Llawlyfr Staff
Nod y llawlyfr hwn yw cyfeirio aelodau staff at y wybodaeth maent yn gofyn amdani amlaf.
Beth yw hanes Prifysgol Bangor?
Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, a phwyslais mawr ar brofiad y myfyrwyr. Am wybodaeth am hanes y brifysgol, cliciwch yma.
Ble gaf wybodaeth am strategaeth, llywodraethu a strwythur?
Cliciwch ycyswllt am ragor o wybodaeth.
Sut gaf wybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau AD?
Mae gan yr adran Adnoddau Dynol gasgliad o bolisïau sydd ar gael ary dudalen we hon.
Beth yw iTrent, a sut mae'n berthnasol i mi?
Mae iTrent yn ddatrysiad cwmwl sydd yn galluogi sefydliadau fel y Brifysgol i reoli data gweithwyr, y gyflogres, a swyddogaethau AD eraill yn effeithlon.
Mae yna hunanwasanaeth i gydweithwyr, sef ESS (Employee Self-Service). Porth hunanwasanaeth ar gyfer holl gydweithwyr yn y Brifysgol. Dyma'r platfform a fydd yn cael ei ddefnyddio i;
Weld eich holl fanylion personol a manylion yn ymwneud â swydd - a gallu diweddaru manylion personol o fewn y system, megis cyswllt brys, perthynas agosaf, cyfeiriad cartref, a'r holl wybodaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gweld eich slipiau cyflog misol, a ffurflenni cyflogres eraill, fel eich P60.
Gweld balans eich gwyliau blynyddol a gofyn am wyliau blynyddol.
Gofyn am fathau eraill o absenoldeb megis mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhiant a rennir, absenoldeb brys ac ati.
Gweld unrhyw gyfnodau o absenoldeb salwch.
Cyflwyno cais gweithio hyblyg.
Ar gyfer cydweithwyr sy'n Rheolwyr Llinell / Goruchwylwyr, bydd mynediad i blatfform o'r enw MSS (Managers self-service), sef hunanwasanaeth Rheolwyr. I roi rhai enghreifftiau, dyma’r llwyfan ar gyfer adolygu, ystyried a chymeradwyo ceisiadau am wyliau blynyddol, a bydd gwybodaeth sy’n ymwneud â’r swydd yn cael ei gweld ar gyfer aelodau’r tîm, a bydd cyfres o adroddiadau ar gael i’w gweld.
Mae yna lu o ddeunydd i'ch cefnogi wrth ddefnyddio'r system, yn amrywio ar gyfer Cwestiynau Cyffredin, fideos, canllawiau defnyddwyr, i gyd ar gael ar y dudalen hon.
Ble gaf wybodaeth am oriau gwaith a gwyliau blynyddol?
Cewch wybodaeth am oriau gwaith a hawl i wyliau blynyddol yma.
Ble gaf wybodaeth am gyflog, pensiynau a chostau?
Cyhoeddir graddfeydd cyflog y brifysgol ar y we dudalen this hon.
Mae gwybodaeth am bensiynau ar gael yma.
Mae gwybodaeth am gostau, gan gynnwys costau teithio a chynhaliaeth, ar gael yma.
Ble gaf wybodaeth am gyfleoedd datblygu i staff?
Cewch wybodaeth am gyfleoedd datblygu sy'n berthnasol i'ch swydd, y mathau o hyfforddiant a datblygiad y mae'r brifysgol yn eu cynnig a gwybodaeth am y Cynllun Adolygu Datblygu Perfformiad ar y wefan datblygu staff.
Ble gaf wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth?
Nod Prifysgol Bangor yw darparu amgylchedd sy�n parchu ac yn gwerthfawrogi cyfraniad cadarnhaol ei holl aelodau, fel y gallant wireddu eu posibiliadau�n llawn a chael budd a mwynhad o'u cyfraniad at fywyd y brifysgol. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r wefan datblygu staff.
Beth mae'r brifysgol yn ei wneud i gefnogi aelodau staff gyda theuluoedd?
Mae gan y brifysgol gyfres o bolisïau sydd wedi eu cynllunio i gefnogi aelodau staff gyda theuluoedd. Mae'r manylion ar gael yma.
Ceir hefyd meithrinfa ar y safle (Tir na n-Og). Mae'r feithrinfa yn agored i bawb, yn cynnwys holl fyfyrwyr a staff y brifysgol a'r cyhoedd.
Sut caf wybodaeth am iechyd a diogelwch yn y gwaith?
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan iechyd a diogelwch.
Ble gaf gymorth i ddelio â straen bywyd a gwaith, trafferthion teuluol, pryderon ariannol, problemau perthynas, a phryderon eraill?
Mae gennym raglen cymorth i weithwyr (VIVUP). Mae Care First yn cyflogi cwnselwyr ac arbenigwyr gwybodaeth � chymwysterau proffesiynol, sydd â phrofiad o helpu pobl i ddelio � phob math o broblemau ymarferol ac emosiynol fel lles, problemau teuluol, problemau perthynas, rheoli dyledion, problemau yn y gwaith, a llawer mwy. Mae ar gael i aelodau staff a'u teuluoedd ac mae'n anelu at gael effaith gadarnhaol ar eu lles.
Mae'r brifysgol hefyd yn elwa o fod ag ymarferydd iechyd galwedigaethol ar y safle.
Mae gen i ddiddordeb yn y cynllun beicio i'r gwaith, sut mae cael gwybod mwy?
Edrychwch ar ein tudalennau cynllun beicio i'r gwaith am ragor o wybodaeth.
Pa fuddion eraill sydd ar gael i staff?
Mae crynodeb o'r buddion sydd ar gael i staff ar gael yma.
Cewch wybodaeth manylach yma (mynediad i aelodau staff yn unig).
Pa gyfleusterau a chymdeithasau sydd ar gael i staff?
- Cyfleusterau chwaraeon
- Corws y brifysgol - mae croeso i fyfyrwyr a staff o bob rhan o'r brifysgol ymuno â chorws y brifysgol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch � Bethan Brown yn yr Ysgol Cerddoriaeth (2181, b.w.brown@bangor.ac.uk) - i gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
- Cerddorfa symffoni�r brifysgol - os hoffech ymuno �r gerddorfa, cysylltwch � Bethan Brown yn yr Ysgol Cerddoriaeth (2181, b.w.brown@bangor.ac.uk) - i gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
- Grwp adar - mae'r grwp adar yn cyfarfod bob dydd Mercher, 7.30 y.p. yn ystod y tymor yn Ystafell 101, Y Ganolfan Rheolaeth, Ffordd y Coleg. Mae'r grwp yn agored i staff, myfyrwyr a'r cyhoedd ac yn cynnal amrywiaeth ragorol o ddarlithoedd yn ogystal � theithiau maes a gynhelir ar benwythnosau.
- Cyrsiau Cymraeg am ddim ddim - mae'r brifysgol yn cynnig cyfle i aelodau staff ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim. Cynhelir amrywiaeth o gyrsiau - i gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
- Cyfleoedd i astudio'n rhan-amser - mae'r brifysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd i staff barhau â'u haddysg yn rhad ac am ddim neu am ffioedd is. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
- Cerdyn llyfrgell i staff - cewch wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael yn llyfrgelloedd y brifysgol yma.
Ble gaf wybodaeth am undebau llafur?
Mae'r brifysgol yn cydnabod tair undeb lafur:
Pa wybodaeth sydd ar gael am faterion yn ymwneud â chydymffurfio cyfreithiol?
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan llywodraethu a chydymffurfio.