Prynu Gwyliau Blynyddol
Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i helpu’r staff sicrhau cydbwysedd iach rhwng eu gwaith a'u bywydau personol. Mae hynny er lles gorau'r Brifysgol ac er lles gweithwyr unigol. Mae’r polisi’n nodi’r opsiwn a’r broses sydd ynglŷn â phrynu gwyliau ychwanegol ac mae’n ychwanegu at y darpariaethau presennol sydd ar gael i’r staff o ran eu gwyliau.
Trefniant aberthu cyflog yw hwn, sy’n gwneud prynu gwyliau ychwanegol yn opsiwn mwy fforddiadwy i’r staff nag ydyw ar hyn o bryd. Caiff unigolion wneud cais uniongyrchol ar borth Hunanwasanaeth I Trent pan fydd y cynllun ar agor. Isod mae arweiniad ynglŷn â gwneud hynny ar I Trent. Os cewch drafferth cael mynediad, anfonwch e-bost buddion@bangor.ac.uk.
Dim ond i aelodau o staff y Brifysgol y mae'r cynllun ar gael.
Fel arfer mae'r Cynllun yn agor unwaith y flwyddyn ar
• 1 Mehefin hyd 31 Gorffennaf (talu dros 12 mis yn dechrau fis Awst)
Cofiwch y bydd I Trent yn eich hysbysu ynghylch cost gros oriau’r gwyliau blynyddol y byddwch yn dymuno eu prynu. Bydd yr union gost yn llai, oherwydd yr arbedion y byddwch yn eu gwneud ar y Dreth ac Yswiriant Gwladol.
I gael amcangyfrif o sut y gall unrhyw bryniant effeithio ar eich Tâl Net, gweler y canllawiau isod ar Amcangyfrif y Tâl Net.
• Canllawiau I Trent ynglŷn â Gwneud Cais i Brynu Gwyliau Blynyddol trwy Hunanwasanaeth
• Amcangyfrif y Tâl Net – canllawiau’r gyfrifiannell ar-lein.
• Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol
• Cwestiynau Cyffredin