Gweithio Deinamig - Deinamig yn Ddiofyn
Byddwn yn creu lle gwaith eithriadol, amrywiol a chynaliadwy a fydd yn annog pobl i gyflawni nodau personol a sefydliadol a sicrhau bod gennym oll bwrpas cyffredin. Byddwn yn recriwtio, yn cefnogi, yn dyrchafu ac yn dal ein gafael ar staff o ansawdd uchel sy'n perfformio'n dda, trwy greu amgylchedd a fydd yn caniatáu iddynt lwyddo
Byddwn yn trin hyblygrwydd a rhithwirdeb fel rhywbeth arferol, yn hytrach nac eithriad i’r ffordd reolaidd o weithio yn y gwaith. Gweithio ar y sail bod hyblygrwydd o ran amser a lleoliad ar gael i bawb mewn rhyw ffordd oni bai bod rhesymau busnes amlwg yn erbyn hynny.
Mewn sefydliadau lle caiff gweithio hyblyg ei drin fel eithriad i ffordd ddiofyn draddodiadol o weithio yn y swyddfa neu oriau gwaith rheolaidd, ni chaiff manteision gweithio deinamig eu gwireddu