Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP)
Rhoddir cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr sydd angen addasiadau rhesymol o ganlyniad i anabledd drwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol. Mae CCDP yn amlinellu effeithiau anabledd ac yn cynnwys yr addasiadau yr argymhellir sydd eu hangen i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynd at eu cwrs a chyfleusterau.
Myfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr newydd, neu os nad ydych wedi cofrestru am CCDP eto, gellwch wneud hynny yn:
https://apps.bangor.ac.uk/plsp/applicant/
Bydd angen i chi naill ai uwchlwytho eich tystiolaeth ddogfennol neu anfon copi at Gwasanaethau Anabledd.
Dylai myfyrwyr presennol fedru gweld a chytuno ar eu CCDP yn FyMangor yn:
https://apps.bangor.ac.uk/plsp/student/
I gael mwy o wybodaeth ar addasiadau, edrychwch ar Eich CCDP wedi'i Egluro.
Cwestiynau cyffredin
Beth yw Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP)?
Caiff myfyrwyr sydd angen addasiadau rhesymol o ganlyniad i anabledd gefnogaeth ychwanegol trwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol. Mae CCDP yn amlinellu effeithiau anabledd ac yn cynnwys yr addasiadau yr argymhellir eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mynd at eu cwrs ac at gyfleusterau.
Ydw i’n gymwys i gael CCDP?
Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch, o ganlyniad i anabledd, mae gennych yr hawl i gael CCDP. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘anabledd’, ymysg pethau eraill, yn cynnwys cyflyrau iechyd tymor hir a pharhaus, nam corfforol, cyflyrau iechyd meddwl neu gwahaniaethau dysgu penodol (ADP), yn cynnwys dyslecsia, dyspracsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gael CCDP?
Mae angen i chi gymryd nifer o gamau:
- Cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd. Gellwch wneud hynny ar: https://apps.bangor.ac.uk/plsp/applicant/
- Cydsynio i rannu gwybodaeth. Wrth gofrestru, rhowch ü yn y blwch cydsynio i rannu gwybodaeth. Darllen ein polisi cyfrinachedd.
- Rhoi tystiolaeth o anabledd i ni. Gall hon fod yn adroddiad gan Seicolegydd Addysgol neu lythyr gan eich meddyg neu gan ymarferwr meddygol arall. Bydd angen i unrhyw dystiolaeth fod yn Gymraeg neu’n Saesneg.
- Os ydych eisoes wedi cael Asesiad Anghenion Astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl, rhowch gopi o’r adroddiad i ni.
- Yn ddelfrydol, dylech uwchlwytho eich dogfen(nau) wrth gofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd. Fodd bynnag, gellwch hefyd alw heibio a’u cyflwyno, neu gellwch bostio copi atom.
- ‘Cytuno’ ynglŷn â’r CCDP. Ar ôl i chi ddilyn y camau uchod, bydd Cynghorwr yn llunio eich CCDP. Efallai bydd ef/hi’n awyddus i’ch gweld yn gyntaf, neu bydd ganddo/ganddi ddigon o wybodaeth o’r dystiolaeth am yr anabledd a roddwyd gennych. Unwaith y caiff eich CCDP ei ddrafftio, cewch wybod trwy e-bost a byddwch yn gallu ei weld (ac argraffu fersiwn PDF os dymunwch) yn FyMangor. Bydd angen ichi roi tic yn y blwch ‘Cytunwyd gan y Myfyriwr’. Cyn gynted ag y gwnewch hyn, bydd eich CCDP yn mynd yn ‘fyw’ a chaiff ei weld gan staff perthnasol er mwyn gweithredu’r addasiadau rhesymol.
- Os oes arnoch angen rhai newidiadau ar eich CCDP, rhowch ü yn y blwch ‘Myfyriwr yn Anghytuno’ ac anfonwch e-bost i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383620 neu 382032 i drafod y mater.
- Os na fyddwch yn gwneud dim cyn pen 5 niwrnod, byddwn yn ystyried eich bod yn hapus ynglŷn â’ch CCDP a bydd yn mynd yn ‘fyw’, fel y gallwn fynd ati i wneud eich addasiadau rhesymol yn ddi-oed.
Pwy fydd yn gweld fy CCDP?
Dim ond staff perthnasol sydd angen gwneud argymhellion ac addasiadau rhesymol:
- Gwasanaethau Anabledd
- Naill ai staff yn y Tîm Dyslecsia neu’r Tîm Anabledd – er mwyn creu, gweinyddu a rheoli eich CCDP.
- Staff allweddol yn eich Ysgol academaidd
- Gall Tiwtor Anabledd, Tiwtor Personol a Thiwtor Uwch yn eich Ysgol weld y CCDP yn ei gyfanrwydd. Gall Tiwtor Anabledd cytuno ynglŷn â’r addasiadau i addysgu a dysgu ac asesu, gan sicrhau eu bod yn unol â deilliannau dysgu eich cwrs.
- Bydd angen i weinyddwyr wybod a oes gennych hawl i gael addasiadau rhesymol a byddant yn gallu gweld eich CCDP. Gall Swyddogion Arholiadau weld adroddiad ar fyfyrwyr yn eu Hysgolion sy’n cael addasiadau rhesymol ar gyfer arholiadau.
- Gall trefnwyr modiwlau weld tab rhestr dosbarthiadau lle gallant weld hawliau myfyrwyr unigol mewn perthynas ag addysgu a dysgu, ac mae ganddynt gyfrifoldeb dros sicrhau bod addasiadau rhesymol yn digwydd o ran addysgu a dysgu.
- Gall arweinwyr rhaglenni weld tab sy'n rhestru aelodau'r dosbarth sy'n dangos gofynion addysgu a dysgu unigol myfyrwyr.
- Bydd staff allweddol yn y gwasanaethau canolog yn gallu gweld adroddiad gyda’ch manylion cyswllt a’r addasiad(au) sy’n ofynnol – ni fyddant yn gallu gweld y CCDP yn ei grynswth.
- Bydd staff y llyfrgell yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr sydd angen benthyciadau estynedig gan y llyfrgell a/neu’r gwasanaeth casglu llyfrau.
- Bydd staff parcio yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr sydd â Bathodyn Glas neu’r rheiny sydd angen trwydded ‘mynediad i bob parth’.
- Bydd Swyddog Arholiadau’r Brifysgol Ysgolion yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr sydd angen addasiadau i’r arholiadau diwedd semester, yn ogystal â CCDPau unigol.
- Bydd Tîm y Wardeiniaid yn gweld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr yn y Neuaddau sydd eisiau i’r wardeiniaid fynd ar rai ymweliadau ychwanegol i weld a ydynt yn ymgartrefu.
- Caiff y Swyddfa Neuaddau wybod am unrhyw fyfyrwyr a fo angen cyfleusterau ychwanegol, e.e. oergell yn eu hystafell, neu addasiadau arbennig i’w hystafell.
- Os byddwch angen Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng (PEEP), bydd Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Brifysgol yn gallu gweld adran Amgylchedd Ffisegol eich CCDP, ynghyd â manylion am eich anabledd a’ch manylion cyswllt. Caiff eich Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng ei uwchlwytho ar eich CCDP a byddwch chi, y Gwasanaeth Anabledd, eich Tiwtor Anabledd (os oes angen) a’r Swyddfa Neuaddau (os oes angen) yn gallu gweld eich Cynllun Personol Dianc mewn Argyfwng.
Caiff y Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, a swyddogion enwebedig y Tîm Llywodraethu a Chydymffurfio, a' r Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr) weld Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol y myfyrwyr yn rhinwedd eu swyddi.
Pennaeth y Gwasanaethau Anabledd sydd â chyfrifoldeb dros roi caniatâd. Oherwydd gwahanol fframweithiau cyrsiau, bydd adegau’n codi pryd y bydd ar staff addysgu ychwanegol angen mynediad i’r adran addysgu a dysgu; mae'n bosib y bydd adegau hefyd yn codi pryd y bydd ar staff ychwanegol angen mynediad pe bai pryderon yn codi am les y myfyriwr. Ymdrinnir â’r mathau hyn o ganiatâd yn unigol.
Fel y gwelwch, rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i rannu gwybodaeth am anabledd, ac nid ydym yn gwneud hynny ond er mwyn sicrhau bod eich gofynion am gefnogaeth ac addasiadau rhesymol yn cael sylw. Mae’r gwaith o ddatblygu Rhaglen y CCDP ar y gweill, a gwneir unrhyw newidiadau mewn ymateb i adborth.
Cofiwch, MAE gennych yr hawl i gyfrinachedd llwyr ac i gyfyngu ar bwy sy’n gallu mynd at wybodaeth am eich anabledd, eich gwahaniaeth dysgu penodol neu’ch cyflwr iechyd. Os felly, PEIDIWCH â rhoi ü yn y blwch cydsynio i rannu gwybodaeth wrth gofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd. Bydd cyfrinachedd llwyr yn cael effaith ar yr addasiadau y gallwn eu creu, felly, da chi, anfonwch e-bost i’r Gwasanaethau Anabledd neu ffoniwch 01248 383620 neu 382032 i siarad â Chynghorwr i drafod y goblygiadau ac i nodi strategaeth briodol, i sicrhau y cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yng nghyswllt anabl
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Gwasanaethau Anabledd neu ffoniwch 01248 3832032.
Wedi'i ddiweddaru 11.08.2022