Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron wedi eu rhwydweithio gan ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell ein hunain. Mae ein hymchwil a'n hymwneud fel arall â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.
- Rydym yn gweld ein holl fyfyrwyr fel unigolion ac yn deall eich cryfderau. Mae drysau ein swyddfeydd yn agored bob amser, p'un a ydych eisiau trafod eich gwaith academaidd, ymchwilio i ddamcaniaethau neu gael sgwrs am fywyd.
- Mae unrhyw un sy'n dewis astudio gyda ni yn cael help pob cam o'r ffordd a bydd yn graddio gyda chymhwyster y mae cyflogwyr yn ei hoffi yn ogystal ag atgofion a ffrindiau fydd yn para am oes.
- Yn aml, cynhelir projectau blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni lleol - gan roi manteision i chi pan fyddwch yn chwilio am waith.
- Mae llawer o'n graddau cyfrifiadureg wedi eu dilysu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain sef y sefydliad siartredig ym maes technoleg gwybodaeth.
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr - a gynlluniwyd i roi'r cyfle i ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau a chefnogi'r gwaith o gyflwyno modiwlau pensaernïaeth gyfrifiadurol.
- Rydym yn defnyddio labordai cyfrifiadurol o'r radd flaenaf, cyfrifiaduron rhwydwaith a meddalwedd o safon diwydiant ym mhob cwrs.
- Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar agweddau galwedigaethol gan gynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth o arferion busnes.
- Mae cyfleoedd am nawdd ac ysgoloriaeth ar gael ar sail gystadleuol.
- Mae ein holl gyrsiau ar gael gyda blwyddyn ar leoliad.