Mae gan dros hanner y 117 miliwn o lynnoedd yn y byd orchudd rhew am ran o'r flwyddyn. Ond gyda'r cynnydd mewn tymheredd byd-eang, mae amseriad ffurfio a cholli rhew tymhorol yn newid yn gyflym. Ers 1979, mae amseriad cyfartalog pan fo rhew'r llynnoedd yn dadmer ar draws Hemisffer y Gogledd yn digwydd 8 diwrnod ynghynt. Mae'r ffaith bod hyn yn digwydd 8 diwrnod ynghynt wedi arwain at lynnoedd yn cynhesu’n ormodol gyda goblygiadau niferus i ecosystemau llynnoedd.
Mae papur newydd a gyhoeddwyd yn Nature Communications gan Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor a chydweithwyr ym Mhrifysgol Peking wedi canolbwyntio ar lynnoedd Hemisffer y Gogledd, gan ddefnyddio delweddau lloeren i astudio bron i fil o lynnoedd a modelu dros 100,000 i gyfrifo effeithiau’r cynnydd mewn diwrnodau heb rew ar dymheredd y dŵr.
Maent hefyd yn awgrymu sut y gall newid proffiliau tymheredd o fewn llynnoedd effeithio ar y prosesau o fewn y llynnoedd yn ogystal â'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw o fewn amgylcheddau'r llynnoedd.
“Mae rhagamcanu cynhesu llynnoedd yn y dyfodol oherwydd newidiadau mewn gorchudd rhew yn bwysig er mwyn deall sut y gallai’r newidiadau hyn effeithio ar brosesau ecolegol o fewn llynnoedd, a sut y bydd hynny’n effeithio ar yr holl ffyrdd y byddwn ni, ac anifeiliaid a phlanhigion eraill yn defnyddio llynnoedd yn y dyfodol,” eglurodd Dr Iestyn Woolway o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol.
“Gall tymheredd uwch arwyneb llyn oherwydd cyfnodau byrrach o orchudd rhew effeithio ar brosesau o fewn y llyn, gan arwain at effeithiau fel blodau plancton cynyddol neu gynharach, a chynnydd mewn cyanobacteria a chynnydd mewn haenau o ddŵr o wahanol dymheredd. Gallai haenau mewn dŵr arwain at ddadocsigeneiddio llynnoedd [crynodiadau ocsigen isel] mewn dyfnder mawr, a cholli cynefin ar gyfer pysgod sy'n sensitif i ocsigen,” ychwanegodd.
Mae Iestyn a’i gyd-ymchwilwyr yn amcangyfrif y bydd llynnoedd yn rhydd o rew tua mis ynghynt (15-45 diwrnod yn hemisffer y gogledd), a all arwain at gynnydd yn ystod y ganrif hon o rhwng 2 a 6 gradd yn ychwanegol yn nhymheredd yr arwyneb (yn ystod y mis pan fo’r rhew wedi dadmer, yr adeg o'r flwyddyn y mae rhywogaethau cwsg yn dechrau ffynnu unwaith eto). Maent hefyd wedi amcangyfrif bod y cynnydd 8 diwrnod heb rew wedi ychwanegu rhwng 1.1-0.9°C o or gynhesu yn ystod y mis dadmer.