Gwybodaeth i staff
Mae Iechyd Galwedigaethol yn annog rheolwyr i ofyn am gyngor ynglŷn â'r ffordd orau o gynorthwyo staff â phroblemau iechyd, a allai effeithio ar eu gallu i weithio. Os oes gennych bryderon am eich iechyd a'ch gallu i gyflawni gofynion eich swydd, gallwch ofyn i gael eich cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol trwy eich rheolwr llinell. Gall Adnoddau Dynol hefyd eich cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol am gyngor. Y nod yw cynnig barn ddefnyddiol ynglŷn â'ch ffitrwydd i weithio ac unrhyw gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch yn awr neu yn y dyfodol.
Rheoli Absenoldeb Salwch
Mae'r Polisi a'r Weithdrefn Absenoldeb Salwch yn bodoli er mwyn darparu dull teg a chyson o reoli absenoldeb salwch yn y gwaith.
Canllawiau i'r Staff ynglŷn â chyfeirio
Isod ceir rhestr o gwestiynau cyffredin gan staff ynglŷn â'r broses gyfeirio:
Pwy yw Iechyd Galwedigaethol?
Beth yw iechyd galwedigaethol?
Beth yw asesiad iechyd galwedigaethol?
Pam bod arnaf angen asesiad iechyd galwedigaethol?
A oes rhaid i mi fynd i asesiad iechyd galwedigaethol?
Rwyf wedi trefnu i gael asesiad iechyd galwedigaethol - beth sy'n digwydd nesaf?
Pa wybodaeth a roddir i'r rheolwr llinell?
Sut caiff fy nghofnodion iechyd galwedigaethol cyfrinachol eu cadw?
A oes gennyf hawl gweld adroddiadau iechyd galwedigaethol neu wybodaeth ysgrifenedig arall amdanaf?
Mae gennych hawl i weld unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn eich cofnod iechyd (galwedigaethol). I wneud hynny, gallwch ofyn am gopïau o'r wybodaeth sydd yn ein meddiant drwy ofyn am ffurflen gais mynediad at ddata sydd ar gael ar y tudalennau gwe canlynol: /governance-and-compliance/dataprotection/DPRequest.php.cy Os ydych chi'n credu bod unrhyw ran o'r wybodaeth sydd yn ein meddiant yn anghywir neu'n gamarweiniol, gallwch ofyn am roi diwygiad ynghlwm wrth y cofnod iechyd.
A fydd rhaid i chi gysylltu â'r meddyg teulu neu arbenigwr yr ysbyty?
O dan rai amgylchiadau gallai'r gweithiwr proffesiynol Iechyd Galwedigaethol ysgrifennu at eich meddyg teulu gyda'ch caniatâd gan roi gwybodaeth am ganlyniad eich asesiad Iechyd Galwedigaethol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os oes canfyddiadau clinigol neu drefniadau gwaith y mae'r gweithiwr proffesiynol iechyd proffesiynol yn credu y dylid rhoi gwybod i'r meddyg teulu amdanynt.
Beth ddylwn ddod i'r asesiad?
- Llythyr yr apwyntiad
- Rhestr o'r meddyginiaethau rydych chi wedi bod yn eu cymryd
- Gwydrau a/neu lensys cyffwrdd, os ydych yn eu gwisgo
- Unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i'ch asesiad yn eich barn chi
Arolwg Staff Iechyd Galwedigaethol
Gellir cyrchu'r arolwg trwy glicio YMA.
Cysylltiadau defnyddiol eraill
- Pecyn cymorth rheoli straen
- Cwnsela staff - mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'r holl staff.
- Able Futures - Cymorth Iechyd Meddwl (Sylwer y daw'r canllawiau canlynol oddi wrth gorff allanol ac felly maent ar gael yn Saesneg yn unig.)
- Cymerwch olwg ar dudalennau gwe Canolfan Brailsford i weld rhestr fisol o’r gweithgareddau a’r dosbarthiadau staff actif sydd ar gael i bob aelod staff.