Newyddion Arweinwyr Cyfoed
Mae Bangor yn troi’n felyn!
Bydd Bangor yn lliwgar iawn yn ystod yr wythnos groeso. Bydd yr arweinwyr cyfoed allan yn eu lluoedd yn cyfarch myfyrwyr newydd dros y penwythnos cyntaf a’r wythnos groeso – i gyd yn gwisgo eu crysau T aur gyda llun dyn bach yn gwenu arnynt.
Am y tro cyntaf erioed mae gennym dros 500 o arweinwyr cyfoed yn disgwyl i gyfarch pawb. Mae Bangor yn mynd i fod yn felyn IAWN!
Catherine yw Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn
Bob blwyddyn rydym yn gofyn i’n myfyrwyr newydd enwebu arweinydd cyfoed sydd yn eu barn hwy wedi mynd yr ail filltir i’w helpu i ymgartrefu – rydym wedyn yn rhoi gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn i’r un gorau. Yr enillydd eleni oedd Catherine Suddaby o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Darllenwch mwy am Catherine a’r wobr
Mae arweinwyr cyfoed yn gwneud gwaith da
Yn ein gwerthusiadau diweddaraf, rhoddodd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf lawer iawn o ganmoliaeth i’r arweinwyr cyfoed:
- Roedd 84% yn meddwl bod yr help a gawsant yn ddefnyddiol
- Roedd 53% wedi cael eu hannog i siarad â staff i ddatrys problemau roeddent yn eu cael wrth ymgartrefu
- Roedd 50% o’r sylwadau agored yn canmol yr arweinwyr cyfoed am fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu
Llongyfarchiadau mawr i’r holl arweinwyr cyfoed a oedd yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y myfyrwyr newydd yn ymgartrefu’n iawn yma.