Fy ngwlad:
Myfyriwr yn darllen llyfr clawr coch yn Llyfrgell Shankland

Ysgol y Gymraeg

Ni fu adeg mwy cyffrous i astudio'r Gymraeg a'r rhagolygon ar ei chyfer mor gadarnhaol. Mae galw cynyddol gan gyflogwyr am raddedigion sydd â chymhwyster da yn yr iaith.

MWY AM YR YSGOL

Ysgol y Gymraeg yw un o'r rhai hynaf ym Mhrifysgol Bangor, ac er ei sefydlu yn 1889 bu ei chyfraniad i fywyd llenyddol a diwylliannol Cymru yn gwbl allweddol. Mae gan Brifysgol Bangor enw ardderchog am ansawdd ei dysgu, ac mae'n cynnig amryw o gyrsiau anrhydedd sengl a chyd-anrhydedd.

Mwy

Pynciau Astudio

Dewch i wybod mwy am ein pynciau a'n cyrsiau o fewn yr ysgol. Dewiswch eich lefel o astudiaeth

Dewch i wybod mwy am ein pynciau a'n cyrsiau o fewn yr ysgol. Dewiswch eich lefel o astudiaeth

Llun agos o lyfr agored mewn llyfrgell

Ymchwil yr Ysgol

Y mae gan Ysgol y Gymraeg arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg ac ymhlith aelodau’r staff y mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos ag ysgolion ac adrannau academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

[Disgrifiad Gweledol] Llun o Branwen gyda'r teitl Branwen Roberts, Cymraeg

(0.04.30, - 0:08.99) Roeddwn i rili yn hoffi y Brifysgol ei hun ar Diwrnod Agored a wedyn oni'n teimlo

(0:08.99- 0:15.10) bod yr adran Gymraeg yma yn siwto fi yn well na phrifysgolion eraill

(0:15.10 - 0:18.07) a oedd cynnwys y cwrs hefyd yn swynio'n rili dda. Jyst yn lot o hwyl.

(0:18.07 - 0:22.69) Mae wastad pobl rownd pobl. Mae pawb yn dod ymlaen yn rili dda.

(0:22.69- 0:28.45) Ti'n dod mlaen gyda pawb yn gret a mae lot o gyfleoedd i gymdeithasu gyda bob math o bobl

(0:28.45 - 0:32.23) Pobl o oedrannau gwahanol ac o ardaloedd gwahanol so mae o'n lot o hwyl.

(0:32.23 - 0:36.91) Fi rili joio modiwl Defnyddio'r Gymraeg, fi'n teimlo fod o'n rili

(0:36.93 - 0:39.70) Mae'n ddefnyddiol o ran mae'n

(0:39.70- 0:43.51) helpu fi gyda bob modiwl arall dwi'n ei wneud hefyd.

(0:43.51 - 0:46.66) Mae o'n bwydo mewn i popeth arall dwi'n wneud, mae o'n rili practical.

(0:46.66 - 0:50.50) Dwi'n dysgu sgiliau fi'n defnyddio tu fas i'r cwrs hefyd,

(0:50.50- 0:54.22) fel bob dydd. Byddwn i'n argymell fod pobl yn

(0:54.22 - 0:58.36) edrych ar y cwrs i ddechrau ac hefyd rwy;n credu mae'n bwysig i ddeall

(0:58.36 -1:04.09) bod bywyd prifysgol yn fwy na jyst y cwrs chi wneud ac er bod

(1:04.09 - 1:09.22) bywyd cymdeithasol a clybiau: pethau allgyrsiol falle yn gorfod dod yn ail.

(1:09.22 - 1:12.55) Mae hefyd yn dal yn ran bwysig iawn o'ch profiad chi a'ch bywyd chi yn

(1:12.55 - 1:15.25) y brifysgol.  Felly mae'n bwysig eich bod chi yn edrych ar

(1:15.91 - 1:18.76) ble sydd mynd i eich siwtio chi yn bersonol a ble chi'n teimlo chi'n

(1:18.76 - 1:24.34) mynd i gael y gorau mas o fyw yno, eich bywyd personol chi yno.

(1:24.73 - 1:29.35) Felly i beidio jyst ffocysu ar y cwrs. Sai'n hollol siŵr eto ond fi'n credu fyddai

(1:29.35 - 1:35.77) wneud unrhywbeth fi'n gallu ei wneud i aros ym Mangor mor hir a sy'n bosib. Dwi'n meddwl falle

(1:35.77 - 1:40.38) byddai'n mynd ymlaen i wneud MA gobeithio. Fi'n mwynhau astudio

(1:40.38 - 1:44.11) a fi'n mwynhau astudio'n fan hyn hefyd, Felly ia eisiau aros fan hyn mor hir

(1:44.11 - 1:46.69) a dwi'n gallu fi'n credu a cario mlaen i weithio.
 

Prif Adeilad y Celfyddydau

Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored - dyma'r ffordd orau i weld beth sydd gan Brifysgol Bangor i'w gynnig.

Myfyrwyr tu allan i'r Brif Adeilad

Eich profiad fel myfyriwr

Cewch brofi cymuned gefnogol, bywyd cymdeithasol llawn bwrlwm a lleoliad anhygoel rhwng y mynyddoedd a'r môr.