Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant yn y cyfweliad a byddwch wedi derbyn cynnig gan UCAS erbyn hyn. Darllenwch y wybodaeth bwysig ganlynol am yr hyn sydd angen i chi ei wneud nawr.
Ffurflen hunan-ddatganiad
Dylai pob ymgeisydd lawrlwytho'r ffurflen hunan-ddatganiad.
Gwiriadau Cofnodion Troseddol
Mae eich lle ar y cwrs yn amodol ar gael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gweithio gyda phlant ac oedolion yn cynnwys gwirio'r rhestr rhai sydd wedi eu gwahardd.
Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Mae'n ofynnol i chi wneud cais am y gwiriadau cofnodion troseddol cyn dechrau'r cwrs, peidiwch ag oedi cyn dilyn y broses hon oherwydd gallai hynny olygu eich bod yn methu dechrau eich lleoliad.
Byddwn yn cysylltu â chi hyd at dri mis cyn dechrau'r cwrs gyda manylion am sut i wneud y gwiriadau hyn, rhaid i chi aros am y wybodaeth hon cyn gwneud cais am eich gwiriadau.
Cysylltwch â student.DBS.myfyrwyr@bangor.ac.uk os ydych angen rhagor o wybodaeth am wiriadau cofnodion troseddol neu'r hunan-ddatganiad.
Gwiriadau Iechyd Galwedigaethol
Mae eich lle ar y cwrs yn amodol ar gael asesiad iechyd boddhaol. Byddwn yn cysylltu â chi hyd at dri mis cyn dechrau'r cwrs gyda manylion am sut i wneud y gwiriadau hyn, rhaid i chi aros am y wybodaeth hon cyn gwneud cais am eich gwiriadau.
Gwirio Cymwysterau Academaidd
Dylai ymgeiswyr anfon copïau gwreiddiol ynghyd â llungopi o unrhyw dystysgrifau academaidd na chawsant eu cyflwyno yn y cyfweliad fel y gallwn wirio eich cymwysterau academaidd.
Dychwelir eich tystysgrifau trwy bost ail ddosbarth. Cofiwch nad yw'r Coleg Gwyddorau Dynol yn derbyn cyfrifoldeb am dystysgrifau coll os dewiswch yr opsiwn hwn. Ni fydd tystysgrifau yn cael eu dychwelyd drwy wasanaeth y post brenhinol lle gofynnir am lofnod, dim ond os byddwch wedi amgáu amlen â chyfeiriad a'r stamp cywir arni.
Cysylltwch â health.applications@bangor.ac.uk os ydych angen rhagor o wybodaeth.