Mae gennym hanes hir o arbenigedd mewn peirianneg a gellwch astudio amrywiaeth gyfoethog o fodiwlau. Cewch eich dysgu gan staff sy'n beirianwyr profiadol ac sy'n cynnal cysylltiadau â diwydiant i sicrhau bod cyrsiau'n adlewyrchu datblygiadau diweddar. Mae gennym hefyd staff sy'n arbenigo mewn dysgu mathemateg i beirianwyr.
- Rydym yn cynnig nifer fawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i'ch helpu chi i wireddu'ch breuddwyd o astudio gyda ni.
- Mae Peirianneg Electronig yn y 4ydd safle yn y Deyrnas Unedig am gynnyrch ymchwil.* Mae gennym sylfaen ymchwil gref mewn optoelectroneg, cyfathrebu, systemau storio data, microelectroneg, bioelectroneg a gwyddor deunyddiau, systemau rheoli ac offeryniaeth.
- Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau labordy o'r radd flaenaf. Yn ogystal â labordai addysgu mawr, gydag offer o safon uchel, mae gennym sawl labordy ymchwil hefyd.
- Mae ein cymuned o staff a myfyrwyr yn fywiog, ac mae ein hadnoddau'n cynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron gydag offer o safon uchel, gan ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell gyfeirio ein hunain.
- Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu gan y Institution of Engineering and Technology proffesiynol, sy'n golygu bod sgiliau a ddysgir a phriodoleddau yn cael eu cydnabod fel y cam cyntaf tuag at ennill cymhwyster proffesiynol Peiriannydd Siartredig neu Wyddonydd Siartredig.
- Mae ein holl gyrsiau ar gael gyda blwyddyn ar leoliad.
- Mae 90% o'n myfyrwyr yn dod o hyd i waith cyflogedig, ac mae galw mawr gan gyflogwyr rhyngwladol am raddedigion sydd wedi cwblhau'r cwrs hwn.
*Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf