Mae'r byd yr ydym yn byw ynddo yn aml yn cael ei rannu gan ddefnyddio gwahaniaeth deuaidd trefol-gwledig, er gwaethaf graddiant enfawr o batrymau anheddu mewn dinasoedd ac o'u hamgylch - yn amrywio o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig anghysbell. Mae ymchwil newydd a arweinir drwy broject ymchwil ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig ac India a gyhoeddwyd yn Nature Sustainability yn ystyried trefoli drwy edrych ar newidiadau mewn seilwaith naturiol, seilwaith peirianyddol a seilwaith sefydliadol. Mae'r astudiaeth, sy'n canolbwyntio ar y de byd-eang, yn awgrymu bod newid cyflym mewn ardaloedd maestrefol (a elwir yn ardaloedd 'peri-trefol') yn golygu bod gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ansawdd bywyd gwaeth na phobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig.
“Bydd poblogaeth drefol y byd yn parhau i dyfu gan arwain at blaned gynyddol drefol, fydd yn aml yn arwain at ehangu trefol, wrth i ddinasoedd ymestyn tuag at allan gan lyncu’r tir o'u hamgylch. Mae'r ehangu hwn yn digwydd yn arbennig o gyflym mewn gwledydd sy'n datblygu yn Asia ac Affrica,” meddai'r Athro Kenneth Lynch (Prifysgol Swydd Gaerloyw).
Meddai’r cydawdur yr Athro Simon Willcock o Brifysgol Bangor a Rothamsted Research ,
“Wrth i ardaloedd trefol ehangu, mae’r nodweddion a’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr ardaloedd hynny yn newid. Er enghraifft, mae natur a chynnyrch naturiol ar gael yn fwy uniongyrchol yn aml mewn ardaloedd gwledig, gyda lefelau is mewn ardaloedd trefol, tra bod y gwrthwyneb yn wir mewn seilwaith adeiledig. Mae hyn weithiau hefyd yn cyd-fynd â newid o arweinyddiaeth leol, draddodiadol mewn lleoliadau gwledig, i lywodraethu mwy canolog mewn dinasoedd.”
Mae’r ymchwil yn cyflwyno theori newydd o gynnwrf peri-trefol, fel yr eglura Dr Paul Hutchings o Brifysgol Leeds:,
“Mae cyfradd difrodi natur a chost adeiladu seilwaith newydd yn ysgogwyr mawr wrth bennu ansawdd bywyd pobl sy’n byw mewn ardaloedd peri-drefol. Er enghraifft, pan fydd cost amgylcheddol uchel i echdynnu cynhyrchion o natur, yna dim ond niferoedd bach o bobl y gall natur ymdopi â hwy. Yn yr un modd, pan fydd cost adeiladu seilwaith hefyd yn uchel, yna nid yw’n economaidd hyfyw oni bai ei fod yn cefnogi cymunedau mwy. Mewn sefyllfa fel hon, mae adnoddau sy’n dod o fyd natur yn debygol o ddiflannu cyn y gellir eu disodli gyda seilwaith adeiledig.”
“Mae tystiolaeth yn cefnogi hyn. Er enghraifft, mae iechyd plant yn nwyrain Affrica ar ei isaf yn y cymunedau hynny sy’n byw rhwng y ddinas a chefn gwlad, tra bod astudiaeth yn Ne Affrica wedi canfod bod tua dwy ran o dair o ddinasyddion trefol a gwledig yn adrodd bod ansawdd eu bywyd wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf, ond dim ond hanner yr ymatebwyr a nododd welliant o’r fath mewn ardaloedd peri-drefol” meddai'r Athro Kenneth Lynch.
Mae’r Athro Simon Willcock yn esbonio cyfyngiadau'r ddamcaniaeth,
“Mae’r math hwn o brofiad negyddol mewn ardaloedd peri-drefol yn fwy yn achos rhai gwasanaethau nag eraill, ac yn amrywio rhwng ardaloedd daearyddol. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o fwyd yn cael ei dyfu mewn ardaloedd gwledig, ond gellir gwneud hyn hefyd mewn dinasoedd. Gellir cludo bwyd hefyd ar hyd y ffordd mewn dinasoedd yn gymharol hawdd. Ond mae'n debygol y bydd gwahaniaethau mawr rhwng grwpiau sy'n byw yn y gwahanol fathau o ardaloedd. Er enghraifft, mae gan aelwydydd sydd ag incwm uwch a chymunedau sy'n byw mewn ardaloedd peri-drefol well mynediad at yr adnoddau prin. Gallant brynu eu dŵr, trydan, gwasanaethau glanweithdra eu hunain ac yn y blaen.”
Meddai Dr Paul Hutchings,
“Gellir osgoi’r ffordd anwastad rhwng seilwaith naturiol a seilwaith adeiledig. Gellir gwarchod rhywfaint o seilwaith naturiol trwy gydol y broses drefoli trwy gynllunio da sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddiogelu mannau gwyrdd. Yn ogystal â hyn, gellir rhoi cymhorthdal i wasanaethau, megis cyfleustodau dŵr trefol, fel y gellir eu darparu i bobl mewn ardaloedd peri-drefol. Dylai cynllunwyr trefol a gwledig, dylunwyr a phenseiri gydweithio i achub y blaen ar yr anghenion mewn ardaloedd sydd newydd eu hehangu, a gweithredu’n gyflym i sicrhau nad yw ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yno yn dirywio.”