddau ar Ynys Môn a mawr obeithiaf y bydd yn bosib lledaenu’r cynllun yn dilyn y peilot hwnnw.
Mae rhywun yn ddifreintiedig os nad oes ganddynt fynediad at fand llydan gan ei fod bellach yn hanfodol ar gyfer bywyd beunyddiol, ac felly dwi’n ddiolchgar iawn ac yn falch iawn o’r gwaith mae’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ym Mhrifysgol Bangor yn ei wneud ar y cyd â busnesau, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus.
Roedd yn fraint bod yn rhan o’r digwyddiad hwn.
Mae gan y project arloesol hwn y potensial i roi Cymru ar flaen y gad o ran cysylltedd ac arloesi byd-eang.
Fel cyn-beiriannydd fy hun, dwi wir yn llawn edmygedd.
Meddai Askar Sheibani rheolwr-gyfarwyddwr Comtek, “Mae digwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos i’r byd bod angen rhoi rhagor o sylw i astudiaethau a datblygiadau ym maes cyfathrebu, ac mae’r ganolfan prosesu signalau digidol mewn lle da i fod ar flaen y gad yn y maes hwnnw.
"Drwy gyfuno datblygiadau yn y maes academaidd gyda chefnogaeth y sector breifat, gallwn gydweithio i ymchwilio a chynhyrchu technolegau a gwasanaethau a all arwain y byd a rhoi Gogledd Cymru ar y map fel canolfan ragoriaeth fyd-eang yn y maes digidol.
“Mae gweithio gyda’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol nid yn unig yn galluogi busnesau i arddangos a chreu systemau o’r radd flaenaf, ond mae hefyd yn ein galluogi ni i ddatblygu’n gweithlu ein hunain drwy’r bartneriaeth.”
Hefyd yn y digwyddiad roedd Mike Crouch a Dale Weedman, sef Cyfarwyddwr a Rheolwr Datblygu Busnes cwmni Fibrespeed, sy’n darparu rhwydweithiau ffeibr i Ogledd Cymru, yn ogystal â Rheolwr Rhaglen Ddigidol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Stuart Whitfield.
Mae’r bwrdd wedi bod yn gweithio i uwchraddio rhwydweithiau digidol ac isadeiledd ar draws Gogledd Cymru i gefnogi cystadleuaeth a thwf sector fusnes y rhanbarth trwy Fargen Twf y Gogledd.
Am ragor o wybodaeth am Brifysgol Bangor, ewch i https://www.bangor.ac.uk ac am ragor o wybodaeth am y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, ewch i http://dsp-centre.bangor.ac.uk/index.php.cy
- Agorwyd Canolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor yn Ionawr 2020 ac ers hynny mae wedi cofrestru wyth patent ac wedi sicrhau dros £12m mewn grantiau ymchwil gyda’r ffocws ar dechnoleg a systemau’r y dyfodol.
- Cafodd y rhaglen ei sefydlu gyda chefnogaeth ariannol o £4m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop