Gweithio Deinamig - Cynwysoldeb
Mae gweithio deinamig yn seiliedig ar gyfathrebu effeithiol. Mae'n hanfodol i lwyddiant ond gall hefyd fod yn faes risg uchel. Os na chaiff cyfathrebu ei reoli'n dda gall arwain at lif gwybodaeth gwael, bylchau mewn gwybodaeth, rhwystrau i weithio mewn tîm yn effeithiol ac eithrio aelodau tîm nad ydynt yn y swyddfa. Rhaid i gyfathrebu fod yn fwy bwriadol oherwydd bod llai o gyfleoedd i gael sgyrsiau achlysurol neu ad-hoc. Rhaid ystyried cyfathrebu effeithiol fel cyfrifoldeb pawb yn y tîm.
Bydd sut yn union sy’n rhaid i dîm deinamig gyfathrebu yn amrywio yn dibynnu ar faint y tîm, natur y swyddi yn y tîm a'r math penodol o waith sy'n cael ei wneud.
Mewn amgylchedd deinamig, rhaid sicrhau mynediad parhaus i ddatblygiad a sgyrsiau gyrfa i'r holl weithwyr a sicrhau bod dyraniad teg o waith a chyfleoedd.