Dim ond 19% o bobl sy’n dioddef o ddementia a gafodd gynnig asesiad a chynllun cymorth ar adeg y diagnosis yn ôl arolwg diweddar gan y Gymdeithas Alzheimer yng Nghymru (Cymdeithas Alzheimer Cymru, 2022). Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai fod llawer o waith ar ôl i'w wneud cyn bod modd gwireddu nod Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn wlad sy'n deall dementia.
Nod astudiaeth effaith Cymorth Dementia Prin yw dysgu mwy am hyn. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal rhan o'r astudiaeth hon, sy'n astudio’r broses o gael diagnosis yn fanylach. Pwrpas yr ymchwil hwn yw gwella profiad pobl yn y dyfodol, trwy ddysgu gan y rhai sydd wedi bod drwy’r broses eisoes.
Meddai Dr Jen Roberts, ymchwilydd yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor,
“Mae ymchwil yn awgrymu bod cael diagnosis a chymorth yn hanfodol er mwyn gallu parhau i fyw cystal â phosib am gyhyd â phosib. Rydym yn gwybod bod llai o adnoddau’n dueddol o fod ar gael i bobl mewn ardaloedd gwledig yn rhyngwladol. A yw hyn yn wir yng Nghymru, sy’n wlad wledig i raddau helaeth? Mae’n bwysig inni ddarganfod nid yn unig ble mae’r anawsterau, ond hefyd dod o hyd i enghreifftiau o fathau o gymorth sy’n gweithio’n dda i bobl. Cyflwynir canfyddiadau’r ymchwil hwn i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gobeithio y byddant yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad pobl o gael diagnosis o ddementia yng Nghymru yn y dyfodol.”
Hoffai'r tîm ymchwil glywed profiad personol pobl a'u barn am yr hyn sydd angen ei wella. Maent hefyd yn gobeithio clywed am wasanaethau neu gefnogaeth sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol neu fuddiol.
Mae’r astudiaeth ymchwil hon yn agored i’r canlynol:
• Pobl sy'n byw gyda neu'n gofalu am rywun ag unrhyw fath o ddementia
• Wedi cael diagnosis mewn unrhyw ran o Gymru
• Ar unrhyw adeg
Mae’r astudiaeth ymchwil hon ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel holiadur ar-lein y gellir ei gwblhau yn eich cartref yn eich amser eich hun. Cyllidir yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).
Mae'r holiaduron ar gael yn http://dsdc.bangor.ac.uk/get-involved.php.cy
Neu gallwch gysylltu â Dr Jen Roberts: E-bost: j.roberts@bangor.ac.uk / Ffôn: 01248 388021.