Mae’r ymchwil, sy’n cael ei arwain gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gytref o bwys genedlaethol o fulfrain gwyrdd Ewropeaidd (Gulosus aristotelis) ar Ynys Seiriol, ger Môn. Bu niferoedd y mulfrain gwyrdd Ewropeaidd yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, ac maent ar y rhestr goch o adar sydd o dan y bygythiad mwyaf o ddifodiant yn y Deyrnas Unedig.
Mae tracwyr GPS, mesuryddion cyflymu, camerâu bach a osodir ar adar a ffotograffiaeth treigl amser ymhlith y technolegau a ddefnyddir gan y tîm, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerhirfryn a Phrifysgolion Lerpwl a Cumbria.
Mae'r ffilm o'r camerâu bach yn dangos yr adar yn plymio am bysgod, ac mae’n ddarparu data i helpu ymchwilwyr ddeall sut y gall y tywydd effeithio ar ymddygiad adar y môr a hwythau’n chwilio am fwyd. Yr ymchwil yw'r tro cyntaf i'r dechnoleg gael ei defnyddio ar adar y môr ar Ynys Seiriol.
Mae'r mesurwyr cyflymu - math o sbidomedr - yn cofnodi pa mor gyflym y mae'r aderyn yn symud a sut mae'n troi a throelli yn y môr ar drywydd ei ysglyfaeth.
Mae myfyrwraig PhD Claire Carrington, o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, yn cyflwyno’r ymchwil heddiw [Awst 23] yng Nghynhadledd Rhyngwladol Grŵp Adar y Môr yng Nghorc.
Dywedodd,
“Fe wnaethon ni dreialu’r technolegau ar fulfrain gwyrdd Ewropeaidd ar Ynys Seiriol eleni ac fe wnaethon nhw weithio’n dda iawn, felly anelwn at eu gosod ar fwy o adar y flwyddyn nesaf. Mi ddewison ni weithio gyda'r mulfrain gwyrdd Ewropeaidd, oherwydd eu bod yn agored iawn i effeithiau’r tywydd eithafol ac yn aros mewn ardaloedd arfordirol trwy gydol y flwyddyn. Bydd y data a gasglwn yn rhoi dealltwriaeth inni o’r mulfrain gwyrdd ac adar plymio tebyg fel y mulfrain mawr.”
Maen nhw'n gobeithio y bydd y data’n help iddynt ddeall sut y bydd y fulfran werdd Ewropeaidd a'r fulfran fawr, yn ymateb i wahanol amodau’r tywydd ac yn rhagweld a fyddan nhw'n ddigon gwydn i ymdopi â'r tywydd mwy eithafol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd.
Mae camerâu treigl amser sy'n tynnu lluniau bob 30 munud hefyd yn cael eu gosod trwy gydol y flwyddyn mewn mannau clwydo allweddol ar arfordir y Gogledd, lle mae'r mulfrain gwyrdd a'r mulfrain mawr yn sychu eu plu ar ôl pysgota.
Mulfrain gwyrdd a mulfrain mawr
Dywedodd ymchwilydd arweiniol o Brifysgol Bangor, Dr James Waggitt,
“Mae mulfrain mawr a mulfrain gwyrdd yn hawdd eu hadnabod, a bydd llawer o bobl wedi eu gweld ar yr arfordir, yn sychu eu hadenydd ar y creigiau. Ond er eu bod yn gyffredin, mae eu poblogaethau mewn perygl yn y Deyrnas Unedig, a dyna pam mae mor bwysig deall yn well y bygythiadau maent eu hwynebu a sut maen nhw’n ymateb.”
Yn ystod y tymor bridio, caiff camerâu treigl amser eraill, sy’n tynnu lluniau bob deng munud, hefyd eu gosod mewn nythod ar Ynys Seiriol i weld pa mor rheolaidd y mae’r adar yn dychwelyd i fwydo’u cywion.
Mae'r tîm yn bwriadu casglu data ychwanegol gyda'r technolegau hynny dros y ddwy flynedd nesaf. Yna caiff y canlyniadau eu cyfuno â data’r archif ar boblogaethau'r mulfrain mawr a'r mulfrain gwyrdd Ewropeaidd sy'n dyddio'n ôl i 1985, a'u cymharu ag amodau’r tywydd a fodelwyd i ddeall effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd ar boblogaethau adar y môr ar yr arfordir yn y dyfodol.