Adnoddau Iechyd Meddwl Ar-lein
Sylwch fod llawer o'r adnoddau a gynhwysir isod yn cael eu darparu yn Saesneg oherwydd efallai nad oes rhywbeth Cymraeg priodol cyfatebol yn bodoli. Mae Prifysgol Bangor yn cefnogi project parhaus i greu adnoddau iechyd meddwl yn Gymraeg er mwyn diwallu'r angen hwn - gwyliwch y gofod hwn ym mis Medi 2020 i gael adnoddau ychwanegol yn Gymraeg.
Mewn Argyfwng
Gall argyfyngau gynnwys gwaedu trwm, colli ymwybyddiaeth, ac anawsterau anadlu; er enghraifft, gwenwyno/ gorddos, ymdrechion hunanladdiad, damweiniau car.
Am gymorth meddygol, ffoniwch 999 neu ewch i'ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf.
I siarad â rhywun, ffoniwch y Samariaid ar 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg).
Sylwch, mae'r gwasanaeth Cymraeg ar agor bob dydd 7pm - 11pm, ac mae'r gwasanaethau Saesneg ar gael 24/7.
Angen Cefnogaeth Nawr?
Ymwadiad: Daw'r holl ddisgrifiadau o'r sefydliadau, gwefannau, ac adnoddau isod gan eu hawduron gwreiddiol, a chyfieithwyd llawer o'r Saesneg. Nid yw Prifysgol Bangor yn gyfrifol am gywirdeb y disgrifiadau o'r adnoddau.
Estyn allan i eraill
Llinellau cymorth
Gallai siarad â rhywun dros y ffôn am sut rydych chi'n teimlo fod yn ddefnyddiol mewn adegau anodd. Mae yna amrywiol linellau cymorth a gwasanaethau gwrando a all ddarparu cefnogaeth emosiynol. Mae staff y llinell gymorth yn wirfoddolwyr hyfforddedig sydd eisiau eich helpu chi.
Samariaid - 116 123: Beth bynnag rydych chi'n mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Estynnwch allan am gefnogaeth emosiynol. Ffoniwch 0808 164 0123 i gael siarad Cymraeg (7pm - 11pm bob dydd), a 116 123 ar gyfer y Saesneg (24/7).
Student Space – i'ch helpu i ddod o hyd i gefnogaeth yn ystod y pandemig
HOPELINE gan Papyrus - 0800 068 4141: Mae HOPELINEUK yn wasanaeth cymorth a chyngor cyfrinachol i blant a phobl ifanc o dan 35 oed sy'n meddwl am hunanladdiad, neu unrhyw un sy'n poeni y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad. Ar gael Llun-Gwener: 9am - 10pm, penwythnosau a gwyliau banc: 2pm - 10pm. Ffoniwch 0800 068 4141. Mae'r gwasanaeth hwn yn Saesneg.
C.A.L.L. – 0800 132 737: Mae'r Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L.) yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/deunydd darllen ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Gall unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu berthynas neu ffrind gael mynediad i'r gwasanaeth i gael rhywun i wrando a rhoi cefnogaeth yn gyfrinachol. Ar gael 24/7. Ffoniwch 0800 132 737.
Mwy o linellau cymorth ar gyfer anghenion penodol: Os ydych chi'n dymuno siarad â rhywun am fater mwy penodol, edrychwch ar y rhestr hon o linellau cymorth a llinellau gwybodaeth.
Gwasanaethau Negeseuon Testun
Ar adegau pan mae siarad yn teimlo'n ormod, gall llinellau negeseuon testun ddarparu ffordd gyffyrddus i gael cefnogaeth gan wirfoddolwyr hyfforddedig drwy wasanaeth negeseuon testun ar eich ffôn symudol.
Shout Crisis Textline - 85258: Mae Shout yn wasanaeth negeseuon testun cenedlaethol 24/7, am ddim ar bob rhwydwaith symudol mawr, i unrhyw un sydd mewn argyfwng unrhyw bryd, yn unrhyw le. Mae'n lle i fynd os ydych chi'n cael trafferth ymdopi ac mae angen help arnoch chi ar unwaith. Anfonwch neges destun Shout i 85258.Mae'r gwasanaeth hwn yn Saesneg.
C.A.L.L. Textline - 81006: Gall unrhyw un sy'n poeni am ei iechyd meddwl ei hun neu berthynas neu ffrind gael gafael ar wybodaeth a chyngor trwy anfon cais byr at 81066. Yn syml, anfonwch y gair HELP wedi'i ddilyn gan y manylion sydd eu hangen arnoch.
Cefnogaeth Gymunedol Ar-lein
Cymuned ar-lein gefnogol yw Ochr-yn-Ochr Cymru lle gallwch deimlo'n gartrefol yn siarad am eich iechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy'n deall yr hyn rydych yn ymrafael ag ef. Caiff Ochr-yn-Ochr ei gymedroli bob dydd rhwng 8.30am a hanner nos.
Ewch i
Meddygfa Meddygon Teulu: Mae Canolfan Feddygol Bodnant yn darparu gwasanaethau arbennig i fyfyrwyr, ond gallwch ddewis cofrestru yn unrhyw un o'r meddygfeydd lleol. Os ydych chi y tu allan i Fangor, gallwch chi ddefnyddio Galw Iechyd Cymru (NHS Direct) ar-lein i chwilio am eich meddygfa agosaf. Ar agor yn ystod yr wythnos 8:00am - 6:30pm.
Meddyg Teulu Allan o Oriau: Ar gyfer gofal meddygol pan fydd y Feddygfa Feddygon Teulu ar gau, ffoniwch 0300 123 55 66 (yn ystod yr wythnos 6:30pm - 8:00am, dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc).
Tîm Iechyd Meddwl Gwynedd: Mae ein timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth a chefnogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr. Gellir gwneud apwyntiadau trwy eich meddyg teulu neu'n uniongyrchol trwy ffonio 01248 363470. Wedi'i leoli yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd.
Swyddog ar Ddyletswydd y Gwasanaethau Cymdeithasol: Am bryderon ynghylch oedolion neu blant bregus, cysylltwch â Swyddog ar Ddyletswydd eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.
- Plant: 01758 704 455
- Oedolion: 1766 772577
- Y tu allan i oriau arferol: 01286 675502
Gwasanaeth Cwnsela: Mae'r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu hamser yn y Brifysgol, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, sesiynau cefnogi, a chwnsela un i un. Dewch o hyd iddyn nhw ar y campws:
2il Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF.
Mae ein derbynfa ar agor:
Dydd Llun, Mercher, Iau a Gwener: 9:00am - 12:45pm a 2:00pm - 5:00pm.
Dydd Mawrth (yn ystod y tymor): 9:00am - 12:00pm a 4:00pm - 8:00pm
Ffôn: 01248 388520. E-bost: counselling@bangor.ac.uk
Cynghorwyr Iechyd Meddwl: Mae Cynghorwyr Iechyd Meddwl yn rhoi gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, a'r gwasanaethau a’r gefnogaeth a all fod ar gael. Maent hefyd yn asesu anghenion iechyd meddwl ac yn cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau eraill pan fo hynny'n briodol.
Sesiynau galw hebio
Oherwydd y sefyllfa bresennol, bydd Cheryl, Fiona a Sioned yn cymryd ein sesiwn galw heibio wythnosol reolaidd ar-lein. Bydd rhaid i ni weithio mewn ffordd ychydig yn wahanol fel y gallwn reoli ac ymateb yn deg i fyfyrwyr sydd angen siarad â ni.
Anfonwch e-bost i cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk yn rhoi amlinelliad o'ch sefyllfa a'r dull cyfathrebu sydd orau gennych (galwad fideo / sain 'Microsoft Teams', galwad ffôn neu e-bost). Yna bydd Cynghorydd Iechyd Meddwl yn cysylltu â chi
neu
gallwch ymuno â ni yn ein trafodaeth grŵp, a gynhelir trwy 'Microsoft Teams' ymlaen llaw, 1pm - 1:30 pm, gan weithio ochr yn ochr â Connect@Bangor - svbconnect@undebbangor.com i siarad am bob agwedd ar les. Ni fyddwch dan unrhyw bwysau i siarad; gallwch wrando yn unig, a gallwch anfon e-bost at y Cynghorwyr Iechyd Meddwl i ofyn am apwyntiad yn y sesiwn galw heibio sy'n dilyn.
Mae ein derbynfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn academaidd rhwng 09:00 a 17:00.
Ffôn: 01248 383620 / 382032. E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Ymateb i Ymosodiad (Rhywiol): Os ydych chi'n profi unrhyw fath o drais rhywiol, aflonyddu neu droseddau casineb, gallwn ddarparu lle diogel a chyfrinachol i chi, lle na chewch eich barnu, er mwyn siarad am beth sydd wedi digwydd, a byddwn yn eich cefnogi i symud ymlaen ym mha bynnag ffordd y teimlwch chi sydd orau i chi.
Helen Munro - Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr
2il Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF.
Mae ein derbynfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn academaidd rhwng 09:00 a 17:00.
Ffôn: 01248 388021. E-bost: h.munro@bangor.ac.uk
Pethau i gefnogi'ch hun
Cynlluniau Diogelwch ar gyfer Meddyliau Hunanladdol
Cadw'n Ddiogel: Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i wneud Cynllun Diogelwch ar y wefan hon i unrhyw un sy'n cael trafferth â meddyliau hunanladdol neu'n cefnogi rhywun arall. Fe'i cynlluniwyd i gynnig gobaith, tosturi a syniadau ymarferol ar sut i ddod o hyd i'ch ffordd eich hun ymlaen. Mae'r wefan hon yn Saesneg. Edrychwch ar meddwl.org i gael gwybodaeth yng nghyswllt meddyliau hunanladdol yn Gymraeg.
Technegau Sylfaenol
Technegau rhyngweithiol: Weithiau gall emosiynau deimlo'n rhy ddwys neu'n rhy bell. Mae technegau sylfaenol yn caniatáu ichi adennill rheolaeth ar yr adegau hynny o angen. Dyma bedair techneg i roi cynnig arnyn nhw. Mae'r wefan hon yn Saesneg.
Edrychwch ar meddwl.org i gael gwybodaeth am hunanofal ac ymlacio yn Gymraeg.
Anadlu Gofalgar a Delweddu
Podlediad sain 3 munud: Mae'r podlediad hwn yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar tri munud am ddim a grëwyd gan Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor. Gallwch wrando arno pryd bynnag y byddwch chi'n teimlo dan straen ac mae'n ffordd syml a gwych i dawelu'ch meddwl a'ch corff.
Trac sain 10 munud: Mae'r trac sain hwn yn ymarfer ymlacio sy'n canolbwyntio ar anadlu a'r corff. Gallwch ddod o hyd i hyd yn oed mwy o draciau sain yn Gymraeg a Saesneg ar wefan y Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Mood Tracker
Mood Panda: Dadansoddwch eich hwyliau ar graffiau a chalendrau; cewch gefnogaeth a chyngor gan gymuned MoodPanda. Gallwch ddefnyddio MoodPanda o'ch dyfeisiau symudol a'r ap gwe. Mae'r gwasanaeth hwn yn Saesneg.
5 Cam at Les Meddwl
GIG: Mae tystiolaeth yn awgrymu bod 5 cam y gallwch eu cymryd i wella eich iechyd meddwl a'ch lles. Gallai rhoi cynnig ar y pethau hyn eich helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol a gallu cael y gorau o fywyd:
- Cysylltu â phobl eraill
- Cadwch yn heini
- Dysgu sgiliau newydd
- Rhowch i eraill
- Rhowch sylw i'r foment bresennol
Mae gwefan y GIG yn awgrymu rhai syniadau ar sut i ddod â'r 5 cam hyn i'ch bywyd bob dydd.
Cefnogi Rhywun Arall?
Os ydych chi'n pryderu y gallai myfyriwr fod yn risg iddynt hwy eu hunain neu i eraill, cliciwch ar y cyswllt isod am gyngor a ffynonellau cymorth.
Siart llif iechyd meddwl newydd
Dysgu mwy am Iechyd Meddwl
Taflenni Adnoddau a Ffeithiau
Student Minds UK:
Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys gwybodaeth fanwl am wahanol heriau y gall bywyd prifysgol eu cynnig. Mae'r wefan hon yn Saesneg.
Students Against Depression: Mae 'Students Against Depression' (Myfyrwyr yn Erbyn Iselder) yn wefan sy'n cynnig cyngor, gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'r rhai sydd yn cael ei effeithio gan hwyliau isel, iselder a meddyliau hunanladdol. Ochr yn ochr â gwybodaeth ac adnoddau a ddilyswyd yn glinigol mae'n cyflwyno profiadau, strategaethau a chyngor gan fyfyrwyr eu hunain.
Taflenni Gwybodaeth y Gwasanaeth Cwnsela: Mae'r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn y taflenni gwybodaeth hyn gan y Gwasanaeth Cwnsela yn cynnwys pryder, iselder ysbryd, hiraeth, straen arholiadau, cwsg a mwy. Mae rhywfaint o wybodaeth yn Saesneg.
Cymuned Gynhwysol Prifysgol Bangor: Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am y ffyrdd yr ydym yn cynnal ac yn gwella cymuned gynhwysol Bangor gan gynnwys rhannu gwybodaeth am gefnogaeth a chyngor, gwybodaeth am sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a manylion am sut rydym yn cynnal campws diogel. Dewch o hyd i adnoddau ar anableddau, LGBTQ+, cymunedau ffydd, a mwy. Dyma hefyd lle i ddod i wybod mwy am roi gwybod am drais rhywiol, aflonyddu a throseddau casineb.
Gwybodaeth a Chefnogaeth gan Mind: Os ydych chi'n byw gyda phroblem iechyd meddwl, neu'n cefnogi rhywun sydd, mae'n hanfodol cael gafael ar y wybodaeth gywir. Bydd y wefan hon yn eich cysylltu ag adnoddau ar fathau o broblemau iechyd meddwl, meddyginiaeth a thriniaeth, hawliau cyfreithiol, a mwy.
Podlediadau a Fideos
Cyfweliadau a Thrafodaethau: Mae podlediad rheolaidd y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnwys cyfweliadau â nifer o bobl ddiddorol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys pobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl, ymgyrchwyr ac arbenigwyr iechyd meddwl.
Awgrymiadau a Thechnegau Lles: Dyma gyfres arall gan y Sefydliad Iechyd Meddwl. Mae'r podlediadau hyn yn rhoi awgrymiadau a thechnegau ar wella a chynnal lles mewn amryw o ffyrdd, megis straen, cwsg, diet ac ymarfer corff.
Fideos: Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn darparu fideos gyda gwybodaeth arbenigol a straeon personol. Mae gan sianel YouTube Gwasanaeth Lles Myfyrwyr Prifysgol Goldsmiths fideos ar gyfer myfyrwyr ar bynciau sy'n amrywio o gyhoeddi i straen arholiadau a thechnegau sylfaen. Dewch o hyd i fideos Cymraeg ar meddwl.org.
Offer Hunanasesu
Hunanasesiad iechyd meddwl C.A.L.L.: Bydd y wefan hon yn dweud popeth wrthych am broblemau iechyd meddwl cyffredin ac yn rhoi syniadau i chi ar sut i fynd i'r afael â nhw.
Hunanasesiad hwyliau'r GIG: Gall yr hunanasesiad hwyliau hwn eich helpu i ddeall yn well sut rydych chi wedi bod yn teimlo'n ddiweddar. Mae'r gwasanaeth hwn yn Saesneg.
Blogiau
Meddwl: Yma gallwch ddarllen am brofiadau pobl yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae hefyd nifer o flogiau Cymraeg eraill am iechyd meddwl yma.
Student Minds UK: Blog Student Minds yw'r blog mwyaf yn y DU sy'n ymroddedig i iechyd meddwl myfyrwyr a bywyd prifysgol. Maent yn credu y dylai myfyrwyr gael lle i godi llais am eu profiadau o fyw gydag anawsterau iechyd meddwl a dangos i eraill nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Mae'r wefan hon yn Saesneg.
Medium – Inspire the Mind: Popeth rydych chi wedi bod eisiau ei wybod erioed am iechyd meddwl, ei effeithiau ar yr ymennydd a'r corff, a'r wyddoniaeth y tu ôl iddo. Ysgrifennwyd gan aelodau o'r Labordy Straen, Seiciatreg ac Imiwnoleg (SPI) yng Ngholeg y Brenin Llundain, a chan wahodd awduron gwadd. Mae'r wefan hon yn Saesneg.
Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Bangor
Gwasanaethau Anabledd: Gall y Gwasanaeth Anabledd ddarparu cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion yn ymwneud ag anabledd. Eu nod yw darparu gwasanaeth o ansawdd da sy'n sicrhau y caiff myfyrwyr anabl eu cynnwys yn llawn yn y gymuned academaidd a chymdeithasol, fel y gallwch ganolbwyntio ar eich astudiaethau a bod yn rhan o amgylchedd ehangach y brifysgol.
Canolfan Sgiliau astudio: rydym yn cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb, gweithdai, mannau hwyluso ysgrifennu, ac adnoddau dysgu; rydym yn gweithio'n agos gyda staff academaidd i ymgorffori datblygu sgiliau academaidd yn rhan o'r cwricwlwm.
Cynghorwyr Iechyd Meddwl: Mae Cynghorwyr Iechyd Meddwl yn rhoi gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, a'r gwasanaethau a’r gefnogaeth a all fod ar gael. Maent hefyd yn asesu anghenion iechyd meddwl ac yn cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau eraill pan fo hynny'n briodol.
Trais Rhywiol, Aflonyddu, Troseddau Casineb a Hiliaeth: Os ydych chi'n profi unrhyw fath o drais rhywiol, aflonyddu neu droseddau casineb, gall y gwasanaeth hwn ddarparu lle diogel a chyfrinachol i chi, yn rhydd o farn, i siarad amdano. Byddant yn eich cefnogi i symud ymlaen ym mha bynnag ffordd rydych chi'n teimlo sydd orau i chi.
Gwasanaeth Cwnsela: Mae'r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu hamser yn y Brifysgol, gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, sesiynau cefnogi, a chwnsela un i un.
Undeb Bangor: Undeb Bangor, Undeb y Myfyrwyr, yw llais y myfyrwyr a chartref bywyd myfyrwyr ym Mangor. Mae Undeb Bangor yn rhedeg projectau chwaraeon, clybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli. Mae cymryd rhan mewn cyfleoedd i fyfyrwyr yn ffordd wych o wneud ffrindiau, cwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.