Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yng nghynhadledd BlueFish
Ddydd Gwener 25 Mehefin, daw cynhadledd BlueFish i ben gydag phrif anerchiad gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog “Rwy’n edrych ymlaen at siarad yn y gynhadledd sy’n dirwyn project BlueFish i ben ac at gael gwybod mwy am ganfyddiadau allweddol eu gwaith o ran yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei gael ar y diwydiant.
“Mae ein perthynas ag Iwerddon hyd yn oed yn bwysicach nawr bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae projectau megis BlueFish, sy'n dod ag arbenigedd gwyddonol y ddwy wlad ynghyd i gynyddu capasiti ac ymchwil i effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn rhan hanfodol o'r uchelgais a welir yng Nghyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon a Chymru.”
Mae’r gynhadledd, dan arweiniad Prifysgol Bangor, ynghyd â Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe yng Nghymru, y Marine Institute, Bord Iascaigh Mhara a Choleg Prifysgol Corc yn Iwerddon, yn canolbwyntio ar gydweithredu trawsffiniol, newid yn yr hinsawdd ac ymwneud â'r gymuned.
Eglurodd Dr Shelagh Malham, sy’n Ddarllenydd ym Mioleg y Môr 'Mae project Bluefish, a gafodd ei gyllido gan raglen Iwerddon Cymru yr Undeb Ewropeaidd, wedi tynnu sylw at yr effeithiau posibl y gall newid yn yr hinsawdd ei gael ar bysgod a physgod cregyn ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd, gan ddangos pa mor bwysig yw bod Iwerddon a Chymru yn gweithio ar y cyd i reoli môr Iwerddon mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol'
Mae'r gynhadledd sy'n crynhoi ymchwil ac allbwn project BlueFish yn cydnabod bod i newid yn yr hinsawdd lawer o oblygiadau posibl i bysgodfeydd arfordirol, dyframaeth a chymunedau arfordirol Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd. Trwy gyfuno celf a gwyddoniaeth mae BlueFish wedi mynd ati i ddeall newid yn yr hinsawdd, adeiladu gwytnwch a chodi ymwybyddiaeth o'r effeithiau ar y cymunedau arfordirol.
Ychwanegodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru hefyd: “Mae'r diwydiant pysgota môr a dyframaeth yn werth miliynau o bunnoedd i economi Cymru ac Iwerddon, mae'n cefnogi nifer fawr o swyddi ac mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan y diwydiant ddyfodol hyfyw.”
Ariannwyd y project yn rhannol gan gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru 2014 - 2020.