Fy ngwlad:
a large blue breaking wave about to topple

Prifysgol Bangor yn rhannu arbenigedd ym maes ynni adnewyddadwy’r môr mewn Canolfan Ragoriaeth yng Nghymru

Heddiw (22/3/22) mae Prifysgol Bangor yn ymuno yn swyddogol â Chanolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE) Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE) Catapult sy’n cefnogi cwmnïau arloesol o Gymru i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy ar y môr. Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd ymchwilwyr ym Mangor yn rhannu eu harbenigedd mewn eigioneg a chefnogi twf sector ynni adnewyddadwy ar y môr Cymru.