Mae angen bwyta arnom bob un. Ond mae cynhyrchu bwyd yn gyfrifol am chwarter yr allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang. Mae lleihau’r allyriadau hyn yn hanfodol i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ond mae arnom hefyd angen sector amaethyddol gwydn a phroffidiol i sicrhau bod gan bawb ddigon o fwyd.
Cyhoeddwyd papur newydd yn Global Change Biology (https://doi.org/10.1111/gcb.16152; i’w weld ar-lein: 4 Mawrth 2022) sy’n ystyried sut y gallwn ymdrin â’r materion hyn yng nghyd-destun heriol mawndiroedd sy’n cael eu ffermio. Mae'n ceisio agor trafodaeth ynglŷn â strategaethau cyfrifol ar gyfer rheoli mawndiroedd ac yn ystyried y realiti economaidd a chymdeithasol presennol.
Mewn mawndiroedd naturiol, mae planhigion yn cymryd carbon deuocsid (CO2) i mewn o’r awyr, a phan fydd eu dail yn disgyn, mae'r carbon hwnnw’n cael ei storio'n ddiogel o dan ddŵr. Mae hyn yn golygu bod yr ecosystemau hyn, dros gannoedd neu filoedd o flynyddoedd, yn cael effaith oeri naturiol ar hinsawdd y Ddaear.
Ond, er mwyn ffermio mawndiroedd, maent wedi cael eu draenio. Mae'r pridd sy’n deillio o hynny yn gynhyrchiol iawn ac yn rhyddhau llawer o nitrogen, sy’n cynorthwyo glaswellt a chnydau i dyfu. Mae hyn yn galluogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch bwyd o ansawdd uchel a gwerth uchel, ac yn cefnogi nifer o swyddi yn yr economi wledig. Er enghraifft, mae Corstir East Anglia yn gyfrifol am dros 7% o gynhyrchiant bwyd y Deyrnas Unedig, sy'n werth £1.23 biliwn i'r economi.
Ar yr un pryd, mae draenio yn rhyddhau ocsigen i'r mawn. Mae’r ocsigen yma yn caniatáu i ficrobau pridd ymddatod y carbon sydd wedi’i storio yn y mawn yn gyflym ac wrth wneud hynny maent yn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr sylweddol. Mae ardal o dir cnydau maint cae pêl-droed ar fawn yn rhyddhau cymaint o CO2 y flwyddyn â gyrru car o gwmpas y cyhydedd ddwywaith a hanner. O ganlyniad, mae ffermio mawndiroedd iseldir yn ddwys yn gyfrifol am oddeutu 20% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y sector amaethyddiaeth a defnydd tir yn y Deyrnas Unedig. Mae'r carbon sy'n cael ei storio yn y priddoedd hyn yn fregus iawn a gallai’r rhan fwyaf o’r priddoedd ddiflannu mewn llai na 100 mlynedd.
Mae’r ffordd yr ydym yn ffermio mawndiroedd heddiw yn tarddu o’r ymgyrch i geisio cynhyrchu cymaint o fwyd â phosib ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan oedd bwydo pawb yn destun pryder cenedlaethol yn dilyn blynyddoedd o ddogni. Ond bryd hynny roeddem yn llai ymwybodol o'r peryglon o newid yn yr hinsawdd. Fel cymdeithas mae angen inni fabwysiadu agwedd fwy cyfrifol, modern a chytbwys at sut y byddwn yn defnyddio ac yn rheoli ein mawndiroedd.
Rydym angen deialog rhwng yr holl randdeiliaid, i ganfod cydbwysedd a fydd yn ein galluogi i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'n debyg y bydd hynny’n golygu cost o ran cynhyrchu bwyd, a allai fod yn annymunol i rai.
Yn y Deyrnas Unedig, er enghraifft, rydym ar hyn o bryd yn ceisio cynhyrchu cymaint o fwyd ag y gallwn ac yn derbyn yr allyriadau nwyon tŷ gwydr fel cost. Os mai ein prif nod yw diogelu'r cyflenwad bwyd neu hunangynhaliaeth, mae hynny’n gwneud synnwyr, ond nid yw’n mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd nac yn gweddu â’n huchelgais genedlaethol o gyrraedd sero net.
Mae’r papur yn ystyried systemau o gyfaddawdu a chwrdd hanner ffordd i geisio creu rhywfaint o gydbwysedd rhwng y blaenoriaethau cystadleuol hyn, er mwyn dechrau trafodaeth rhwng yr holl randdeiliaid.
Mae mawndiroedd yn systemau gwlyptir naturiol, felly mae dŵr yn allweddol i'w rheoli'n gyfrifol. Mae dyfnder y dŵr daear yn rheoli faint o fawn sydd o dan ddŵr yn ddiogel – lle mae llai o ocsigen i gynorthwyo microbau i ymddatod carbon y pridd – ac o ganlyniad mae hefyd yn cael effaith reoli gref ar allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae'r awduron yn galw am ddatblygu strategaethau amaethyddiaeth gwlyptir. Byddai’r rhain yn anelu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy ddod â mwy o ddŵr yn ôl i’n tirweddau mawnog, ac yn caniatáu i’w defnydd cynhyrchiol barhau trwy addasu dulliau ffermio i’r amodau gwlypach.
Gallai amaethyddiaeth gwlyptir gynnwys amrywiaeth o ddulliau yn dibynnu ar y sefyllfa benodol. Er enghraifft, mae meithriniad corstir (paludiculture) yn ymwneud â dod â’r dŵr daear yn ôl yn agos at arwyneb y mawn a thyfu cnydau wedi'u haddasu ar gyfer gwlyptir, ond ni fydd hynny o anghenraid yn ymarferol ar unwaith yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
Felly, mae arnom hefyd angen strategaethau eraill sy'n gofyn am addasiadau llai i’r systemau presennol. Ar hyn o bryd, mae mawndiroedd sy’n cael eu ffermio yn aml yn cael eu draenio’n ddwfn drwy gydol y flwyddyn ond mae angen inni feddwl am sut y gallwn ddraenio’n i lai o ddyfnder, neu a allwn roi’r gorau i ddraenio’r pridd yn ystod misoedd y gaeaf, er mwyn gadael i fwy o’r mawn fod yn wlypach am gyfnod hwy.
Dyma farn yr Athro Sue Page, o Brifysgol Caerlŷr, sy’n un o awduron y papur:
“Bydd mabwysiadu strategaethau amaethyddiaeth gwlyptir yn golygu newidiadau i arferion fferm, modelau busnes a’r seilwaith rheoli dŵr. Mae gwir angen ymchwil ymarferol ac arloesedd i gefnogi ffermwyr.
Mae'n rhaid inni weithio ochr yn ochr â ffermwyr i bennu pa strategaethau yw'r rhai gorau a’r rhai mwyaf ymarferol i'w rhoi ar waith. Wrth gwrs, mae angen inni hefyd ddysgu beth allai’r peryglon fod a sut y gallwn eu rheoli am fod bywoliaeth pobl a diogelu'r cyflenwad bwyd cenedlaethol yn y fantol a rhaid inni beidio â chymryd y materion hynny’n ysgafn.”
Nid oes atebion hawdd ac mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Serch hynny, ni allwn anwybyddu’r mater oherwydd os na weithredwn bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr uchel yn parhau a bydd ein priddoedd mawn iseldir yn diflannu’n fuan. Ar yr un pryd, mae angen cefnogaeth ar ffermwyr i newid y ffordd y caiff y systemau hyn eu rheoli. Mae hynny’n golygu bod angen i gymdeithas ddechrau rhoi sylw i’r mater yma a dod o hyd i gonsensws am beth sy’n werthfawr inni a sut y byddwn yn dewis ei amddiffyn.
Mawndiroedd iseldir
Mae unrhyw beth sy’n lleihau effeithlonrwydd amaethyddol yn her i ffermwyr, am eu bod yn gweithredu o fewn ffiniau elw bychain. Mae angen newid yn yr amgylchedd economaidd, er mwyn i ffermwyr allu mabwysiadu strategaethau rheoli mawndiroedd cyfrifol, a chael enillion priodol o wneud hynny, heb beryglu eu bywoliaeth.
Gallai hyn ddeillio o newid mewn polisi neu o ehangu cynlluniau cyllid preifat fel Cod Mawndiroedd y Deyrnas Unedig. Sut bynnag y byddwn yn cyrraedd y nod, mae angen inni newid deinameg economaidd amaethyddiaeth ar fawndiroedd a chydnabod y gwerth o amddiffyn a gwella’r storfeydd carbon pwysig hyn.
Mae’r papur yn cloi trwy ofyn inni ystyried gweledigaeth amgen, yn llawn cyfleoedd ar gyfer dyfodol mawndiroedd iseldir. Mae'r awduron yn awgrymu y gallai amaethyddiaeth gwlyptir gael ei gyfuno ag adfer cynefinoedd gwlyptir naturiol, creu gwlyptiroedd trin dŵr a seilwaith ynni gwyrdd (fel paneli solar a thyrbinau gwynt) i greu tirweddau gwlyptir ffyniannus, arloesol a gwyrdd. Gallai’r rhain gynhyrchu cynnyrch bwyd arbenigol, gwerth uchel ynghyd â chnydau eraill, yn ogystal ag ynni gwyrdd, cyflenwadau dŵr croyw a mannau gwyllt i natur ffynnu ac i bobl eu mwynhau, ac ar yr un pryd lesteirio allyriadau nwyon tŷ gwydr helaeth.
Cefnogwyd yr ymchwil yma gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y Deyrnas Unedig, Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol y Deyrnas Unedig, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, G's Growers Ltd. a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol STARS (Hyfforddiant ac Efrydiaethau Ymchwil Priddoedd).
This research was supported by the UK Natural Environment Research Council, UK Biotechnology and Biological Sciences Research Council, Department for Environment, Food and Rural Affairs, G’s Growers Ltd. and the STARS (Soils Training and Research Studentships) Centre for Doctoral Training.