Gweithio Deinamig - Cydweithredu
Ychydig iawn ohonom sy'n gweithio ar ein pennau ein hunain yn llwyr, felly nid yw gweithio deinamig yn ymwneud yn unig â ble rydym yn gweithio, a sut rydym yn gweithio, ond hefyd â sut rydym yn ymwneud ac yn cydweithredu â'n gilydd i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Er mwyn cefnogi gweithio deinamig, caiff cyfarfodydd yn y cnawd eu trefnu i holl gyfarfodydd swyddogol y brifysgol ar dri diwrnod yr wythnos. Bydd y cyfarfodydd hyn yn rhai yn y cnawd i bawb sydd i fod yn bresennol ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol.
Cynhelir pob cyfarfod arall yn y cnawd neu ar-lein yn unol â chytundeb y rhai sydd i fod yn bresennol.
Mae nifer o ffactorau defnyddiol y dylid eu hystyried o ran pa fformat sydd fwyaf priodol - yn cynnwys yr angen am greadigrwydd, syniadau a chyfraniadau; a chyfarfodydd o natur sensitif ag unigolion - er enghraifft darparu math o ofal bugeiliol neu gefnogaeth a chyngor emosiynol.