Rhwydwaith newydd i gysylltu Ymchwil Iechyd y Cyhoedd ac Economeg Atal ar draws y rhanbarth
Mae rhwydwaith economeg iechyd rhanbarthol newydd yn cael ei lansio gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards o Brifysgol Bangor.
Bydd rhwydwaith Grŵp Ymchwil Iechyd y Cyhoedd ac Economeg Atal yn cysylltu ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes economeg iechyd y cyhoedd ac ymyriadau ataliol ar draws y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Wrth i'r Deyrnas Unedig adfer ar ôl pandemig Covid-19, bydd gwasanaethau iechyd a meddygol yn wynebu cynnydd yn y galw am brofion diagnostig, llawdriniaethau ac adsefydlu.
Bydd economegwyr iechyd y Brifysgol yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth o ran pa mor gost-effeithlon yw ymyriadau ataliol iechyd y cyhoedd.
Mae Rhiannon yn Gyd-gyfarwyddwr Y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol.
Meddai:
Mae ymchwil iechyd y cyhoedd ac economeg atal yn rhychwantu'r cwrs bywyd
Rydym ni wedi gweithio ers blynyddoedd lawer gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gyfadran Iechyd y Cyhoedd a grwpiau ymchwil academaidd iechyd y cyhoedd ym mhrifysgolion Lerpwl, Glasgow a Newcastle. Mae cydweithwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos diddordeb yn y rhwydwaith, gan gryfhau cysylltiadau rhwng y Brifysgol a'r Bwrdd Iechyd, ac ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gyda diddordeb cynyddol mewn ehangu addysg feddygol ym Mangor, rydym ni eisoes yn cynnig wythnos brofiad, a ddewiswyd gan y myfyrwyr eu hunain, i fyfyrwyr meddygol C21 Prifysgol Caerdydd sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor am ran o'u graddau."
Bydd datblygiadau diweddar ym Mhrifysgol Bangor yn cysylltu economegwyr iechyd sy'n gweithio'n annibynnol ar draws Coleg y Gwyddorau Dynol.
Dywedodd yr Athro John Parkinson, Deon Coleg y Gwyddorau Dynol:
“Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio cynyddu a chryfhau ei meysydd rhagoriaeth ymchwil, ac adeiladu timau amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol. Mae gan y rhwydwaith hwn yr arbenigedd a'r ansawdd i gyflawni'r fath frîff, ac wrth wneud hynny mae'n cefnogi’r effaith sylweddol a geir yn yr oes ôl-bandemig. "
Bydd y Rhwydwaith yn canolbwyntio ar werthuso economeg atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Bydd yr economegwyr iechyd yn gweithio mewn ffordd ryngddisgyblaethol a lle bo hynny'n bosibl ar “lefel systemau” mewn perthynas â'r agenda “Ail-greu yn decach” a osodwyd gan yr Athro Syr Michael Marmot.
Gan ychwanegu at bortffolio sefydledig o brojectau ledled y Deyrnas Unedig, bydd Rhiannon yn gweithio gyda thîm o ymchwilwyr iechyd y cyhoedd, dan arweiniad yr Athro Ben Barr ym Mhrifysgol Lerpwl, ar astudiaeth tair blynedd a ariannwyd gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR £850mil) yn edrych ar gyfleoedd ar gyfer rheoli ac atal dyled trwy gyfeirio pobl at leoliadau gofal iechyd.
Mae ymchwil iechyd y cyhoedd ac economeg atal sydd ar y gweill gan gydweithwyr ym Mangor yn rhychwantu cwrs bywyd rhywun, o astudio effaith uniongyrchol a thymor hwy bwlio mewn ysgolion hyd at werthuso economaidd rhaglenni ymarfer ataliol ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr.
Bydd rhwydwaith y Grŵp Ymchwil Iechyd y Cyhoedd ac Economeg Atal hefyd yn dwyn cydweithwyr ynghyd o Hwb Gwerth Cymdeithasol ein Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ar draws yr Ysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gweithio ar adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad astudiaethau fel y rhaglen Hyfforddi EMD (gweler Bwletin Staff 26/07/21). Ar y cyd ag economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni wedi derbyn cyllid seilwaith o £1.2 miliwn ar gyfer Economeg Iechyd a Gofal Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae economeg atal yn thema ymchwil allweddol yn ein gwaith ar lefel Cymru gyfan.