Bwriad y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Môr y Deyrnas Unedig (SuMMeR CDT) yw darparu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, darparwyr datrysiadau ac ymarferwyr a fydd yn rheoli ein hadnoddau môr yn gynaliadwy.
Gyda chefnogaeth cyllid o £2.2 miliwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig, bydd y Ganolfan yn hyfforddi bron i 50 o fyfyrwyr PhD rhyngddisgyblaethol dros y saith mlynedd nesaf.
Wedi'u lleoli mewn lleoliadau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, byddant yn canolbwyntio ar bynciau yn amrywio o gwyddorau’r môr a gwyddorau cymdeithas i'r gyfraith, iechyd, addysg ac economeg.
Gyda'i gilydd byddant yn ymdrin â phynciau sydd eisoes yn bodoli a rhai newydd o bwysigrwydd lleol, cenedlaethol a byd-eang, i alluogi enillion bioamrywiaeth a chyflawni Sero Net, gwella amddiffyn yr arfordir a chefnogi cymunedau arfordirol, technoleg y môr arloesol a meithrin economi fôr gynaliadwy.
Caiff y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Môr y Deyrnas Unedig ei chydlynu gan rai o brifysgolion y môr mwyaf blaenllaw'r DU. Dan arweiniad Prifysgol Plymouth, mae’r partneriaid craidd yn cynnwys prifysgolion Bangor, Heriot-Watt a Exeter, Labordy Morol Plymouth a'r Marine Biological Association.
Byddant yn eu tro yn gweithio gyda phartneriaid cydweithredol yng Nghymdeithas Swolegol Llundain, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH), a phrifysgolion Portsmouth a Gorllewin Lloegr.
Mae'r fenter hefyd yn cael ei chefnogi gan dros 45 o bartneriaid cysylltiedig yn cynnwys ymchwil, diwydiant, y llywodraeth a'r trydydd sector, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddeall materion rheoli adnoddau môr cyfredol o sawl safbwynt.
Bydd y garfan gyntaf o 16 myfyriwr sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan yn dechrau ar eu cyrsiau yn hydref 2022.
Dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor:
Byddwn yn darparu hyfforddiant ôl-radd i adeiladu cymuned gref o ymchwilwyr trawsddisgyblaethol, gyda sgiliau sy'n croesi'r rhyngwynebau rhwng gwyddoniaeth amgylcheddol y môr a disgyblaethau eraill fel economeg, gwyddorau cymdeithas, y gyfraith a pholisi, peirianneg ac ynni adnewyddadwy, seicoleg ac iechyd y cyhoedd. Bydd yr ymchwilwyr talentog hyn yn gweithio gyda sefydliadau partner i ymchwilio i'r heriau sylweddol fel colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd er mwyn greu atebion cynaliadwy sydd eu hangen ar frys i reoli amgylchedd y môr yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Melanie Austen, Athro Cymdeithas y Cefnfor ym Mhrifysgol Plymouth a Chyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Môr y Deyrnas Unedig: “Wrth i boblogaethau’r byd barhau i gynyddu, mae amrywiaeth enfawr o alwadau cynyddol yn cael eu rhoi ar ein harfordiroedd a'n moroedd. Mae pobl yn troi mwy at y cefnfor fel ffynhonnell bosibl o fwyd ac egni, ac i gefnogi iechyd a lles pobl. Fodd bynnag, rhaid cadw cydbwysedd bregus fel ein bod yn harneisio pŵer y cefnfor heb effeithio ar ei gyfraniad at iechyd cymdeithasau a'r blaned gyfan. Dim ond trwy edrych ar y materion o bob ongl y gellir cyflawni hynny, a bydd y myfyrwyr a’r cydweithredu sy’n gysylltiedg â’r Ganolfan yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu’r dull hwn.”
Ychwanegodd yr Athro Michel Kaiser, Prif Wyddonydd ym Mhrifysgol Heriot-Watt a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan: “Cryfder ein partneriaeth yw ein cydweithrediad agos â diwydiant, y Llywodraeth a phartneriaid anllywodraethol. Bydd gan fyfyrwyr fydd yn datblygu o'r rhaglen PhD hon ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad cynhenid o bwysigrwydd gweld heriau byd-eang o safbwynt trawsddisgyblaethol. Nhw yw'r genhedlaeth nesaf o ddatryswyr problemau byd-eang, byddwn yn eu paratoi i fod yn hyrwyddwyr cymdeithasol y dyfodol.”