Fy ngwlad:
Parc Cenedlaethol Eryri

Cyflwyniad gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Nia Whiteley Amdanom ni

Mae’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol aNaturiol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i'r rheiny sydd â diddordeb mewn meysydd pwnc ar draws y gwyddorau naturiol.

Mae gennym enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd israddedig ac ôl-radd ar bynciau sy'n ymwneud ag Amaethyddiaeth, Bioleg, Cadwraeth, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Coedwigaeth a Sŵoleg.

Mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil cydweithredol ar draws y byd ac yn ymdrin â materion a phynciau o bwys sylfaenol sy'n gysylltiedig â'n hamgylchedd naturiol. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo i lunio polisïau llywodraeth, ac yn newid ein ffordd o feddwl am fyd natur a'i broblemau. 

Sir David Attenborough

Gradd er Anrhydedd Syr David Attenborough

"Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol ym maes astudio gwyddorau'r amgylchedd a'r môr. Mae arnom angen pobol efo'r arbenigaeth a'r sgiliau ymchwil hollbwysig i geisio datrys problemau'r byd."

EIN CYRSIAU

Rydym yn cynnig y rhaglenni dysgu o bell isod:

  • MSc Amaeth-goedwigaeth a Diogelwch Bwyd
  • MSc Coedwigaeth 
  • MSc Coedwigaeth Drofannol

Mwy o wybodaeth

MEYSYDD YMCHWIL

Mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil ar draws y byd. Mae eu darganfyddiadau yn helpu i lunio polisïau'r llywodraeth ac yn newid yr union ffordd rydyn ni'n meddwl am bynciau pwysicaf y dydd.

Fferm Henfaes - Ysgol Gwyddorau Naturiol

Cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau’n cynnwys Canolfan Ymchwil Henfaes, sy’n cynnig cyfleoedd heb eu hail i astudio amgylcheddau amrywiol, a Gardd Fotaneg Treborth, safle 18 hectar ar lannau'r Fenai.

CYFLEOEDD I YMUNO Â Ni

Swyddi a Chyfleoedd

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Sut i ddod o hyd i'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG