Mae sefydliadau ymchwil niwrowyddoniaeth wybyddol ac ymchwil lles yn ymdrechu i ddeall y meddwl dynol a’r ymennydd, gan ddefnyddio dulliau gwybyddol a niwrowybyddol i astudio iaith, gweithredu, ymddygiad cymdeithasol, canfyddiad ac iechyd corfforol a meddyliol, er mwyn hybu gwyddoniaeth ac i hybu adsefydlu a gofal. Mae'r sefydliadau perfformiad elît a ffisioleg ddynol gymhwysol wedi ymroi i arwain dyfodol chwaraeon, iechyd, ymarfer corff a gwyddor perfformiad dynol. Mae'r sefydliadau rhyngddisgyblaethol a thraws-gydweithredol hyn yn gynnyrch uno dwy o'n hysgolion mwyaf rhagorol ac eithriadol. Yn yr Ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, graddiwyd 86% o seicolegwyr fel naill ai 3* neu 4* a graddiwyd 100% o chwaraeon yn 3* neu 4*. Roedd chwaraeon yn 5ed yn gyffredinol yn y DU. Cefnogir ein hamgylchedd ymchwil gan offer ac adnoddau mewnol o'r radd flaenaf, yn cynnwys MRI 3T at ddefnydd ymchwil yn unig, sy'n cefnogi fMRI, MRS a DTI; nifer o labordai tracio llygaid; EEG dwysedd uchel; a thechnegau efelychu dan arweiniad MRI, yn cynnwys TMS a tDCS.
Mae Effaith Economaidd a Chymdeithasol wrth galon ein Diwylliant Ymchwil. Rydym wedi newid y byd trwy ein rhwydwaith cyfoethog o gydweithwyr gan gynnwys busnesau, elusennau, llywodraethau a sefydliadau eraill ar draws y byd. Rydym wedi dod o hyd i ffyrdd o wella cyfleoedd dysgu miliynau o blant mewn gwledydd incwm isel a chanolig sy'n gweld eu deilliannau dysgu yn cael eu lleihau drwy gosb llym gan y rhai sy’n rhoi gofal. Mae ein hymchwilwyr wedi datblygu Ymyriadau wedi’u seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar sydd gyda'r gorau yn y byd (offer Meini Prawf Asesu Addysgu, Therapi Gwybyddol wedi’i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, Lleihau Straen wedi’i seilio ar Ymwybyddiaeth Ofalgar). Rydym wedi arwain grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr i ddatblygu Cyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL) ar-lein cyntaf sydd ar gael am ddim, a ddefnyddir gan fwy na 750 o ymarferwyr mewn 22 o wledydd. Rydym yn hyfforddi hyfforddwyr chwaraeon ac wedi datblygu ymyriadau i wella gwydnwch meddyliol athletwyr elît a welodd Lloegr yn ennill Cwpan Criced y Byd y Dynion yn 2019 am y tro cyntaf yn eu hanes. Ym Mangor mae ymchwilwyr yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol yn estyn allan i'r gymuned i wella eu perfformiad chwaraeon a lles mewn rygbi, pêl-droed, golff neu griced. Rydym yn manteisio ar ein hamgylchedd naturiol trawiadol iawn i ymchwilio i effaith gorfforol a seicolegol byw yn yr awyr agored. Ym Mangor rydym yn helpu i siapio ymddygiadau sy'n hyrwyddo byd iachach a mwy cynaliadwy.