Iaith, Hanes a Diwylliant
Os ydych yn symud i’r ardal efallai eich bod yn gwybod cryn dipyn neu ychydig iawn am Gymru. Mae’r darn yma yn rhestr o safleoedd fydd yn rhoi amlinelliad byr o hanes a diwylliant Cymru i chi. Pob lwc a chroeso!
Hanes Cymru a Lleol
I ddarganfod mwy am hanes diddorol Cymru ewch i’r safleoedd gwe yma:
Diwylliant Cymreig a’r Iaith Gymraeg
Mae’r iaith Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop. Heddiw, mae’n parhau i fod yn iaith gymunedol fywiog, gyda defnydd cynyddol yn cael ei wneud ohoni mewn llawer maes. Fel yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, mae dwyieithrwydd yng Nghymru yn cael ei dderbyn bellach fel rhywbeth cwbl normal a naturiol.
Yma yng Ngogledd-Orllewin Cymru, mae cynifer a 70% o’r boblogaeth yn siarad yr iaith, ac fe’i defnyddir yn helaeth yn y sector gyhoeddus. Mae’r Brifysgol ei hun wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal ac yn gweithredu Cynllun Iaith cynhwysfawr.
Mae rhagor o wybodaeth am y Gymraeg i’w chael ar wefan ‘Symud i Gymru’ a luniwyd yn benodol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer y rhai hynny sy’n symud yma i fyw.
Isod mae llyfryn a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Gwynedd, sy'n rhoi cyflwyniad i ddiwylliant ac iaith y sir y mae'r Brifysgol ynddi:
Cyflwyniad i Iaith a Diwylliant Gwynedd
Dysgu’r Gymraeg
Gweler isod restr o sefydliadau sy’n cynnig gwersi dysgu Cymraeg.
- Fel arfer mae aelodau o staff sydd am ddysgu Cymraeg, yn dilyn rhaglenni sydd wedi eu paratoi gan Ysgol Dysgu Gydol Oes. Mae’r Cyrsiau hyn yn ddi-dâl i staff.
- Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig cyrsiau ‘Gloywi Iaith’ i Gymry Cymraeg a dysgwyr rhugl sy’n awyddus i wella’u sgiliau ysgrifennu yn Gymraeg. Ewch i dudalennau yr Uned Gloywi Iaith ar wefan Canolfan Bedwyr.
- CYD - Mae ‘Cymdeithas y Dysgwyr’ yn anelu i roi cymorth i ddysgwyr siarad Cymraeg drwy drefnu nifer o ddigwyddiadau rhwng dysgwyr a rheini sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae yna gangen Gyd yn y Brifysgol. Cysylltwch â hyfforddi@bangor.ac.uk am fanylion pellach.
- Acen - Safle we i ddysgwyr Cymraeg.
- BBC - Safle we i ddysgwyr Cymraeg.
Os ydych eisiau dysgu Cymraeg, cysylltwch â hyfforddi@bangor.ac.uk ac fe wnawn basio eich manylion ymlaen i’r Ysgol Dysgu Gydol Oes.
Eich rhoi ar ben ffordd ...
Dyma rai ymadroddion i’ch rhoi ar ben ffordd!
Cymraeg | Saesneg |
---|---|
Bore Da | Good Morning |
P`nawn Da | Good Afternoon |
Nos Da | Good Night |
Sut dach chi? | How are you? |
Da iawn, diolch | Very well thank you |
Reit dda | Fine thanks |
Hwyl or Ta ra | Good bye |
Wela i chi eto | See you again |