Arolygu iechyd a monitro iechyd
Mae arolygu iechyd a monitro iechyd yn ymwneud â chreu gweithdrefnau systematig, rheolaidd a phenodol i ganfod salwch sy'n gysylltiedig â gwaith ymysg staff sy'n dod i gysylltiad â risgiau iechyd, a gweithredu ar y canlyniadau. Mae'r gweithdrefnau hyn:
- yn diogelu iechyd staff trwy ganfod unrhyw effeithiau andwyol ar iechyd yn gynnar. Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol.
- yn asesu'r mesurau rheolaeth yn y gwaith
- yn casglu gwybodaeth am beryglon yn y gwaith.
Mae arolygu a monitro yn amrywio o holiadur blynyddol syml i asesiadau cynhwysfawr fel profi'r clyw a phrofi gweithrediad yr ysgyfaint. Dyma enghreifftiau o rai peryglon:
- lle gwaith swnllyd iawn - profion clyw.
- gweithio gyda sylweddau sy'n gallu achosi asthma - holiadur a phrofi gweithrediad yr ysgyfaint
- gweithio gyda sylweddau sy'n gallu achosi dermatitis - holiadur ac archwilio'r croen.
- Gweithio yn y nos sy'n gallu cael effaith andwyol ar iechyd dros amser - holiadur iechyd blynyddol ac asesiad wyneb yn wyneb yn cael eu cynnig bob 2 flynedd
- Gyrwyr cerbydau'r brifysgol - holiadur iechyd blynyddol
- Cerbydau awyr bach di-griw (dronau) holiadur iechyd blynyddol yn cael ei gynnig /hss/inflink/drones.php.cy
Yn achos mwyafrif y sylweddau a ddefnyddir yng ngwaith y brifysgol, nid oes angen arolygu iechyd o ganlyniad i asesiad COSHH. O dan bolisi'r brifysgol, bydd arolygu iechyd yn cael ei wneud pan fernir ei fod yn briodol trwy asesiad COSHH. Os yw arolygu'n briodol, bydd rhaid i staff gael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol trwy ddefnyddio'r ffurflen arolygu iechyd.