Pecyn Cymorth y Menopos
Cliciwch y botymau isod i gael amrywiol bodlediadau, Apiau, Blogiau a Fideos ynglŷn â materion sy’n ymwneud â'r menopos gan gynnwys gwybodaeth am y berimenopos a’r menopos. Os oes gennych chi adnoddau pellach yr hoffech chi eu hargymell, e-bostiwch m.lake@bangor.ac.uk
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i wella lles ein holl staff. Mae'r menopos yn rhan naturiol o heneiddio i fenywod. Diben y canllawiau hyn yw sicrhau bod yr holl staff yn gwybod beth y gall y menopos ei gynnwys i fenywod, a galluogi staff i gael sgyrsiau cefnogol tra’n cael eu cefnogi’n llawn gan Adnoddau Dynol ac Iechyd Galwedigaethol.
Mae'r ddogfen ganllaw hon yn berthnasol i holl staff y Brifysgol.
Datganiad ac Arweiniad ar y Menopos
Dyma gyswllt â thudalennau llesiant y Campws ac adnoddau defnyddiol pellach fel y cynllun iechyd yn y gwaith a allai eich helpu chi ddechrau trafodaeth gyda'ch rheolwr am eich symptomau
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch (bangor.ac.uk)