Gweithio Deinamig - Gwneud yn Fawr o'r Lle Sydd Gennym
Cydnabyddir yn ein Gweledigaeth Ystadau bod rhaid i ni gyfuno a rhesymoli ein hystad, ond ni ddylid ystyried hyn yn brif gymhelliant wrth i ni symud tuag at ffyrdd mwy deinamig a doeth o weithio.
Bydd effaith posib gweithio deinamig yn amrywiol, ond bydd nifer y staff ar y campws o ddydd i ddydd yn lleihau. Gyda'r gostyngiad hwnnw, bydd cyfleoedd yn dod i'r amlwg i ddarparu lle a fydd yn cefnogi diwylliant o weithio'n ddeinamig a doeth.
Defnyddir dulliau gwahanol mewn gwahanol brifysgolion, yn aml wedi eu cymell gan le. Nid yw'r brifysgol yn gorchymyn bod staff yn gweithio o gartref ac gall ffyrdd newydd a doeth o weithio alluogi mwy o hyblygrwydd wrth gynllunio a defnyddio adeiladau.