Mae Parc Gwyddoniaeth Menai Ynys Môn (M-SParc) wedi cynorthwyo dros 70% o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n gweithio yno fel interniaid i fusnesau ar y safle sicrhau cyflogaeth llawn amser yn y ganolfan a dechrau ar yrfa, ac mae'r cyflog cyfartalog ym musnesau M-SParc £5,000 yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Mae'r parc gwyddoniaeth, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn cynnig lle i fusnesau o bob lliw a llun sy’n ymwneud â thechnoleg a gwyddoniaeth ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi eu gallu mewn diwydiannau a mentrau newydd.
Mae'r swyddi yn y parc yn rhan o gynllun Interniaeth Prifysgolion Santander, sy'n cynorthwyo myfyrwyr Prifysgol Bangor i ennill y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth llawn amser ar ôl graddio, a hefyd yn cynnig cyflenwad o raddedigion medrus i gefnogi twf busnesau yn y rhanbarth.
Mae Dafydd Weightman yn un myfyriwr felly sydd wedi elwa o’r cynllun, ac yn dilyn ei interniaeth gyda M-SParc mae bellach wedi dechrau ei fusnes ffotograffiaeth, fideograffeg a dylunio cynnwys digidol ei hun, a hefyd yn gweithio i’r busnes Aerial Worx ar safle M-SParc sy’n arbenigo mewn ffilmio drôn.
Mae Dafydd yn wreiddiol o Ynys Môn a chafodd anogaeth gan Ganolfan Fenter M-SParc i sefydlu ei fusnes ei hun a dilyn trywydd ei ddiddordebau.
Dywedodd Dafydd: “Astudiais at radd BSc mewn Cyfrifiadureg ym Manor a roddodd sylfaen wybodaeth wych imi ac yn ystod fy nghyfnod yn astudio datblygais ddiddordeb arbennig yn agweddau creadigol ffotograffiaeth a fideograffeg, a dyna oedd y llwybr yr oeddwn yn awyddus ei ddilyn ar ôl graddio o'r brifysgol.
“Roedd gen i syniad am M-SParc am fy mod yn gyrru heibio’r safle yn rheolaidd, ond ar ôl cwblhau interniaeth yno trwy Brifysgol Bangor troais atynt am gymorth i sefydlu fy musnes fy hun.
“Gwnaethant gynnig cynghorydd gwych imi a rhoi cyngor imi ar sut i ddechrau busnes, gan fy nhywys trwy'r prosesau i gael cefnogaeth, gan gynnwys gweminarau am ddim ar ddechrau busnes a oedd yn help mawr imi wrth ddod i ddeall yr holl gyfarpar yr oeddwn ei angen i ddechrau ar y gwaith.
“Deilliodd fy swydd bresennol gydag Aerial Worx o gyfarfod a gefais gyda nhw tra’r oeddwn ar fy interniaeth ym M-SParc i drafod eu hanghenion cyfryngau cymdeithasol a hefyd i gael gwers ar weithio un o’u camerâu drôn. Profodd y cyswllt cychwynnol hwnnw'n amhrisiadwy yn nes ymlaen pan oeddynt yn chwilio am weithiwr newydd.
“Mae M-SParc yn gweithio’n galed i wneud cysylltiadau cydweithredol lle bynnag y bo modd, a chan eu bod yn gyfarwydd â’m set sgiliau, diolch i’r interniaeth a’r cyflwyniad a’r cyswllt blaenorol hwnnw, rwyf bellach mewn swydd rwy’n ei mwynhau ac yn datblygu fy sgiliau ymhellach, gan ganiatáu imi ddatblygu fy musnes fy hun ar gyflymder rwy'n gyffyrddus ag ef."
Mae Kimberley Williams hefyd wedi ei magu ar Ynys Môn ac yn fyfyriwr arall sydd wedi elwa o'r cyfleuster, ac fe drodd interniaeth ar safle M-SParc ar ddechrau 2021 gyda'r tenant BIC Innovation yn swydd llawn amser iddi fel cynorthwyydd marchnata.
Roedd yr interniaeth yn BIC Innovation yn un o nifer i Kimberley eu cwblhau yn ystod cyfnod o dros chwe mis yn chwilio am swydd llawn amser ar ôl gorffen ei BSc mewn dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yn ystod y pandemig coronafirws ym mis Mai 2020, ond roedd y profiad gwaith a’r wybodaeth a fagodd yn gymorth iddi gael cynnig swydd barhaol gyda BIC Innovation.
Dywedodd Kimberley: “Rwyf wedi mwynhau'r gwaith yn fawr hyd yma. Mae'r swydd yn un lle mae gofyn i chi chwarae sawl rôl ar yr un pryd, ond rydw i wedi cael gwahoddiad i eistedd i mewn ar alwadau a darparu gwybodaeth sy'n deillio o’m hastudiaethau, rhywbeth na fyddai’n digwydd mae’n siŵr mewn cwmnïau â channoedd o weithwyr cyflogedig.
“Un o’r rhesymau pam ei bod yn wych gweithio ym M-SParc yw ei fod mor gydweithredol; mae’r holl fusnesau modern a’r setiau sgiliau modern yma mewn un lle ac mae'n un crochan cymysgu mawr o dalent. Nid oes angen i ni byth fynd ymhell i ofyn am gyngor am broblemau a heriau sy’n codi.
“Mae cael safle fel hwn yn lleol yn wych i’r rhanbarth hefyd, gan ei fod yn golygu nad oes rhaid i fyfyrwyr sy’n astudio yma symud i ffwrdd i ddechrau ar eu gyrfa a gall pobl dalentog barhau i ddatblygu eu sgiliau yn agos at eu cartref, neu gall myfyrwyr benderfynu ymgartrefu’n barhaol yng Ngogledd Cymru ar ôl astudio ym Mangor. Mae hynny’n rhwym o helpu’r rhanbarth i ffynnu.”
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor sy’n arwain ar gyflogadwyedd, ymgysylltu â chwmnïau a phartneriaethau: “Mae'n gyffrous gweld myfyrwyr Prifysgol Bangor yn llwyddo ac yn dod o hyd i swyddi proffesiynol mewn diwydiannau a busnesau newydd ar garreg ein drws yma yng Ngogledd Cymru.
“Mae M-SParc yn cynnig carreg gamu gref i fyfyrwyr gymryd y llam cyntaf at yrfa a chanolbwyntio ar yr hyn maent yn ei fwynhau ac mae'n galonogol gweld nifer o'r myfyrwyr hynny’n dewis aros ac adeiladu ar y sylfeini sydd wedi’u gosod o fewn ffiniau M-SParc ei hun.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart: “Mae tua 70% o fyfyrwyr sy'n cael interniaethau gyda busnesau yn safle M-SParc yn mynd ymlaen i sicrhau swydd gyda'r cwmnïau hynny, gyda thros 10 myfyriwr mewn swyddi o’r fath ar hyn o bryd, felly mae cynnig lleoliad i fyfyrwyr a busnesau lle gallant fanteisio ar eu hastudiaethau a chymryd y camau cyntaf pwysig hynny yn eu gyrfaoedd yn hanfodol.
“Mae M-SParc yma i greu amrywiaeth yn economi’r rhanbarth, ac i helpu busnesau dyfu. Mae'n galonogol bod cymaint o interniaethau wedi arwain at yrfaoedd yma yn y Parc, gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr na fyddent yn eu cael fel arall, a chefnogi cwmnïau trwy gynnig mynediad at weithlu cymwys sydd ar garreg eu drws.
“Dim ond dwy enghraifft yw straeon Dafydd a Kimberley o’r synergedd sy’n blodeuo rhwng M-SParc a Phrifysgol Bangor ac edrychwn ymlaen at weld y busnesau y maent ynghlwm â nhw’n datblygu ochr yn ochr â ninnau yma ym M-SParc.”