Cynllun Beicio i'r Gwaith
I hyrwyddo teithio iachach i’r gwaith a lleihau llygredd amgylcheddol, cyflwynwyd dan Ddeddf Gyllid 1999 eithriad treth blynyddol sy’n caniatáu i gyflogwyr hurio beiciau ac offer diogelwch i’w staff. Mae’r eithriad yn un o gyfres o fesurau a gyflwynwyd yn sgil Cynllun Teithio Gwyrdd y Llywodraeth, er mwyn gwneud beicio yn fwy atyniadol. Mae’r cynllun yn galluogi i aelodau staff elwa drwy logi (yn hirdymor) feiciau ac offer cymudo fel goleuadau a chloeon. Fe’i hystyrir felly yn ffordd ddi-dreth i wella iechyd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, dylech dreulio ychydig funudau yn darllen y ddogfen ‘Cwestiynau ac Atebion’ (gweler y ddolen isod). Ceir yn y ddogfen hon atebion i gwestiynau a allai godi am y cynllun. Os bydd gennych gwestiynau eraill, e-bostiwch benefits@bangor.ac.uk neu cysylltwch ag Adran Adnoddau Dynol.
Mae’r cynllun Beicio i’r Gwaith yn cael ei gynnig gan y Brifysgol mewn partneriaeth â Sodexho Employee Benefits Cy a Halfordsf.
Mae’r bartneriaeth hon yn galluogi i aelodau staff archebu beic naill ai gan rhai fanwerthwyr lleol annibynnol neu gan Halfords (Cycle2Work). Yn y modd hwn, mae gan staff ddewis.
Drwy glicio ar y ddolen isod cewch eich trosglwyddo i wefan y cwmni. Mae’r wefan hon yn Saesneg yn unig.
Mae'r cynllun ar gael i staff Prifysgol Bangor yn unig.
Bydd y cynllun eto ar gael yn y cyfnodau hyn:
-
1af i'r 31ain o Ionawr
-
1af i'r 31ain o Fai
- 1af i Awst i'r 30 o Fedi
-
Cliciwch Yma i Gymryd Eich Cam Cyntaf Tuag at Feic Newydd
Am wybodaeth a'm safleoedd yn y Brifysol y gallwch ddiogelu eich beic a chymeryd cawod edrychwch ar y map google gan glicio yma