Trefniadau Arholiadau Mai 2024
Gweler tudalen amserlen yr arholiadau am fwy o fanylion, a dyddiadau / amseroedd eich arholiadau.
Bydd amserlen yr arholiadau’n nodi a yw eich arholiad ar-lein (h.y. ei ryddhau ar Blackboard) neu yn y cnawd ar y campws. Gweler y camau y bydd angen i chi eu cymryd isod gan ddibynnu pa fath o arholiad a restrir.
Arholiad yn y Cnawd ar y Campws
Mae’n rhaid i fyfyrwyr sydd â Chynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSPs) drefnu'r addasiadau i’r arholiadau cyn POB arholiad yn y cnawd ar y campws ar ddiwedd y semester unwaith y caiff yr amserlenni eu cyhoeddi. Mae hynny er mwyn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cyfateb i ddull asesu pob un o’ch arholiadau. Gofynnwch am addasiadau ar gyfer y semester presennol yn unig.
I archebu eich addasiadau i arholiad, mewngofnodwch i’r Ganolfan Geisiadau a dewiswch 'addasiadau arholiad'.
Gofynnir i chi ddewis pa rai o'r addasiadau o'ch Cynllun Cefnogi Dysgu Personol sydd eu hangen arnoch at bob arholiad.
Gwnewch hynny cyn gynted ag sy’n bosib. Y dyddiad cau ar gyfer trefnu addasiadau arholiad yw dydd Sul 14 Ebrill. Ni allwn warantu ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwnnw.
Ar ôl i chi wneud y cais, cewch wybod trwy'r Ganolfan Geisiadau ynglŷn ag amser a lleoliad eich arholiad(au).
Os hoffech drafod eich trefniadau gydag aelod o staff y Swyddfa Arholiadau, e-bostiwch arholiadau@bangor.ac.uk
PWYSIG:
- Gwnewch eich trefniadau cyn gynted ag y bo modd. Os byddwch yn colli'r dyddiad cau (dydd Sul, 14 Ebrill), ni allwn warantu y gallwn roi eich addasiadau ar waith.
- Myfyrwyr y Gwyddorau Iechyd: cysylltwch â'r Ysgol am addasiadau i arholiadau.
Arholiad Ar-lein
Cafodd fformat yr arholiad ei gynllunio i fod yn gynhwysol, ac felly does dim angen addasiadau unigol (e.e. amser ychwanegol, defnyddio cyfrifiadur, ystafell gymorth arholiadau ac yn y blaen) mwyach. Os ydych chi fel arfer yn cael amser ychwanegol a / neu seibiannau i orffwys, cymerwch y rheiny yn ystod y cyfnod ‘agored’ yn ôl yr angen.
Os ydych chi'n teimlo nad yw fformat newydd yr asesiadau'n addas i chi, cysylltwch â'r Gwasanaethau Anabledd i drafod hynny cyn gynted â phosibl.
Arferion da at y fformat asesu yma:
- Paratowch fel y byddech chi ar gyfer arholiad arferol.
- Os oes gennych broblemau gyda Thechnoleg Gwybodaeth / cysylltedd, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau TG; gallant helpu datrys problemau o bell (e-bostiwch nhw o'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol os yn bosibl, a rhowch rif ffôn cyswllt).
- Os na ellir datrys y problemau TG, cewch ofyn am Sefyll am y Tro Cyntaf Cyntaf neu Drefniadau Amgen - gweler isod.
- Penderfynwch faint o'r gloch y byddwch chi'n stopio am y diwrnod, er mwyn sicrhau eich bod chi'n gorffwys yn ddigonol.
- Peidiwch ag aros tan y funud olaf i gyflwyno'r gwaith, rhag ofn y bydd anawsterau technegol / cysylltedd ar y diwrnod. Ystyriwch gyflwyno gyda'r nos (er mai 8.59am yw'r amser terfynol), oherwydd byddai hynny'n fodd i chi orffwys yn well dros nos.
Beth os na allaf sefyll yr arholiad ar yr adeg y caiff ei ryddhau?
Gallai fod nifer o resymau, gan gynnwys cysylltedd y rhyngrwyd / problemau technegol, salwch a hunan-ynysu. Os na allwch gwblhau'r arholiad yr adeg y caiff ei ryddhau, defnyddiwch y Ganolfan Geisiadau i ofyn ynghylch Sefyll am y Tro Cyntaf neu Drefniadau Amgen'. Os na allwch gael mynediad i'r Ganolfan Geisiadau, ffoniwch 01248 388400 ar dyddiau'r wythnos 10-12 a 2-4 ac mi wnaiff y staff eich helpu.
Ystyriaethau marcio (Slip Melyn)
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor gyda Gwahaniaeth Dysgu Penodol, sydd wedi eu cofrestru gyda'r Gwasanaethau Anabledd ac sydd â Chynllun Cefnogi Dysgu Personol wedi ei sefydlu, yn cael cynnig addasiadau rhesymol slip melyn. Mae’r slip melyn yn golygu y bydd gwaith cwrs ac arholiadau yn cael eu marcio yn ôl cynnwys a syniadau, ac ni fydd marciau’n cael eu tynnu am sillafu a strwythur, oni bai bod y rhain yn rhan o’r meini prawf marcio/ deilliannau dysgu.
Arholiadau Ar-Lein
Cofiwch gopïo a gludo slip melyn i mewn i bob sgript arholiad cyn eu cyflwyno (mae'ch slip melyn chi yn eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol: os ydych chi'n ansicr sut i wneud hyn, gweler Ystyriaethau Marcio (Slip Melyn) i gael arweiniad pellach).
I fynd at y slip melyn electronig:
- Ewch i’ch tudalen Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
- De-gliciwch ar y ddelwedd o slip melyn.
- De-gliciwch ar y ddelwedd copïo.
- Gludwch y ddelwedd i ddogfen Word.
- Fel arall gellir llusgo’r ddelwedd o’r dudalen cynllun cefnogi dysgu personol yn syth i ddogfen Word.
Arholiadau Mewn Person ar Campws
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau arholiadau mewn person ar campws yn llenwi llyfr ateb fel arfer. Bydd angen rhoi slip melyn papur (bydd angen ei gasglu o Dderbynfa'r Gwasanaethau Anabledd, Llawr Gwaelod Isaf, Rathbone) yn y llyfryn.
I’r rhai sy’n gwneud asesiad ar gyfrifiadur, bydd angen i chi ddilyn yr un drefn â’r adran Arholiadau Ar-lein uchod – a chopïo a gludo’ch slip melyn ar flaen eich arholiad.