Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor ymysg gwyddonwyr cefnfor a charbon glas o'r radd flaenaf sy'n cyfrannu at bartneriaeth gwerth miliynau o ddoleri a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng y grŵp yswiriant, Convex Group Limited (Convex), y Blue Marine Foundation (BLUE), elusen sydd wedi ymrwymo i adfer iechyd y cefnfor, a Phrifysgol Caerwysg. Y rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol hon yw'r ymgais fwyaf hyd yma i adeiladu gwell dealltwriaeth o briodweddau a galluoedd y cefnfor a'i silffoedd cyfandirol yng nghylchred garbon y ddaear. Mae'n cynrychioli ymdrech ar frys i arafu newid yn yr hinsawdd.
Gall y cefnfor fod yn un o’n cynorthwywyr gorau yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond mae mesur ei botensial llawn ar gyfer storio carbon yn parhau i fod yn gwestiwn sylfaenol sydd dal heb ei ddatrys. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd byd-eang, gall y morlun roi atebion sydd eu hangen yn ogystal ag atebion seiliedig ar natur i'r argyfwng hinsawdd presennol. Dan arweiniad BLUE a Phrifysgol Caerwysg, ac mewn cydweithrediad â sefydliadau gwyddonol blaenllaw ledled y byd, bydd yr arolwg yn darparu data mynediad agored, amserol a chywir am storfeydd carbon gwely'r môr drwy’r byd.
Mae'r ymchwil hwn yn hanfodol. Mae astudiaethau wedi dangos y gall mesurau lliniaru yn y môr ddarparu hyd at un rhan o bump o'r atebion sydd eu hangen i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd Celsius a chulhau'r bwlch allyriadau. Ond mae gwely'r môr yn parhau i fod heb ei ddiogelu i raddau helaeth ac ar hyn o bryd nid yw’n cael ei gyfrif yn y rhestrau allyriadau carbon a luniwyd gan y Panel Rhynglywodraethol ar gyfer Newid Hinsawdd.
Dywedodd Stephen Catlin, cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Convex:
“Mae rhagweld a lliniaru risgiau yn y dyfodol wrth wraidd yr hyn a wnawn yn Convex. Mae ein gallu i wneud penderfyniadau gwybodus yn dibynnu ar ein mynediad at ddata cadarn a'i ddadansoddi - mae'r un peth yn wir wrth ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
“Bydd canlyniadau sylweddol yn cymryd ymdrech fyd-eang. Bydd yr arolwg hwn yn cwmpasu arbenigedd gwyddonwyr o wahanol gyfandiroedd a bydd yn adeiladu ar yr ymchwil a gasglwyd o Arolwg Arctig Catlin ac Arolwg Morlun Catlin. Mae hwn yn gyfle enfawr i gefnogi ymchwil arloesol ac effeithiol.”
Dywedodd yr Athro Callum Roberts, Athro Cadwraeth Môr yn y Ganolfan Ecoleg a Chadwraeth ym Mhrifysgol Caerwysg a phrif gynghorydd gwyddonol ac ymddiriedolwr BLUE:
“Mae’r cefnfor a’i adnoddau, er eu bod yn hanfodol i’r holl fywyd ar y ddaear, yn cael eu camddeall a’u hesgeuluso ar hyn o bryd. Bwriad yr arolwg yw ceisio dod ag eglurder i'n dealltwriaeth o'r cefnfor, gan gynnwys faint o garbon sy'n cael ei storio mewn morluniau arfordirol ac ar y silffoedd cyfandirol, yn ogystal â pha mor agored yw'r storfeydd hyn i ddifrod a achosir gan bobl.
“Dylai'r arolwg ddangos yn glir y gwerth aruthrol sydd i'w gael yn ein cefnforoedd a'r symudiad byd-eang i'w amddiffyn. Trwy gefnogaeth ystyrlon gan fusnesau â gweledigaeth fel Convex y gall ymchwil mor hanfodol fod yn bosibl.”
Ychwanegodd yr Athro Lisa Roberts, Is-ganghellor Prifysgol Caerwysg:
“Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn enghraifft wych o arweinyddiaeth ymchwil Caerwysg a thrwy ddyngarwch Convex, byddwn mewn gwell sefyllfa i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr môr byd-eang yn ogystal â helpu i lywio arferion polisi a rheoli yn y dyfodol.”
Dywedodd George Duffield, cyd-sylfaenydd BLUE: “Yr hyn sy’n gwneud ein project ni yn wahanol i brojectau eraill yw na fyddwn yn rhoi’r gorau iddi ar ôl nodi’r problemau - rydym yn bwriadu profi’r atebion hefyd.”
Yn cyfrannu o'r Ysgol Gwyddorau Eigion mae'r ymchwilydd, Dr Sophie Ward, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Fôr Cymru.
Dywedodd Dr Sophie Ward:
“Mae hon yn rhaglen ymchwil fyd-eang hynod flaengar ac uchelgeisiol, sy'n cynnwys tîm o wyddonwyr cefnfor a charbon glas gwych, ac rwyf wrth fy modd i fod yn rhan ohoni.
Mae angen i ni ar frys gael gwell dealltwriaeth o storfeydd carbon gwely'r môr ar raddfa fyd-eang gan fod y cefnforoedd yn chwarae rhan mor bwysig mewn cylchred garbon y Ddaear. Hyd yma, nid oes llawer o wybodaeth am allu llawn dyfroedd arfordirol a silffoedd cyfandirol i storio carbon. Gall yr ymchwil hwn drawsnewid ein dealltwriaeth o sut y gall y cefnforoedd gyfrannu at ddatrys argyfwng yr hinsawdd.”
Delweddau sonar cynhyrchiad uchel o wely'r môr
Codi ymwybyddiaeth o wir werth ein cefnforoedd
Mae Dr Ward yn rhan o'r tîm gwyddonol sydd â'r dasg o ddeall dyddodiad a chrynhoad carbon gwely'r môr, yn y gorffennol ac i'r dyfodol.
Bydd yn defnyddio modelu cefnfor i efelychu cronni carbon ar foroedd silffoedd y byd. Bydd hyn yn helpu i gasglu gwybodaeth am storfeydd carbon gwely'r môr - ardaloedd lle gall dyddodion dwfn o'r gwaddodion llawn carbon hyn gronni dros gyfnodau hir. Mae gwybodaeth am y storfeydd carbon hyn yn bwysig ar gyfer mesur sut mae aflonyddwch dynol ar wely'r môr yn effeithio ar garbon morlun.
Bydd allbynnau'r rhaglen ymchwil, gan gynnwys data sy'n hygyrch i'r cyhoedd ar garbon glas morlun, yn codi ymwybyddiaeth o wir werth ein cefnforoedd wrth i ni ymdrechu i arafu newid yn yr hinsawdd, a bydd yn cefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i amddiffyn y cefnfor a gwely'r môr.