Iechyd Galwedigaethol
Mae Iechyd Galwedigaethol yn gangen arbenigol o feddygaeth sy'n canolbwyntio ar les corfforol a meddyliol staff yn y gwaith.
Nod iechyd galwedigaethol yw rhwystro salwch ac anaf sy'n gysylltiedig â gwaith trwy:
- annog arferion gweithio diogel;
- ergonomeg (astudio sut rydych yn gweithio a sut gallech weithio'n well);
- monitro iechyd yn y gwaith;
- cefnogi'r broses o reoli absenoldeb salwch.
Datganiad Cenhadaeth
Cenhadaeth Iechyd Galwedigaethol yw gwella a diogelu iechyd, diogelwch a lles pob aelod staff trwy feithrin diwylliant o gefnogaeth a pharch yn y gwaith.
Oriau Agor
Dydd Llun | 08.45 - 17.00 |
Dydd Mawrth | 08.45 - 17.00 |
Dydd Mercher | 08.45 - 17.00 |
Dydd Iau | 08.45 - 17.00 |
Dydd Gwener | 08.45 - 17.00 |