Mwy o wybodaeth
Cefndir Cynllun Arweinwyr Cyfoed
Mae’r Cynllun Arweinwyr Cyfoed yn llwyddiannus iawn. Cafodd ei ddatblygu yn y cychwyn dan brosiect GALA (1994–96) a chafodd ei mabwysiadu trwy’r sefydliad. Erbyn hyn mae Arweinwyr Cyfoed yn cefnogi myfyrwyr newydd ym mhob Ysgol academaidd.
Mae Arwain Cyfoed wedi’i anelu’n bennaf ond nid yn gyfan gwbl at raddedigion blwyddyn gyntaf amser llawn. Mae’n adeiladu ar y gefnogaeth ad hoc i gyfoedion sy’n datblygu’n naturiol o fewn cymunedau myfyrwyr, ac yn ffurfioli’r gefnogaeth honno.Mae Arweinwyr Cyfoed yn cynorthwyo myfyrwyr newydd mewn ffordd gyfeillgar ac anffurfiol i sicrhau eu bod yn dod yn gyfarwydd â’r lle ac i wneud ffrindiau newydd- fel hynny, byddant yn setlo’n haws i’w bywyd ym Mangor.
Y bwriad yw gwella’r arweiniad a gynigir i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf trwy sicrhau bod safbwynt myfyrwyr yn cael ei gynrychioli; nid yw hyn yn amharu dim ar rôl tiwtoriaid personol na swyddogaethau academaidd o fewn yr adrannau nac ar y cyngor a’r arweiniad proffesiynol sy’n cael eu darparu’n ganolog gan y sefydliad. Bydd yr Arweinwyr Cyfoed yn cael eu hyfforddi i wybod beth yw terfynau eu hawdurdod ac at bwy i gyfeirio materion lle bydd angen lefel uwch o arweiniad.
Manteision y Cynllun
Mae pawb sy’n rhan o’r cynllun yn cael rhyw fydd ohono:
- Bydd myfyrwyr newydd yn cael rhywun i’w cyflwyno i’w cyd-fyfyrwyr, y systemau prifysgol, y campws a’r dref.Gallant gynnig cyngor cyfeillgar iddynt, a’u cynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i deimlo’n gartrefol ar unwaith..
- Bydd Arweinwyr Cyfoed yn datblygu sgiliau personol a phroffesiynol
- Bydd Ysgolion Academaidd yn cael help ychwanegol sy’n atodi a chefnogi’r system tiwtoriaid personol
- Mae myfyrwyr yn dod yn gartrefol yn y sefydliad yn sydyn ac yn effeithiol, fel bod lla o bwysau ar y systemau cefnogi mwy ffurfiol a bod llai o fyfyrwyr yn methu ymgartrefu yn y brifysgol.
Effeithiolrwydd Arweinwyr Cyfoed
Mae ein harfarniadau mwyaf diweddar dangos bod Arweinwyr Cyfoed yn effeithiol iawn:
- Roedd 84% yn meddwl bod yr help a gawsant yn ddefnyddiol
- Roedd 53% wedi cael eu hannog i siarad â staff i ddatrys problemau roeddent yn eu cael wrth ymgartrefu
- Roedd 50% o’r sylwadau agored yn canmol yr arweinwyr cyfoed am fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu
Bob blwyddyn rydym yn rhoi gwobr arbennig i Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn. Gwahoddir y myfyrwyr newydd i gyd i enwebu’r Arweinydd Cyfoed a ddylai ennill y clod yn eu barn hwy. Dyma rai o’r nifer fawr o sylwadau rhagorol a ddaeth gyda’r enwebiadau dros y blynyddoedd diwethaf:
- Roedd yn gwneud i mi ac eraill deimlo’n gartrefol, a phan oeddwn i’n teimlo hiraeth roedd yn gwneud yn siwr fy mod yn iawn.
- Roedd ar gael bob amser a rhoddodd lawer o’i amser i wneud yn siwr bod y glas-fyfyrwyr yn iawn
- Roedd yn gwneud y cyfnod o geisio ymgartrefu yn llai poenus.
- Roedd yn help i mi trwy gyfnod anodd iawn
- Roedd yn help gwych o ran setlo
- Roedd cymorth ar gael pan roedd angen hynny arnom
A’r sylw sy’n gwneud popeth yn werth yr ymdrech
- Heb fy Arweinydd Cyfoed mi fyddwn i wedi eistedd yn fy ystafell â’m mhen yn fy mhlu neu mi fyddwn i wedi gadael
Strwythur y Cynllun Arweinwyr Cyfoed
Mae’r cynllun yn cael ei weithredu ar draws y brifysgol gyfan ac mae cydlynydd canolog yn gyfrifol am safoni’r cynllun drwy’r brifysgol o ran recriwtio, hyfforddi a chysylltu ag Arweinwyr Cyfoed yn ogystal â threfnu’r Seremoni Arweinwyr Cyfoed a gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun.
Mae gan bob Ysgol Academaidd hefyd gydlynydd sy’n cydweithio gyda’r Cydlynydd Canolog i sicrhau fod y broses yn safonol ac yn gweithredu’r cynllun o fewn yr ysgol ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn rhedeg yn effeithiol. Y person hwnnw sy’n pennu’r Arweinwyr Cyfoed i’r myfyrwyr newydd ac yn trefnu pa Arweinwyr Cyfoed sy’n gwneud beth.
Yn aml bydd yr Uwch Arweinwyr Cyfoed (rheiny sy’n Arweinwyr Cyfoed am yr ail dro) yn cefnogi ac yn helpu gyda threfniadaeth ar lefel ysgol.