Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu graddio
Dyma ychydig o luniau o’r wythnos yn ein oriel luniau.
Llysgennad Chwaraeon Ifanc yn Graddio
Bu i Jamie Turley, a gludodd y dorch Olympaidd a baton Gemau'r Gymanwlad, raddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon. Mwy…
Amser graddio i fyfyrwraig lwyddiannus o Sir y Fflint
Mae tair blynedd wedi hedfan heibio i fyfyrwraig ddiwyd o Brifysgol Bangor sydd yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr wythnos hon. Mwy…
Myfyrwyr o Ogledd Cymru ar y brig yn eu dosbarth
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu llwyddiant yr wythnos hon wrth iddynt raddio â'r marciau uchaf yn eu blwyddyn. Mwy...
Mam yn dathlu ar ôl tair blynedd heriol
Bydd mam i bedwar o blant sydd wedi wynebu sialensiau yn ystod ei chyfnod gradd yn graddio’r wythnos hon mewn BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mwy…
Ceri yn mynd y 400 milltir ychwanegol ar gyfer Gofal Dementia a chlefyd Alzheimer
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio'r wythnos hon wedi datblygu angerdd o'r fath ar gyfer ei phwnc, mae hi wedi beicio ar draws Fietnam. Mwy...
Swydd gyda’r Cyngor i Sian cyn iddi raddio
Graddiodd merch ifanc o Lŷn sydd wedi cael swydd lawn-amser gyda Chyngor Gwynedd cyn iddi ddarfod ei chwrs ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Graddiodd merch ifanc o Lŷn sydd wedi cael swydd lawn-amser gyda Chyngor Gwynedd cyn iddi ddarfod ei chwrs ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Mwy…
Cyfreithiwr lleol yn graddio o Brifysgol Bangor
Mae cyfreithiwr lleol sydd â llawer iawn o brofiad ym maes y gyfraith a busnes wedi graddio gydag MBA o Brifysgol Bangor yr wythnos hon. Mwy...
Mam arobryn yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig arobryn o Brifysgol Bangor yn graddio’r wythnos hon. Yn ogystal â derbyn gradd BA Addysg Gynradd SAC, bydd Gwawr Thomas, 33 o Langernyw yn derbyn gwobr Nawdd y Coleg Normal gwerth £500. Mwy…
Mae’r seren garate Emma yn rhagori y tu fewn a’r tu allan i’r dosbarth
Mae myfyrwraig leol sy’n dwlu ar garate yn dathlu math gwahanol o lwyddiant yr wythnos hon, wrth iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd ddosbarth cyntaf mewn Busnes a Chyfrifeg. Mwy...
Enillydd Ysgoloriaeth Ragoriaeth yn graddio
Mae gwaith caled ac ymroddiad wedi talu ar ei ganfed i fyfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio’r wythnos hon. Bydd Hannah Rettie, 21 oed, o Abergele a chyn ddisgybl yn Ysgol Emrys ap Iwan, yn graddio’r wythnos hon gyda gradd BSc Seicoleg o un o ysgolion Seicoleg gorau'r DU. Mwy…
“O’r diwedd!” Gŵr a gwraig yn graddio gyda’i gilydd
Byddai'r rhan fwyaf ohonom â digon ar ein plât yn gweithio’n llawn-amser ac yn magu tri o blant bach; ond mae cwpl o Ynys Môn wedi llwyddo i raddio gyda’i gilydd o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl astudio’n rhan-amser. Bu Tony Williams, 35, a’i wraig, Siân, 33, o Lanfair Pwllgwyngyll yn mynd i ddosbarthiadau nos trwy’r Ysgol Dysgu Gydol Oes yn y Brifysgol. Graddiodd Tony gyda gradd BA Astudiaethau Cyfunol a graddiodd Siân gyda Gradd BA Astudiaethau Cymdeithasol. Mwy ...
Cyn-weithiwr BT yn falch o’i gradd
Mae ysgrifenyddes ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi gwireddu ei breuddwyd o ennill gradd. Bydd Michelle Williams, 35, o Borthaethwy yn graddio gyda BA Astudiaethau Cyfun o’r Ysgol Dysgu Gydol Oes. Mwy ...
Nofel gyntaf yn ennill gwobr a doethuriaeth
Mae nofel a ysgrifennwyd fel rhan o gwrs ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chyhoeddi ac wedi ennill gwobr The Write Factor Shortlist Award, 2014 i’r awdur newydd, Rhian Waller. Ysgrifennwyd nofel gyntaf Rhian, Eithe’s Way, fel rhan o ddoethuriaeth Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor. Mwy …
Llwyddiant cerddorol i Cara
Mae merch o Griccieth yn dathlu ar ôl llwyddo i orffen ei gradd yn ogystal â datblygu ar ei gyrfa gerddorol. Cafodd y fyfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau, Cara Braia, 22, flas ar fyd cerddoriaeth wedi iddi ennill cystadleuaeth ar-lein am ail ddehongli cân glasurol grŵp poblogaidd o’r 60au The Kinks. O ganlyniad, mae hi wedi cydweithio gyda gwahanol artistiaid a chynhyrchwyr o bob cwr o'r byd. Mwy…
Merch o Borthmadog yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yr wythnos hon. Bydd cyn-fyfyrwraig Ysgol Eifionydd a Choleg Meirion-Dwyfor, Caryl Burke, 23, o Borthmadog yn graddio gyda BA Astudiaethau’r Cyfryngau'r wythnos hon. Mwy...
Myfyrwraig o'r Rhyl yn ennill dosbarth cyntaf a gwobr er gwaethaf trychineb llifogydd 2013
Bydd myfyrwraig o'r Rhyl yn derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon er i'r llifogydd enbyd a darodd arfordir gogledd Cymru yn 2013 ddifrodi ei chartref. Mae Davina Stanley, cyn fyfyrwraig 20 oed o Goleg Llandrillo, yn edrych ymlaen yn fawr at raddio ac mae'n barod i ddechrau'r bennod nesaf yn ei bywyd. Yn ystod y seremoni raddio, bydd Davina hefyd yn derbyn Gwobr Goffa Charles Mowat o £100. Mwy…
Myfyriwr arobryn yn graddio
Bydd cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn dathlu ei lwyddiant yn seremoni graddio Prifysgol Bangor yr wythnos hon. Bydd Elis Dafydd, 21 o Drefor, Caernarfon, yn graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg yr wythnos hon. Yn ogystal, fe ddyfarnwyd gwobr Ellen Kent o £100 am ei draethawd hir ar gyfeiriadaeth lenyddol a rhyngdestunoldeb yn y teyrngedau i Iwan Llwyd. Mwy...
Dramodydd talentog ifanc yn graddio
Mae dramodydd ifanc lleol wedi graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl tair blynedd o waith caled llwyddiannus sydd wedi arwain at gomisiynu ei ddrama. Graddiodd y cyn-fyfyriwr Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, Llŷr Titus Hughes, 21 o Sarn, Pwllheli gyda gradd BA Cymraeg. Mwy...
Gradd dosbarth cyntaf i ferch o Lŷn
Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Nid yn unig bydd Lois Angharad Owens, 21, o Bwllheli yn graddio gyda BA Hanes a Newyddiaduraeth, ond fe fydd hefyd yn derbyn Gwobr Blanche Elwy Hughes gwerth £100. Mwy…
Gweithiwr cefnogi lleol yn graddio
Yr wythnos hon graddiodd un o staff Cyngor Conwy o Brifysgol Bangor ar ôl astudio'n rhan amser a hynny tra'n gweithio'n llawn amser. Gwnaeth Andy Foulkes, 49, o Lysfaen, Bae Colwyn, gweithiwr cefnogi gyda Gwasanaethau Plant Conwy, raddio'r wythnos hon gyda BA mewn Astudiaethau Bioseicogymdeithasol mewn Defnyddio Sylweddau o'r Ysgol Dysgu Gydol Oes. Mwy…
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2014