Mae mwynglawdd Ambatovy, sy'n cyfrannu’n helaeth i economi Madagascar ac yn gwmni sy’n arweinydd ym maes mwyngloddio cynaliadwy, ar y trywydd iawn i gyrraedd 'Dim Colled Net' o ran cynefin coedwigaeth unigryw a ddinistriwyd gan y mwynglawdd.
Yn gynyddol mae’n ofyniad ar brojectau seilwaith i gyflawni 'Dim Colled Net' mewn bioamrywiaeth; yn aml trwy ddefnyddio dull dadleuol a elwir yn wrthbwyso bioamrywiaeth. Er gwaethaf y ffaith fod cynlluniau o'r fath yn gyffredin iawn, prin iawn yw'r gwerthusiadau annibynnol ohonynt. Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Bangor a gyhoeddwyd yn Nature Sustainability, yn un o’r gwerthusiadau effaith cwbl annibynnol, a mwyaf cadarn, cyntaf i’w gynnal hyd yma ar wrthbwyso bioamrywiaeth. Mae'r astudiaeth, sy'n canolbwyntio ar fwynglawdd amlwg iawn ym Madagascar, yn awgrymu bod yr ymdrechion gwrthbwyso ar y trywydd iawn i sicrhau 'Dim Colled Net' o'r cynefin coedwigaeth unigryw a ddinistriwyd gan y mwynglawdd.
“Nod Ambatovy yw gwarchod coedwigaeth, drwy arafu datgoedwigo a yrrir gan amaethyddiaeth raddfa fechan mewn mannau eraill, er mwyn gwrthbwyso’r golled i’r goedwig a gafwyd yn sgil ei chlirio ar safle’r mwynglawdd,” meddai Katie Devenish (myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur yr astudiaeth). “Mae ein dadansoddiad yn awgrymu eu bod eisoes wedi arbed bron cymaint o goedwig ag a gollwyd ar safle’r mwynglawdd. Rydym yn amcangyfrif y cyrhaeddwyd Dim Colled Net o ran coedwigaeth erbyn diwedd 2021.”
Ychwanegodd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor:
“Mae gwledydd incwm isel fel Madagascar mewn dirfawr angen o’r datblygiad economaidd a ddaw yn sgil mwyngloddio masnachol. Mae sawl cafeat pwysig i’n canfyddiadau, ond mae’n sicr yn galonogol yr ymddengys fod cyfraniad economaidd Ambatovy i Fadagascar (degau o filiynau o ddoleri’r flwyddyn), wedi dod law yn llaw â lleihau cyfaddawdu pellach ar y cynefin coedwigaeth gwerthfawr sy’n weddill ar yr ynys.”
Prin iawn yw’r gwerthusiadau cadarn o wrthbwyso bioamrywiaeth
Mae’r ymchwil yn defnyddio dulliau arloesol o werthuso effaith strategaeth y mwynglawdd i gyflawni ‘Dim Colled Net’ mewn coedwigaeth fel yr eglura Dr Sébastien Desbureaux, o Ganolfan Economeg Amgylcheddol Montpellier:
“Prin iawn yw’r gwerthusiadau cadarn o wrthbwyso bioamrywiaeth. Mae dros 12,000 o fentrau ar draws y byd sy’n gwrthbwyso bioamrywiaeth, ac mae llai na 0.05% ohonynt wedi cael eu gwerthuso. Mae’n anodd gwneud gwerthusiadau am eu bod yn golygu cymharu canlyniadau a arsylwyd â'r hyn a fyddai wedi digwydd heb yr ymyriad. Mae'n amlwg yn anodd felly amcangyfrif yn achos senario gwrthffeithiol fel yma. Gwnaethom archwilio dros 100 o wahanol ffyrdd o gynnal ein dadansoddiad ac mae’r canlyniadau’n glir.”
Eglura’r Athro Simon Willcock, o Rothamsted Research a Phrifysgol Bangor pam fod cyfyngiadau i’r dadansoddiad:
“Er y gallwn ddangos yn hyderus y gwnaed iawn am y datgoedwigo sy’n gysylltiedig â’r mwynglawdd, ni allwn fesur yr effeithiau ar rywogaethau. Mae'n bwysig nodi hefyd y gallai fod cost i bobl leol yn sgil yr ymdrechion i warchod y goedwig. Mae’n rhaid i ni hefyd ystyried beth fydd yn digwydd pan fydd y cwmni’n gadael yr ardal (disgwylir i hynny ddigwydd rhwng 2040 a 2050) oherwydd heb warchodaeth barhaus a gwaith i adfer safle’r mwynglawdd, a fydd yn dasg anodd iawn, mae’n bosibl y bydd honiad Ambatovy o beri Dim Colled Net dan fygythiad.”
Ychwanega'r Athro Jones:
“Er gwaethaf ymrwymiadau byd-eang, mae coedwigoedd trofannol yn parhau i ddiflannu’n gyflym. Ni all gwrthbwyso bioamrywiaeth o'r fath a astudiwyd yn yr ymchwil hon ddatrys hynny. Mewn gwirionedd, dim ond os ceir datgoedwigo parhaus yn y dirwedd ehangach y mae’r dull yma’n gwneud synnwyr, ond yn anffodus dyna yw’r sefyllfa sydd ohoni. Fodd bynnag, o ystyried y dinistr parhaus hwn, mae'r canlyniad yn cynnig cefnogaeth gref i ofynion ar fwyngloddiau, a datblygiadau mawr eraill, i gyfrannu trwy fuddsoddi mewn ymdrechion cadwraeth. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos y gall hynny dalu.”
Dyma gasgliad yr Athro Simon Willcock:
“Nid yw datblygiadau seilwaith byd-eang yn debyg o arafu yn fuan. Mae canfod polisïau a all gysoni datblygiad o'r fath yn effeithiol â'r angen i warchod cynefinoedd a rhywogaethau yn hanfodol er mwyn osgoi gwaethygiad pellach yn yr argyfwng ecolegol a hinsawdd. Mae’n un peth cyflwyno polisïau sydd â’r nod o liniaru effeithiau datblygiadau ar fioamrywiaeth ond mae angen inni edrych yn feirniadol ar p’un a'u bod yn cyflawni hynny ai peidio.”
Cyhoeddwyd “On track to achieve no net loss of forest at Madagascar’s biggest mine” yn y cyfnodolyn Nature Sustainability.