Tir na n-Og – Cynllun Di-dreth i Staff
Mae Tir na nOg (gwlad hudol ieuenctid mewn chwedloniaeth Geltaidd) yn feithrinfa di-elw a sefydlwyd gan Brifysgol Bangor ac y mae wedi’i lleoli ar Lôn Pobty, Bangor. Mae’r Feithrinfa ar agor i bawb, gan gynnwys myfyrwyr a staff y Brifysgol ac aelodau’r cyhoedd.
Mae gan y brif feithrinfa 50 o leoedd gofal plant; 20 ar gyfer babanod o 3 mis oed a 30 ar gyfer plant bach cyn oed ysgol. Mae’r Feithrinfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda lleoedd rhan-amser a llawn-amser ar gael. Gall plant ddechrau yn y Feithrinfa drwy gydol y flwyddyn, cyhyd â bod lle ar gael.
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith y gallwn roi gofal plant mwy fforddiadwy i weithwyr y Brifysgol drwy ein trefniant cyfnewid cyflog.
Fel cynllun aberthu cyflog cynigir hwn yn unol â Rheolau a Rheoliadau CThEM arferol a chyn dechrau dylai unigolion sicrhau eu bod yn darllen drwy’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin isod, gan roi arweiniad pellach ar weithrediad y cynllun ac ystyried ai dyma’r opsiwn gorau iddyn nhw.
Cwestiynau Cyffredin ac Egwyddorion y Cynllun
I wneud cais am y cynllun , i wneud cais am unrhyw ddiwygiad neu i atal unrhyw gyfranogiad yn y dyfodol bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflenni isod, fel y bo'n
briodol.