Llinellau
Efallai y gwelwch fod siarad â rhywun dros y ffôn am sut rydych chi’n teimlo yn eich helpu chi. Mae gwahanol linellau cymorth a gwasanaethau gwrando ar gael a all roi cefnogaeth emosiynol. Maent yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr hyfforddedig sydd eisiau eich helpu chi.
Llinellau cymorth Cymraeg a dwyieithog Cymraeg-Saesneg
Enw’r Llinell Gymorth | Arbenigaeth | Rhif Ffôn | Disgrifiad | Ar gael |
---|---|---|---|---|
Samariaid (Llinell Gymraeg) | Cyffredinol | 0808 164 0123 | Beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. | Pob dydd: 7pm - 11pm |
CALL: Llinell Gymunedol ar gyfer Cyngor a Gwrando | Cyffredinol | 0800 132 737 | Gwybodaeth a chefnogaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Gallwch hefyd anfon neges destun “help” i 81066. | 24/7: 365 diwrnod y flwyddyn |
Dan 24/7 | Alcohol/Cyffuriau | 0808 808 2234 | Llinell gymorth ddwyieithog am ddim ynglŷn â chyffuriau. Mae’n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gwybodaeth bellach neu help yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol. Gellwch hefyd anfon neges destun “DAN” i 81066. | 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn |
Meic | Pobl ifanc | 0808 802 3456 | Gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru o dan 25 oed. Gellwch hefyd sgwrsio trwy neges destun ar 84001. | Pob dydd: 8am – Hanner Nos |
Llinell Gymorth Dementia Cymru | Dementia | 0808 808 2235 | Mae’r llinell gymorth yn cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un sydd â diagnosis o Ddementia, neu sy’n gofalu am rywun â Dementia yn ogystal ag aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau. | 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn |