Myfyrwyr Hŷn
Mae Myfyriwr Hŷn yn derm a glywn yn aml ond beth yw myfyriwr hŷn?
Yn y Brifysgol, weithiau, mae angen i ni ddefnyddio diffiniadau penodol, er enghraifft, wrth lunio ystadegau swyddogol mae'n rhaid i ni ddefnyddio diffiniad yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, sef 21 oed neu hŷn wrth ddechrau yn y brifysgol yn achos israddedigion a 25 oed yn achos ôl-raddedigion. Yn yr un modd, wrth gynnig arweiniad ynglŷn â Chyllid Myfyrwyr mae bod yn 25 oed neu hŷn yn un o'r meini prawf ar gyfer ystyried rhywun yn fyfyriwr annibynnol.
Caiff yr ymadrodd 'myfyriwr hŷn' ei ddefnyddio'n aml hefyd i sôn am fyfyrwyr sydd heb ddod i'r brifysgol yn syth o'r ysgol ac yn aml gall olygu fod eu profiad o fywyd yn wahanol iawn. Fodd bynnag, mae angen i ni gofio ei fod yn ymadrodd llac sy'n dueddol o fan yn ystrydebol. Nid yw'n adlewyrchu amrediad oedran myfyrwyr hŷn na pha mor amrywiol ac unigryw ydynt. Nid yw'n cydnabod ychwaith bod sawl agwedd o broffil 'myfyriwr hŷn' yn berthnasol hefyd i nifer o'n myfyrwyr iau.
Ym Mangor rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cymuned gynhwysol ac o'r herwydd rydym yn ceisio ennyn diddordeb myfyrwyr yn y profiad o fod yn fyfyriwr a hynny mewn modd mor eang â phosibl ac mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw. Fodd bynnag, trwy ddilyn y cysylltiadau ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth ar gyfer y rhai hynny ohonoch sy'n ystyried eich hunain yn 'fyfyriwr hŷn'.