Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau sy'n cael eu gofyn yn gyson gan fyfyrwyr newydd.
Pwy all fy helpu i ddod o hyd i swydd?
Bydd y Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd (Gyrfaoedd) yn gallu eich helpu i ddod o hyd i waith rhan-amser, i ddiweddaru eich CV ac i baratoi at gyfweliadau. Cysylltwch â nhw trwy e-bostio gyrfaoedd@bangor.ac.uk neu galwch draw yn eu stondin heddiw.
Pryd fyddaf i'n cael fy amserlen?
Fe gewch eich amserlen yn ystod yr wythnos groeso pan fyddwch chi'n cyfarfod â'ch ysgol academaidd.
Sut ydw i'n cofrestru?
Byddwch wedi derbyn e-bost gyda manylion cofrestru. Mae 2 gam: ffurflen gais ar-lein a phroses gwirio ID. Gweler tudalen 16 o'ch Dyddiadur Croeso.
Pryd fyddaf i'n cael fy ngherdyn llyfrgell?
Fe gewch eich cerdyn llyfrgell ar ôl i chi gofrestru a chadarnhau pwy ydych chi, cyhyd â'ch bod chi wedi darparu llun.
Pryd fyddaf i'n cael fy nghyllid?
Mae rhandaliad cyntaf eich grant dysgu benthyciad / cynnal a chadw wedi cael ei dalu 3-4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gofrestru a chadarnhau pwy ydych chi. Os oes gennych fenthyciad ffioedd dysgu oddi wrth Gyllid Myfyrwyr, mi fydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r brifysgol nid i chi
Fydda i'n cael bwrsariaeth?
Gwybodaeth yr ydych eisoes wedi cael ei ddarparu i'r cwmni benthyciadau myfyrwyr sy'n pennu a ydych yn gymwys i gael bwrsariaeth. Os ydych chi'n gymwys, anfonir llythyr atoch ym mis Chwefror a chewch eich talu o 1 Mawrth.
Tiwtoriaid Personol
Dylech gael tiwtor personol yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Os nad ydych, cysylltwch â gweinyddwr eich ysgol.
Ble alla i ddod o hyd i restr o weithgareddau Undeb y Myfyrwyr?
Edrychwch ar y https://cy.undebbangor.com neu ewch i Serendipedd:
Canolfan Brailsford 11 – 5pm ddydd Mercher 18 Medi (awr dawel 10 – 11).
Cofiwch
- y gallwch ddod o hyd i'r rhan fwyaf o wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn www.bangor.ac.uk ac yn nyddiadur yr wythnos groeso!
- y ceir gwybodaeth am barcio ar daflen wybodaeth ar wahân.