Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn arwain ar ymchwil i’r project ECOWind-ACCELERATE newydd, sydd werth £2m, a fydd yn nodi manteision cadwraeth rhywogaethau a chynnydd net mewn bioamrywiaeth o amgylch ffermydd gwynt gan hefyd gefnogi datblygwyr ffermydd gwynt i gynllunio strategaethau monitro amgylcheddol fydd yn mynd y tu hwnt i oes y project hwn.
Mae ECOWind-ACCELERATE yn broject pedair blynedd a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), Ystâd y Goron ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Gyda ffermydd gwynt ar y môr ar gynnydd yn rhan o gynlluniau brys i newid o danwydd ffosil, ynghyd ag effeithiau cronnol newid yn yr hinsawdd, mae’n hollbwysig ein bod yn deall sut mae newidiadau i wely’r môr yn effeithio ar yr ecosystem forol ehangach.
Mae gwely’r môr yn cynnal ecosystemau sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gan ddarparu bwyd môr inni, deunydd ar gyfer agregau, storio carbon, ailgylchu maetholion, a diogelu’r arfordir er enghraifft.
Pan fydd cerrynt naturiol yn y môr yn gwyro o amgylch sylfeini’r tyrbinau gwynt neu'r angorau, mae'r grymoedd ar wely'r môr yn gwella, gan wneud i waddodion symud ac aros yn eu lle. Gall hyn newid siâp a chyfansoddiad gwaddod gwely'r môr a pheri i bysgod sy'n ysglyfaeth i adar môr symud i fannau eraill. Mae hefyd yn gwneud y dŵr yn llai clir. Gallai hyn i gyd effeithio ar ardaloedd ymhell y tu hwnt i'r isadeiledd. Bydd hyn yn gwaethygu oherwydd yr argyfwng hinsawdd, a bydd yn ymestyn i barthau arfordirol, gan y bydd tonnau uwch yn ystod stormydd a chynnydd yn lefel y môr yn newid y ffyrdd y mae ynni o’r môr yn cael ei drosglwyddo i wely’r môr.
Gall yr holl newidiadau hyn gyda’i gilydd gael effaith pellgyrhaeddol ar organebau sy’n byw ar wely’r môr neu yng ngwely’r môr, gan beryglu bioamrywiaeth (cyfoeth rhywogaethau) a darpariaeth rhai o wasanaethau’r ecosystem. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i gydgrynhoad pysgod sydd â chysylltiad cryf â nodweddion penodol gwely'r môr. Pe byddent yn cael eu dadleoli, byddai hynny’n cael effaith ar y gadwyn fwyd, gan fod adar y môr a morfilod yn porthi ar y pysgod sy'n byw ar wely'r môr.
Yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn o drawsnewid ynni a diogelwch cenedlaethol, mae'n bwysig deall a manteisio ar ateb yr amgylchedd morol i drawsnewid ynni adnewyddadwy, gan ddiogelu'r ecosystem ar yr un pryd.
Meddai arweinydd y project, Katrien Van Landeghem, Uwch Ddarlithydd Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor,
“Byddwn yn profi, modelu, arsylwi a chymharu’r gwahaniaethau ar wely’r môr mewn mannau lle nad oes ffermydd gwynt, mewn mannau gyda ffermydd gwynt bach ac mewn mannau ble bydd ffermydd gwynt mawr yn cael eu hadeiladu yn fuan. Byddwn yn defnyddio'r amgylchedd naturiol a labordai i brofi'r holl senarios hyn gyda datblygwyr ffermydd gwynt. Byddwn yn edrych ar y ffordd y mae anifeiliaid yn defnyddio gwely’r môr heddiw ac yn y gorffennol, a byddwn wedyn yn ceisio rhagweld sut y bydd anifeiliaid yn defnyddio gwely’r môr yn y dyfodol ar ôl dyfodiad y ffermydd gwynt. Efallai y bydd rhai anifeiliaid yn cael eu heffeithio'n negyddol, a rhai yn gadarnhaol. Byddwn yn edrych ar sut mae cynefinoedd gwely'r môr yn newid a sut maent yn cael eu defnyddio trwy ddelweddau fideo, samplau a thonnau sain. Bydd adar y môr yn cael eu holrhain gyda GPS i ddeall sut maent yn defnyddio eu hegni wrth chwilota am fwyd ger gwely’r môr a bydd dadansoddiadau DNA o’u hysgarthion yn datgelu eu diet.”
Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys gwyddonwyr ac arbenigwyr morol o’r National Oceanography Centre (NOC), HR Wallingford, Prifysgol Lerpwl, y Joint Nature Conservation Committee (JNCC), y Royal Society for the Protection of Birds (RSPB) a'r Royal Netherlands Institute for Sea Research (NIOZ). Cefnogir y project gan arbenigwyr amgylcheddol yn CGG ac mae Mona Offshore Wind Ltd., RWE, Offshore Wind Ltd., Intertek, ENI, y Swyddfa Dywydd, Prifysgol Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Mainstream Renewable Power, yr European Subsea Cables Association, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, JDR Cables, Partrac, Cooper Marine Advisors ac Ørsted yn darparu arbenigedd a data