Myfyrwyr presennol: ydych chi eisiau bod yn arweinydd cyfoed?
Gwnewch Gais Nawr!Pwy all fod yn arweinydd Cyfoed?
Gall unrhyw un sydd eisiau helpu myfyrwyr newydd ymgartrefu ym Mangor fod yn arweinydd cyfoed.
Mae gennym broffil myfyriwr amrywiol a dylai ein harweinwyr cyfoed adlewyrchu hynny – felly peidiwch â gadael i oedran, rhyw, cefndir ethnig neu unrhyw beth tebyg eich rhwystro rhag dod yn arweinydd cyfoed.
Rydym bob amser yn awyddus i recriwtio arweinwyr cyfoed da. Disgwylir i bob arweinydd cyfoed fod yn esiampl gadarnhaol a helpu’r myfyrwyr newydd mewn ffordd gyfrifol, trwy roi eu hanghenion hwy yn gyntaf. Er mwyn gwneud hyn, dylai darpar arweinwyr cyfoed wneud y canlynol:
- hyrwyddo agweddau cadarnhaol ar brofiad myfyrwyr, yn cynnwys cadw at reoliadau a threfniadau
- hwyluso mynediad at amrywiaeth o weithgareddau cynhwysol
- parchu unigolion
- cadw gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol
- annog yfed synhwyrol
- cynnal perthynas gyfeillgar ond proffesiynol (hynny yw ddim yn rhy agos) gyda’r rhai rydych yn eu helpu
- gwrthsefyll pwysau i roi eich crys arweinydd cyfoed i bobl eraill neu ddefnyddio eich mynediad i’r neuaddau i hysbysebu busnesau lleol
Os ydych yn gydwybodol, yn ddibynadwy ac yn weithgar ac yn gallu gwneud pob un o’r uchod mewn modd cyfeillgar ac agos-atoch, byddem yn falch o glywed gennych. Ond dylech ystyried yn ofalus cyn gwneud cais os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir amdanoch chi:
- Rydych yn helpu rhedeg clybiau a chymdeithasau, yn gweithio tra’n astudio neu mae gennych ymrwymiadau tebyg oherwydd efallai na fydd gennych ddigon o amser rhydd
Os mai gweithgareddau cymdeithasol sydd o ddiddordeb i chi yn unig neu os ydych yn credu mai cyfle i gael amser da neu chwarae gemau yfed yw bod yn arweinydd cyfoed, byddai’n well i chi beidio â gwneud cais.
Beth fuaswn yn ei wneud fel arweinydd cyfoed?
Rydym yn disgwyl i arweinwyr cyfoed fod yn esiampl gadarnhaol a chyflawni eu dyletswyddau mewn modd cyfrifol. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys pedwar prif faes:
Cyswllt cyn cyrraedd
Bydd eich ysgol academaidd yn eich helpu i gysylltu â’r myfyrwyr newydd cyn iddynt ddod i Fangor. Gallai hyn fod trwy neges destun, e-bost neu lythyr neu’n amlach y dyddiau hyn, trwy Facebook. Ond pa bynnag ddull mae eich ysgol yn ei ddefnyddio, bydd yn rhoi cyfle i chi gyflwyno eich hun, ateb ychydig o gwestiynau a chael gwybod pan fyddant yn cyrraedd Bangor.
Penwythnos cyntaf
Y penwythnos cyntaf yw pan fydd yr arweinwyr cyfoed yn rhoi croeso cynnes i bawb i Fangor trwy ymweld â hwy yn y neuaddau preswyl. Byddwch allan yn curo ar ddrysau, yn gwneud yn siwr bod pawb yn cael y wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen arnynt ac yn eu gwahodd i ddigwyddiadau cymdeithasol sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer y nos Sadwrn a’r nos Sul.
Yr Wythnos Groeso
Gall yr Wythnos Groeso fod yn brysur iawn gydag arweinwyr cyfoed yn helpu am 15 awr a mwy yn yr ysgolion academaidd. Fel arfer, byddwch yn helpu mewn sesiynau cynefino, yn arwain teithiau fel bod pawb yn gwybod eu ffordd o amgylch y campws a’r dref, yn rhoi gwybodaeth sylfaenol ac yn ateb cwestiynau, yn annog pawb i wneud ffrindiau a dangos empathi tuag at unrhyw un a allai fod yn ei chael yn anodd setlo. Ar ben hyn i gyd, mae’n debygol y bydd digwyddiadau cymdeithasol wedi eu trefnu gan yr ysgol academaidd a digwyddiadau llai ffurfiol wedi eu trefnu gan yr arweinwyr cyfoed.
Ar ôl yr Wythnos Groeso
Bydd llai o weithgareddau arweinwyr cyfoed. Gofynnwn i chi geisio cynnal cyswllt anffurfiol â’r myfyrwyr newydd a sicrhau eich bod ar gael i’w helpu yn ôl yr angen. Mae’n anodd dweud pa mor hir y gallai hyn bara – mae rhai pobl yn ymgartrefu’n gyflym iawn ac nid ydynt yn dymuno cadw mewn cysylltiad â’u harweinwyr cyfoed ond mae eraill yn awyddus i gynnal y cysylltiad. Ond yn gyffredinol, mae’r cysylltiad yn tueddu i ddirwyn i ben yn eithaf cyflym ac erbyn diwedd yr wythnosau cyntaf, yn ôl pob tebyg, ni fydd llawer o gysylltiad rhyngoch (oni bai eich bod wedi dod yn aelod o’r un clybiau neu gymdeithasau neu wedi dod yn ffrindiau â hwy).
Yn ystod yr hyfforddiant, mae ffiniau swyddogaeth arweinwyr cyfoed yn cael eu gwneud yn glir ynghyd â beth ddylai arweinwyr cyfoed ei wneud os byddant yn wynebu unrhyw beth sydd y tu hwnt i’r swyddogaeth honno.
Sut i fod yn Arweinydd Cyfoed
Byddwch yn cael digon o gyfle i wneud cais i fod yn arweinydd cyfoed – cadwch lygad ar linell amser MyBangor a gwyliwch allan am amryw o hysbysiadau, negeseuon a negeseuon e-bost eraill am ddyddiadau a gwybodaeth yn ymwneud â recriwtio. Mae’r system yn gweithio fel yr amlinellir isod:
Mynd i sesiwn wybodaeth
- Cynhelir sesiynau gwybodaeth yn ystod yr ail semester. Bydd y sesiynau yn rhoid amlinelliad byr o'r cynllun. Bwriad y sesiynnau yw i'ch helpu chi i wneud penderfyniad gwybodus am wneud cais ai peidio.
Llenwi ffurflen gais
- Gwnewch cais ar-lein. Gallwch fynd ati yma gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr Bangor arferol. Ceir tudalen o wybodaeth am swyddogaeth arweinwyr cyfoed sy’n rhoi crynodeb o’r wybodaeth i’r rhai sydd wedi colli’r sesiynau gwybodaeth. Ticiwch y blwch ar ddiwedd yr wybodaeth i fynd ymlaen i’r ffurflen ei hun. Anfonir y manylion am yr ymgeiswyr i’r ysgolion academaidd i gadarnhau eu bod wedi cael eu derbyn ar y cynllun, ac ar ôl hynny, byddwch yn cael e-bost yn eich gwahodd i gadw lle yn un o’r sesiynau hyfforddi.
- Mae gan rai ysgolion academaidd systemau ymgeisio ychwanegol eu hunain a byddant yn rhoi gwybod i chi am hynny.
Mynd i sesiwn hyfforddi
- Mae’r hyfforddiant yn orfodol – ni all neb fod yn arweinydd cyfoed heb fod wedi bod yn un o’r prynhawniau hyfforddi. Cynhelir nifer o sesiynau hyfforddi yn y cyfnod rhwng diwedd mis Tachwedd hyd at ychydig ar ôl y Pasg. Pan fyddwch yn cael gwahoddiad i archebu lle, byddwch yn cael dewis o’r rhai sydd ar gael ar y pryd – felly archebwch le ar yr un sydd fwyaf cyfleus i chi.
Pasio’r broses sgrinio
- Ar ôl i chi gael eich hyfforddi, byddwn yn ysgrifennu at eich canolwyr a gwirio eich cofnod disgyblu yn y brifysgol. Ni fyddai mân dramgwydd yn eich rhwystro rhag bod yn arweinydd cyfoed ond byddai materion difrifol neu faterion disgyblu lluosog yn eich rhwystro, gan ein bod yn disgwyl i’n harweinwyr cyfoed fod yn esiampl gadarnhaol. Os na fydd unrhyw broblemau gyda’r rhain, byddwch wedyn yn arweinydd cyfoed.
Unwaith y bydd yr uchod i gyd wedi’i gwblhau, ychwanegir eich enw at restr arweinwyr cyfoed eich ysgol academaidd. Wedyn, bydd y staff arweinwyr cyfoed yn eich ysgol yn rhoi gwybod i chi am y canlynol
- unrhyw gyfarfodydd ysgol y mae angen i chi fynd iddynt
- beth yw eich dyletswyddau
- manylion y myfyrwyr newydd y gofynnir i chi eu cefnogi
Os hoffech wybod mwy am y ffordd mae eich ysgol yn trefnu arweinwyr cyfoed, cysylltwch â’r aelod staff perthnasol gan ddefnyddio’r rhestr yma.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â peerguiding@bangor.ac.uk.