Gwasanaeth Deintyddol Brys
Cael Gafael ar Driniaeth Ddeintyddol Frysemergency
Os oes gennych chi neu aelod o'ch teulu boen deintyddol sydd angen triniaeth frys, dilynwch y cyngor isod i'ch helpu i gael y driniaeth fwyaf priodol.
Os oes gennych ddeintydd GIG rheolaidd, ac os oes arnoch angen triniaeth ddeintyddol frys yn ystod oriau gwaith arferol - cysylltwch â'ch deintydd i gael help cyn gynted â phosibl.
Os oes gennych ddeintydd GIG ac os oes arnoch angen triniaeth frys y tu allan i oriau gwaith arferol, neu os nad oes gennych ddeintydd - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647. Mae gan Galw Iechyd Cymru wasanaeth 24/7 i gleifion siarad â gweithiwr proffesiynol deintyddol fydd yn eich brysbennu, rhoi cyngor i chi, ac os yw'n briodol, eich cyfeirio at Wasanaeth Deintyddol Brys yng Ngogledd Cymru neu hyd yn oed Adran Achosion Brys os yw'n gweld bod angen.
Gwasanaeth Deintyddol Brys
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Brys yn cynnig mynediad at driniaeth ddeintyddol frys i gleifion mewn amrywiaeth o glinigau ledled Gogledd Cymru.
Mae o leiaf un clinig ar agor gyda'r nos ar nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau a bore Sadwrn a Sul.
Mae clinigau'r Gwasanaeth Deintyddol Brys ym Methesda, Llanfair PG, Cyffordd Llandudno, Y Rhyl, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam.
Mae'r clinig yn Wrecsam yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ddeintyddol Grove Road gyda sesiynau gyda'r nos ar nos Iau (12 lle) a bore Sul (24 lle).
Mae’r clinig ar nos Iau drwy apwyntiad yn unig, drwy wasanaeth brysbennu Galw Iechyd Cymru.
Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau bore Sul ond dylai cleifion ddod yno erbyn 9.00am gan ei fod yn llenwi'n gyflym.