Sut rydym yn gweithio ar draws y Brifysgol i wneud gwelliannau
Drwy wrando arnoch chi! Gellwch roi sylwadau i ni mewn unrhyw ffordd rydych ei eisiau, ond y prif beth yw rhoi gwybod i ni beth sy'n gweithio i chi, a beth sydd ddim yn gweithio. Gellwch gymryd rhan hefyd mewn nifer o Grwpiau a Phwyllgorau yn y Brifysgol. Mae hynny nid yn unig yn rhoi cyfle i chi ddweud eich barn, ond gellwch gael profiad hynod werthfawr hefyd a chael pwyntiau XP!
Am fwy o wybodaeth, gweler Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
Gweithgor Mynediad Cynhwysol (GMC)
Mae'n bolisi gan y Brifysgol sicrhau bod pob adeilad newydd, ac adeiladau a adnewyddir, yn cynnwys anghenion pobl anabl. Caiff ei gadeirio gan y Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr) ac mae'n adrodd i'r Grŵp Tasg Gwasanaethau Eiddo a Champws ac i'r Gweithgor Anabledd. Mae'r GMC yn blaenoriaethu meysydd gwaith allweddol er mwyn cael gwared ar rwystrau diangen a gwella'r amgylchedd ffisegol. Mae'r Grŵp yn cydnabod pwysigrwydd budd-ddeiliaid anabl wrth wneud penderfyniadau ac mae'n awyddus iawn i gynyddu ei aelodaeth ymysg myfyrwyr.
Os hoffech fod yn aelod o'r Grŵp hwn, neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk.
Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl
Mae tair prif elfen i'r Strategaeth Iechyd Meddwl: Cynorthwyo Myfyrwyr sydd ag Anawsterau Iechyd Meddwl, Hyrwyddo Iechyd Meddwl a Chefnogi Staff. Mae'r Grŵp yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i drafod datblygiadau a gweithredu darpariaethau pellach i fyfyrwyr sydd ag anawsterau iechyd meddwl.
Os hoffech fod yn aelod o'r Grŵp hwn, neu os hoffech gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â cynghori@bangor.ac.uk.
Cymerwch ran a dweud eich barn!
Hoffai'r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr a'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl roi cyfle i chi ddylanwadu ar y gwasanaethau rydych yn eu defnyddio. Rydym yn sefydlu Grwpiau Defnyddwyr Gwasanaeth i roi cyfle i chi ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl o'r gwasanaethau rydym yn eu darparu, beth y gallem ei wneud yn well, a pha bethau eraill yr hoffech ein gweld yn eu gwneud. Bydd y wybodaeth a gaiff ei chasglu yn cael ei defnyddio wrth i ni gynllunio'n strategaeth a datblygu polisïau at y dyfodol.
Undeb y Myfyrwyr
Rydym yn cydweithio'n agos ag Undeb y Myfyrwyr. Gwahoddir Cyfarwyddwr yr Undeb, y Swyddogion Sabothol a'r Cynrychiolydd Myfyrwyr Anabl i eistedd ar Grwpiau perthnasol.
Wedi'i ddiweddaru 17.12.19