Penodwyd athro Gwyddor Gadwraeth yn yr Ysgol gwyddorau Naturiol i gadair bwysig ym Mhrifysgol Utrecht yn yr Iseldiroedd.
Julia Jones fydd deiliad Cadair Cadwraeth Natur Rhyngwladol y Tywysog Bernhard, am gyfnod o bum mlynedd.
“Mae’r penodiad hwn yn anrhydedd enfawr,” meddai’r Athro Jones. “Mae gwyddonwyr sydd wedi eu penodi i’r gadair hon yn y gorffennol yn gewri gwyddor gadwraeth ac mae pob un wedi gwneud cyfraniadau enfawr at eu meysydd. Rwy'n falch iawn o fod yn ôl eu traed. Yn ystod fy nghyfnod yn y gadair, rwy’n gobeithio’n benodol dod â mwy o gydnabyddiaeth am agweddau cymdeithasol cadwraeth i weithgareddau dysgu cadwraeth yn Utrecht, a gweithio gydag ymarferwyr cadwraeth i wella sut maent yn mesur effeithiolrwydd cadwraeth. Fy nod yn y pen draw yw gwneud cadwraeth yn fwy effeithiol a theg."
Mae cadair y Tywysog Bernhard dros Gadwraeth Natur Ryngwladol yn rhan o’r grŵp ymchwil ecoleg a bioamrywiaeth ym Mhrifysgol Utrecht. Sefydlwyd y gadair ym 1987 ar achlysur pen-blwydd Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Bernhard (1911-2004) yn 75 oed i gydnabod ei gyfraniad at gadwraeth natur yn ryngwladol.
Y Tywysog Bernhard oedd cadeirydd cyntaf y WWF (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd) ac arweiniodd y Peace Parks Foundation. Yn yr Iseldiroedd, bu’n gadeirydd cangen Iseldiroedd y WWF am dros ddeng mlynedd ar hugain. Tan ei farwolaeth yn 2004, bu'r Tywysog Bernhard yn ymwneud yn agos â gweithgareddau’r gadair ym Mhrifysgol Utrecht.
Mae'r Athro Julia Jones yn enwog am ei gwaith yn cyfuno gwybodaeth o amrywiaeth o ddisgyblaethau i fesur pa mor effeithiol yw cadwraeth i gadwraeth natur a'i effaith ar bobl yn y pen draw.
Mae cadair y Tywysog Bernhard yn rhoi cyfle i Julia ddatblygu ei hymchwil ar lwyddiant cadwraeth ymhellach, trwy ymuno ag ymchwilwyr a sefydliadau eraill. “Yn fy holl ymchwil, rwy’n hoffi gwneud cysylltiadau newydd a gweithio gyda phobl o wahanol gefndiroedd”, meddai’r Athro Jones. “Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i mi sefydlu rhwydwaith arbenigedd cwbl newydd ym Mhrifysgol Utrecht. Ond mae hefyd yn fan cychwyn i gydweithrediadau newydd yng ngweddill yr Iseldiroedd. Mae'r cysylltiad â WWF yn yr Iseldiroedd, sy'n bartner allweddol yn y gadair hon, hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych yn hyn o beth."
Cydnabyddir Prifysgol Bangor yn rhyngwladol am ei hymchwil a dysgu ym maes cadwraeth. Yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, ceir nifer o raddau sy'n gysylltiedig â chadwraeth ar lefel israddedig ac ôl-radd, yn cynnwys BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt, BSc Cadwraeth â Choedwigaeth, a MSc Cadwraeth a Rheoli Tir.
Mae'r Athro Jones yn esbonio sut y bydd y gadair newydd hon yn cryfhau cyfleoedd i fyfyrwyr Bangor ymhellach:
Mae ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi cael eu dysgu gan staff sy'n ymwneud ag ymchwil ac ymarfer cadwraeth yn y byd go iawn. Rydym yn dod â'n brwdfrydedd, a'r darganfyddiadau blaengar rydym yn gweithio arnynt, i'n gwaith dysgu bob dydd. Bydd y rhwydweithiau a'r cydweithrediadau newydd a ddaw yn sgil fy nghyfnod yng nghadair y Tywysog Bernhard yn dylanwadu'n uniongyrchol ar yr hyn yr ydym yn ei ddysgu ym Mangor, ac wrth gwrs cyfleoedd i brojectau myfyrwyr. Mae Prifysgol Utrecht yn brifysgol uchel ei pharch yn rhyngwladol ac rwyf eisoes yn elwa o syniadau newydd ac ysbrydoliaeth o weithio gyda chydweithwyr yno.
Gwerthuso canlyniad cadwraeth yn y pen draw
Yn ôl yr Athro Jones, mae llawer i'w ennill o ran mesur effeithiolrwydd cadwraeth natur. Ar hyn o bryd, nid yw canlyniad cadwraeth yn cael ei werthuso'n iawn yn aml, meddai. Yn aml mae'n parhau i fod yn aneglur a yw, er enghraifft, diogelu rhai ardaloedd natur wedi gwella bioamrywiaeth neu leihau datgoedwigo.
“Ym maes cadwraeth, rydych eisiau gwybod am bolisi penodol sydd wedi gweithio, ac os oedd yn cyflawni'r hyn y disgwylid iddo ei gyflawni”, meddai. “Ond mae hyn yn