Beth yw cynghori?
Hyfforddir cwnselwyr i wrando ar eich pryderon a’ch problemau heb feirniadu, er mwyn eich helpu i ddeall yn well beth sy’n digwydd ac yna eich cefnogi i ddod o hyd i ffyrdd o wella eich sefyllfa. Weithiau mae myfyrwyr yn gweld bod trafod pethau ynddo ei hun yn helpu i gael golwg mwy cytbwys ar anawsterau. Mae cwnsela yn rhoi cyfle i chi sgwrsio'n rhydd ac yn gwbl gyfrinachol am beth sy'n eich poeni gyda rhywun nad yw fel arall yn rhan o'ch bywyd.
Mae llawer o bobl yn nerfus i ddechrau mewn amgylchedd newydd a gwahanol, ond mae'r teimladau yma'n lleihau'n fuan. Gall fod yn anodd cymryd y cam cyntaf efallai ond, beth bynnag fo eich problem, a waeth pa mor fawr neu fychan fydd, byddwch yn sicr o gael eich croesawu yma a gwrandewir arnoch gyda pharch.
Ar gyfer beth mae cynghori?
Mae cwnsela ar gael i’r holl fyfyrwyr sy’n wynebu rhyw anhawster neu broblem yn eu bywyd ac sy'n teimlo na fedrant ddatrys yr anhawster hwn ar eu pen eu hunain am y tro.
Mae myfyrwyr yn gofyn am gymorth gennym mewn perthynas â nifer o wahanol fathau o broblemau. Gall y rhain fod yn broblemau hir dymor, megis anawsterau teuluol, neu gam-drin yn y gorffennol a phroblemau diweddar yn ymwneud â materion academaidd neu hiraeth a thrafferth i ymgartrefu yn y coleg. Gall fod yna bryderon am y defnydd o alcohol neu gyffuriau a phroblemau perthynas a hunaniaeth rywiol. Mae rhai pobl yn dod i'n gweld ni am eu bod yn poeni am iselder, pryder a phroblemau iechyd meddwl eraill ac am eu bod yn cael anhawster i ddelio â salwch corfforol.
Mae cynghori'n addas lle mae amser i edrych yn bwyllog ar drafferthion presennol. Nid yw'n addas o anghenraid pan mae angen ymateb yn sydyn mewn argyfwng.
Cewch fanylion gwasanaethau sydd ar gael mewn argyfwng ar dudalen blaen ein gwefan
Beth bynnag, os dewch atom mewn argyfwng fe wnawn eich arwain bob amser at help arall os byddwn yn teimlo eich bod angen help o fath gwahanol, neu gefnogaeth ychwanegol tra ydych yn cael sesiynau cynghori.