Diolch am eich cais am le ar y cwrs Baglor Nyrsio yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn cynnal ein cyfweliadau yn y cnawd a byddwn yn anfon gwahoddiad atoch trwy UCAS Track. Cynhelir y cyfweliadau yn Ysgol Gwyddorau Iechyd, Fron Heulog Bangor. Bydd eich cyfweliad gydag aelod o’n tîm academaidd a gallai gynnwys defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr neu aelod o’n partneriaid lleoliad ymarfer.
Cynhelir y cyfweliadau bob prynhawn Mercher a bob bore Gwener o 13 Tachwedd 2024 tan fis Mai 2025. Yn ystod yr amseroedd brig ar gyfer ceisiadau, byddwn yn cynnal wythnosau llawn o gyfweliadau a bydd y rhain yn cael eu cynnal yr wythnos yn dechrau 6 Ionawr 2025 a 17 Chwefror 2025.
Bydd eich cyfweliad yn dechrau gyda chyflwyniad am y rhaglen Baglor Nyrsio a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi. Byddwn yn ceisio gwneud y cyfweliad yn brofiad mor braf â phosib gan ein bod yn gwybod y gall fod yn ddigwyddiad llawn straen i chi.
Bydd rhaid i chi gyrraedd erbyn 12:30 pm yn brydlon am gyfweliad yn y prynhawn ac erbyn 9am am gyfweliad yn y bore, byddwn yn anfon y wybodaeth am y dyddiad a'r amser atoch trwy UCAS Track, felly daliwch ati i fynd i edrych ar UCAS i wirio'ch gwybodaeth os gwelwch yn dda.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y cyfweliad?
Yn ystod y broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno prawf o'ch hunaniaeth ar ffurf Pasbort neu Drwydded Yrru. Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o'ch rhifedd a llythrennedd, h.y. tystysgrifau TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg neu gymwysterau cyfatebol fel sgiliau allweddol Lefel 2 rhifedd/llythrennedd. Sylwer mai dim ond tystysgrifau gwreiddiol ddylid eu darparu.
Yn ystod eich cyfweliad, byddwn yn gofyn cwestiynau i ystyried sut y gallai eich rhinweddau a'ch gwerthoedd gyfrannu at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddiwallu anghenion amrywiol cleifion a chleientiaid.
Byddwn yn edrych ar eich cymhelliant, rhinweddau, gwerthoedd, cymhelliant i astudio a gallu i ddangos dealltwriaeth o garedigrwydd deallus mewn perthynas â'ch dewis faes nyrsio.
Bydd y rhain yn cynnwys cwestiynau fel y canlynol:
- Dywedwch ychydig amdanoch chi eich hun - cwestiwn i setlo ac ymlacio.
- Pam ydych chi eisiau astudio nyrsio - cymhelliant
- Pam ydych chi wedi dewis y maes … , beth am y maes nyrsio hwn sydd o ddiddordeb i chi? Paratoi
- Pa rinweddau a gwerthoedd sydd gennych a fyddai'n eich gwneud yn addas i fod yn nyrs gofrestredig?
- A allwch chi roi enghraifft imi o adeg y bu’n rhaid ichi ddefnyddio un o’r rhinweddau craidd ar gyfer nyrsio; un o'r 6C.
- Byddwn yn gofyn cwestiwn sy'n seiliedig ar gymhwysedd i chi megis: 'dywedwch wrthym am adeg pan ddangosoch sgiliau gwaith tîm/cyfathrebu/rheoli amser'
- Beth yw eich cryfderau mwyaf?
- Beth yw eich gwendidau mwyaf?
- Pa heriau ydych chi'n meddwl y gallech ddod ar eu traws a sut ydych chi'n meddwl y byddwch yn ymdopi â’r heriau hynny?
- Senario ymarfer – beth ydych chi’n meddwl y byddech yn ei wneud pe bai…
- Cwestiwn materion cyfoes i ddangos dealltwriaeth o faterion iechyd
- Sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn defnyddio enghreifftiau o'ch datganiad UCAS. Er enghraifft, soniasoch eich bod yn gwneud gwaith rhan amser / gwirfoddoli fel … pa sgiliau y byddai hyn yn ei roi i fyfyriwr nyrsio a nyrs gofrestredig yn y dyfodol?
- Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf fel myfyriwr nyrsio / fel nyrs gofrestredig
Ar ddiwedd y cyfweliad cewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau fydd gennych.
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?
Cewch wybod am ganlyniad y cyfweliad trwy UCAS Track, felly mae'n bwysig eich bod yn edrych ar eich cyfrif yn rheolaidd. Gall gymryd tua dwy wythnos waith i ganlyniad eich cyfweliad a chynnig gael ei brosesu.
A yw pob dim yn barod gen i at y cyfweliad?
- Pasbort neu drwydded yrru fel prawf o bwy ydych
- Tystysgrifau TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg neu gymwysterau cyfwerth fel sgiliau allweddol Lefel 2 rhifedd/llythrennedd. Os nad ydych wedi sefyll y rhain eto neu'n aros am ganlyniadau, bydd hyn yn rhan o'ch cynnig amodol os yw'n llwyddiannus yn y cyfweliad.
Rhaid bod y dogfennau gwreiddiol gennych yn y cyfweliad i ddangos i'r cyfwelydd.